Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn ei adroddiad o 2024, Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050.
Mae llifogydd ac erydiad arfordirol ymhlith effeithiau mwyaf uniongyrchol a gweladwy y newid hinsawdd sy'n wynebu cymunedau yng Nghymru. Mae ein dull gweithredu wedi'i wreiddio'n gadarn yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Strategaeth Addasu i Newid Hinsawdd Cymru, a Deddf Llesiant‑Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Gyda'i gilydd, mae'r fframweithiau hyn yn llywio ein huchelgais i leihau risg, adeiladu gwydnwch a chefnogi cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid.
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma ar yr ymrwymiadau a wnaed yn fy ymateb i'r adroddiad ym mis Ebrill 2025. O ystyried maint a natur hirdymor yr her, bydd y camau hyn yn parhau i dymor y Senedd nesaf, yn unol â blaenoriaethau'r llywodraeth nesaf.
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer cymunedau gan gryfhau'r sylfeini ar gyfer dulliau tymor hwy, sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd ac sy'n gydweithredol. Mae hyn yn cynnwys y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, darpariaeth ehangach o gynlluniau Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM), a gweithio'n agosach gyda phartneriaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, cymunedau a'r sector gwirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddiogelu cymunedau wrth baratoi Cymru ar gyfer dyfodol sydd â mwy o risg hinsawdd. Mae'r gwaith a nodir yn y datganiad hwn yn dangos cynnydd clir, cyfeiriad teithio cryf ac ymrwymiad i bartneriaeth, gwydnwch ac ymaddasu hirdymor.
Diweddariad ar ein hymrwymiadau mewn ymateb i argymhellion NICW
Argymhelliad 1 – Llywodraethu ac Arweinyddiaeth Strategol
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am integreiddio strategol cryfach ar draws meysydd dŵr, perygl llifogydd, defnydd tir ac addasu i'r hinsawdd. Rydym wedi bod yn ystyried yr argymhelliad hwn ochr yn ochr â diwygio llywodraethu dŵr yn ehangach, gan gynnwys canfyddiadau'r Comisiwn Dŵr Annibynnol (IWC).
Yn ein Papur Gwyrdd, Llunio Dyfodol Llywodraethu Dŵr yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, fe wnaethom dderbyn egwyddorion argymhellion yr IWC mewn perthynas â'r angen i'r Llywodraeth osod cyfeiriad strategol (argymhelliad 1) a sefydlu swyddogaeth cynllunio system genedlaethol ar gyfer dŵr (argymhelliad 3). Rhaid i unrhyw fecanweithiau i weithredu'r rhain gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n pwysleisio'r angen i gymryd dull integredig. Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 7 Ebrill ac rydym yn ceisio barn bellach ar y pwyntiau hyn. O ystyried pa mor eang yw'r diwygio sydd ar y gweill, bydd penderfyniadau ar drefniadau llywodraethu cenedlaethol newydd, gan gynnwys unrhyw rolau statudol newydd, yn fater ar gyfer tymor y Senedd nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gryfhau gwaith cydlynu ar draws cyrff presennol ac i weithio'n agos gyda phartneriaid i wella aliniad strategol.
Argymhelliad 2 – Strategaeth Gwrthsefyll Llifogydd a Gwydnwch Arfordirol hirdymor
Mae Cymru eisoes yn elwa o Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol sy'n cyrraedd hyd at 2030 a thu hwnt, gyda chefnogaeth rhagamcanion hinsawdd hirdymor a chynlluniau ymaddasu. Rydym yn bwriadu dychwelyd at y cwestiwn o strategaeth wydnwch integredig hirdymor yn y Senedd nesaf, wedi'i alinio â blaenoriaethau'r llywodraeth yn y dyfodol a gwaith diwygio polisi dŵr a hinsawdd yn ehangach. Ein huchelgais yw gweithio tuag at fframwaith strategol wedi'i adnewyddu sy'n edrych ymlaen y tu hwnt i 2030, sydd unwaith eto'n cysylltu â'n hymgynghoriad Papur Gwyrdd ac argymhelliad yr IWC i osod cyfeiriad strategol ar gyfer y sector dŵr. Rydym wedi cytuno mewn egwyddor i fwrw ymlaen â strategaeth newydd yn nhymor y Senedd nesaf, a cheisio barn bellach ar feysydd blaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth osod cyfeiriad strategol ar gyfer y system ddŵr.
