Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Fis diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil Hawliau. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Mawrth.
Ni ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ac ni chafodd ei chynnwys yn y gwaith o baratoi’r ymgynghoriad. Rydym yn siomedig â natur ddifrïol a thuedd yr adroddiad a’r cwestiynau ymgynghori. Rydym yn dal i fod yn gwbl grediniol na ddylid lleihau dim ar hawliau dynol a’u bod yr un mor berthnasol i bawb. Ymddengys fod yr ymgynghoriad, mewn mannau, yn gwyro o’r egwyddor bwysig a sylfaenol hon.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn amlinellu’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol a ddylai fod gan bawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn y gyfraith ddomestig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i warchod hawliau pobl Cymru ac i sicrhau nad amherir arnynt, ac nid yw wedi’i darbwyllo o’r angen i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol. Comisiynwyd ein gwaith ymchwil ein hunain ar Gryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n datblygu ein hymateb i’r argymhellion a gododd yn sgil y gwaith hwn.
O dan gynigion diweddaraf Llywodraeth y DU, byddai’r DU yn parhau i arddel y Confensiwn, ac rydym yn croesawu hynny, ond ni fyddai Bil Hawliau yn adlewyrchu rhai o brif egwyddorion a mesurau gwarchod y Ddeddf Hawliau Dynol. Nid ydym yn cytuno â’r newidiadau a gynigir. Ni ddylid glastwreiddio hawliau dynol yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bod y Deyrnas Unedig yn parhau i arwain y ffordd o ran gwarchod hawliau dynol a galluogi pobl i’w harfer.
Mae gennym bryderon gwirioneddol ynghylch rhai o’r cynigion – er enghraifft, atal llys rhag dirymu rhai mathau o is-ddeddfwriaeth y canfyddir eu bod yn anghydnaws â hawliau dynol person, a’r dull gweithredu mewn perthynas ag alltudio dinasyddion.
Mae’r gofyniad bod yn rhaid i ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan y Senedd fod yn gydnaws â’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu bod y Ddeddf yn hanfodol i setliad datganoli Cymru (fel y mae i setliadau datganoli eraill y DU). Byddai’n destun pryder hynod ddifrifol, felly, pe bai Llywodraeth y DU yn ystyried gweithredu yn y maes hwn heb gytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y DU.
Ymddengys fod yr ymgynghoriad yn codi cwestiynau pwysig o ran mynediad at y llysoedd, gweithredu’r gyfraith a rôl y llysoedd wrth gymhwyso’r gyfraith mewn perthynas â hawliau dynol.
Mae’n aneglur hefyd sut y bydd yr adolygiad yn effeithio ar fuddiannau deddfwriaethol ac economaidd-gymdeithasol penodol y llywodraethau datganoledig.
Mae’n siom y bydd yr adolygiad yn eithrio’n benodol y cyfle i ymchwilio i’r posibilrwydd o gynyddu hawliau dynol cymdeithasol ac economaidd.
Mae’r cyfeiriad yn yr adolygiad at fynd i’r afael â chwestiwn ‘rights inflation’ yn destun pryder inni yn ogystal â chywair llawer o’r ddogfen, ynghyd â’r awgrym na ddylai pob unigolyn fod â’r un hawliau. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn am ei ystyried yn fanwl.
Mae’n bosibl bod yna oblygiadau eang i’r cynigion o ran ein polisïau cydraddoldeb, cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cydlyniant cymunedol a llawer o faterion eraill. Bydd angen ystyried a thrafod hyn oll yn fanwl gyda’n rhanddeiliaid.
Nid ni yw’r unig rai sydd â phryderon o bell ffordd. Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney ASA, wedi rhannu â ni ei lythyr at yr Arglwydd Ganghellor Dominic Raab AS, yn amlinellu gwrthwynebiad Llywodraeth yr Alban i gynigion Llywodraeth y DU. Codwyd pryderon hefyd gan Liberty, Amnesty a Chymdeithas y Cyfreithwyr er enghraifft.
Fel eraill, rydym yn siomedig bod Llywodraeth y DU, i bob golwg, wedi anwybyddu llawer o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol, a gadeiriwyd gan Syr Peter Gross, gan gynnwys ein gwaith ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, a gadarnhaodd y buddiannau positif sy’n deillio o’r Ddeddf Hawliau Dynol, gan nodi’r effaith negyddol bosibl o amgylch y byd pe bai’r DU i’w gweld yn cymryd camau tuag yn ôl ym maes hawliau dynol sylfaenol.
Mae cynigion Llywodraeth y DU yn codi pryderon mawr. Byddwn yn trafod ymhellach â hi, yn ogystal ag â llywodraethau datganoledig eraill ac â’n rhanddeiliaid ein hunain er mwyn gwneud ein gorau glas i warchod a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru a’r DU.