Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 19 Mehefin, ynghyd â’r Dirprwy Weinidog Iechyd, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn y pedwaredd cyfarfod ar hugain o Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn. Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd o dan gadeiryddiaeth An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon. Roedd Gweinidogion blaenllaw o Weinyddiaethau eraill y Cyngor yn bresennol, gan gynnwys;

  • Yr Ysgrifennydd Tramor, [y Gwir Anrh.] Philip Hammond AS o Lywodraeth y DU,
  • Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh. Peter Robinson MLA, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness MLA,
  • Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban [y Gwir Anrh.] Nicola Sturgeon MSP,
  • Prif Weinidog Ynys Manaw, yr Anrh. Allan Bell,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, Seneddwr Ian Gorst,
  • Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey, Dirprwy Jonathan Le Tocq.

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau gydweithredu a rhannu arfer da ynghylch y materion cyffredin rydym yn eu hwynebu. Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i’r Aelod-weinyddiaethau ystyried yr economi a’r heriau sy’n codi yn sgil camddefnydd o alcohol ym mhob un o’r Aelod-weinyddiaethau.

Yn ystod y drafodaeth am yr economi, nodais fod y sefyllfa economaidd yng Nghymru yn gwella a bod cyflogaeth yn dychwelyd i’r lefelau cyn y dirwasgiad. Er gwaethaf heriau cyni cyllidol, rydym yn gweld twf cryf mewn rhai meysydd, fel y diwydiannau creadigol. Pwysleisiais bwysigrwydd economaidd y cysylltiadau cryf rhwng Aelodau’r Cyngor, fel ein cysylltiadau ag Iwerddon a’r swyddfa sydd gennym yn Nulyn. Nodais ein bod yn ddiweddar wedi gweld y mewnfuddsoddiad gorau yng Nghymru ers 30 mlynedd. Tynnais sylw at bwysigrwydd datblygu sgiliau i sicrhau mewnfuddsoddiad, gan adeiladu ar ein llwyddiant gyda Twf Swyddi Cymru.

Mewn perthynas â buddsoddi, pwysleisiais eto bwysigrwydd aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd i Gymru, a mynegais bryder ynghylch yr ansicrwydd y mae’r refferendwm yn ei achosi o safbwynt buddsoddi. Nodais y dylid cynnal y refferendwm cyn gynted â phosibl, heb effeithio ar etholiadau’r Cynulliad, er mwyn achosi cyn lleied o ansicrwydd â phosibl.

Croesawodd y Dirprwy Weinidog Iechyd y cynnig am ymateb ar y cyd i’r camddefnydd o alcohol ar draws y DU. Mae atal y camddefnydd o alcohol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fel rhan o’n strategaeth ehangach ar gyfer iechyd y cyhoedd. Mae hwn yn fater hollbwysig, o ystyried y bu farw 467 o bobl mewn cysylltiad ag alcohol yn 2013. Nododd y Dirprwy Weinidog pa mor bwysig yw newid agweddau at alcohol, ac mae ein strategaeth, gyda chefnogaeth buddsoddiad blynyddol o £50m, yn cynnwys ystod o wasanaethau addysg a thriniaeth ledled Cymru. Hefyd, ceir nifer o ymyriadau gwella iechyd sy’n cyfrannu at fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol, gan gynnwys ymgyrchoedd addysg Newid am Oes ‘Paid gadael i'r ddiod dy ddal di'n slei bach’. Hefyd amlinellodd y Dirprwy Weinidog ein cynlluniau ar gyfer adolygiad trylwyr o bob marwolaeth cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru er mwyn creu cronfa ddata gynhwysfawr o farwolaethau alcohol a nodi tystiolaeth a fydd yn sail i waith yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr Uwchgynhadledd mewn Cyd-hysbysiad.

http://www.britishirishcouncil.org/news/twenty-fourth-british-irish-council-summit-held-dublin