Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein dulliau cynllunio i gefnogi gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng gwydn y gaeaf hwn.

Mae’n debygol y bydd cyfnod y gaeaf yn cyflwyno heriau ychwanegol i system gofal brys a gofal mewn argyfwng, sydd eisoes dan straen, os bydd cynnydd mewn achosion o COVID-19 a’r ffliw, ac o ran cyd-destun costau byw a’r argyfwng ynni. Bydd aelodau’n gwybod bod cynlluniau ar waith sy’n canolbwyntio ar frechiadau COVID-19 a’r ffliw, a chymorth ychwanegol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y costau sy’n cynyddu’r gaeaf hwn.

Mae cynllunio ar gyfer y tymhorau mwyaf prysur yn ymarfer a gynhelir drwy gydol y flwyddyn a dechreuodd y gwaith o ddatblygu ymyriadau, a fydd yn galluogi rhagor o wydnwch, fisoedd yn ôl. Yn ogystal, mae fframwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf wedi’i gyflwyno i sefydliadau GIG Cymru a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i’w cefnogi i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng gwydn y gaeaf hwn.

Ers Gwanwyn 2022, mae Byrddau Iechyd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau gofal brys a gofal mewn argyfwng sy’n canolbwyntio ar nifer fach o flaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cefnogi pobl i gael mynediad at y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. I gefnogi cysondeb a harneisio momentwm, mae’r fframwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf yn nodi disgwyliadau i’r Byrddau Iechyd weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar y blaenoriaethau hyn a datblygu ymyriadau gwell ar gyfer cyfnod y gaeaf. Ymhlith y blaenoriaethau hyn mae:

    • Ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o GIG 111 Cymru, gan annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaeth 111 fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cael gwybodaeth ddibynadwy am iechyd yn rhad ac am ddim er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y gwasanaeth cywir, ar y cynnig cyntaf;
    • Optimeiddio rôl gwasanaethau trydydd sector i wella profiad a chanlyniadau i bobl sy'n agored i niwed sy'n cael gofal mewn Adrannau Achosion Brys neu ysbytai;
    • Cynyddu cyfleoedd i bobl sydd â chwynion gofal brys gael eu hasesu a'u trin i ffwrdd o'r Adran Achosion Brys ac o fewn Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys;
    • £3m ar gyfer recriwtio 100 o glinigwyr ambiwlansys newydd y disgwylir y bydd yn weithredol erbyn diwedd Rhagfyr;
    • Cynyddu capasiti ymateb ambiwlansys brys drwy weithredu cylchrestr staff newydd i gynnig effeithlonrwydd sy'n cyfateb i tua 70 o aelodau llawn amser;
    • Lleihau'r oedi hir wrth drosglwyddo cleifion ambiwlansys i wella profiadau cleifion a datgloi capasiti ambiwlansys;
    • Mae £2 filiwn arall bellach ar gael ar gyfer byrddau iechyd er mwyn gwella amgylchedd eu hadrannau achosion brys, i roi profiad gwell i gleifion y gaeaf hwn; ac
    • Ymestyn gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i fod ar gael saith diwrnod er mwyn helpu pobl a fyddai fel arfer wedi cael eu hanfon i'r ysbyty i ddychwelyd adref i gysgu yn eu gwely eu hunain.

Yn ogystal, mae Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol wedi datblygu cynlluniau i gynyddu capasiti gwelyau cymunedol neu fannau sy'n cyfateb i welyau cyn cyfnod y gaeaf. Nod y cynlluniau hyn fydd cymryd cam ychwanegol i adennill darpariaeth ac ymatebion cymunedol drwy ymdrech a rennir ymhlith partneriaid. 

Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â mesurau ychwanegol i hybu'r gweithlu gofal yn y gymuned, ac mae'n elfen allweddol o'n dull gwell o gynllunio ar gyfer y gaeaf. Bydd yn cefnogi pobl i ddychwelyd adref neu i'w cymunedau lleol pan yn barod, ac o ganlyniad, dylai wella prydlondeb gofal mewn rhannau eraill o'r system gofal brys ac argyfwng.

Rwy'n disgwyl i Fyrddau Iechyd weithio ar y cyd â phartneriaid drwy'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i fireinio cynlluniau, gan dynnu ar yr hyn a ddysgwyd o'r gaeaf blaenorol a heriau parhaus y pandemig, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles cleifion.

Bydd disgwyl i Fyrddau Iechyd gyflwyno cynlluniau gwydnwch ar gyfer y gaeaf i'w priod Fyrddau i'w cymeradwyo, a bydd adolygiad o gynllun pob Bwrdd Iechyd yn rhan o gyfarfodydd Cynllunio a Chyflawni Integredig Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

Byddaf yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau drwy gydol cyfnod y gaeaf.