Argymhelliad 5 – Partneriaethau dalgylchoedd
Rydym yn glir bod dulliau sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd yn ganolog i sicrhau gallu gwrthsefyll llifogydd yn yr hirdymor, a sicrhau manteision amgylcheddol ehangach. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio sut y gall mecanweithiau presennol gefnogi partneriaethau dalgylchoedd mwy systematig, yn fwyaf arbennig drwy gydweithio ar Strategaeth Taf fel ein cynllun peilot ar gyfer dulliau dalgylchoedd yng Nghymru.
Mae dulliau dalgylchoedd yn gofyn am amrywiaeth o ymyriadau hirdymor gan ystod eang o randdeiliaid er mwyn gwireddu'r llu o fanteision sydd ar gael yn llawn. Mae mesurau NFM yn rhan o hyn ac maent yn cael eu cyflawni fwyfwy ar raddfa ddalgylchoedd, gyda phrosiectau mewn ardaloedd fel afonydd Gwy a Wysg yn dangos sut y gall dulliau cydweithredol â thirfeddianwyr a chymunedau leihau'r perygl o lifogydd tra'n cyflawni manteision ehangach.
Argymhellion 6 ac 8 – Gwydnwch Cymunedol, Ymgysylltu, a Fforwm Cydnerthedd Dŵr
Mae adeiladu gwydnwch cymunedol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a phartneriaid eraill i gryfhau'r gefnogaeth i gymunedau cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, ac i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Mae swyddogion yn ystyried canlyniadau adolygiad ymgysylltu cydgynghorol Llywodraeth Cymru i lywio dulliau ymgysylltu yn y dyfodol, er mwyn sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n briodol â'r holl ddemograffeg a phoblogaethau agored i niwed.
Rydym hefyd yn ystyried opsiynau i archwilio rôl 'asiantau newid' a sut y gallai rolau o'r fath ategu strwythurau a chynigion cymorth presennol. Bydd angen rhagor o waith i asesu dichonoldeb, adnoddau ac aliniad â gwaith gwydnwch ac argyfyngau sifil ehangach.
Argymhelliad 7 – Symleiddio Cynlluniau ar Raddfa Dalgylchoedd
Rydym yn cytuno bod angen mwy o integreiddio cynlluniau llifogydd ac erydu arfordirol ar raddfa dalgylchoedd dros amser. Mae'r gwaith hwn yn cysylltu'n agos â chynigion diwygio llywodraethu dŵr ehangach a chynllunio dalgylchoedd yr ydym yn ymgynghori arnynt drwy'r broses Papur Gwyrdd, yn benodol mewn perthynas ag argymhellion yr IWC ar gynllunio systemau a rhesymoli cynllunio'r diwydiant dŵr. Rydym yn gweld y potensial i ddod ag allbynnau cynllunio at ei gilydd a diffinio cynllun integredig tymor hwy ar gyfer ein dalgylchoedd. Rydym yn cydnabod yr angen i resymoli fframwaith cynllunio'r diwydiant dŵr sydd wedi esblygu dros amser. Rhaid i unrhyw newidiadau fod yn rhai y gellir eu cyflawni, yn gynhwysol, sy'n gallu gwella a chefnogi gwydnwch a chynaliadwyedd hirdymor. Mae cyfleoedd gwirioneddol i wella'r ffordd yr ydym yn gwneud gwaith cynllunio yn ein dalgylchoedd, ac rydym yn ceisio barn bellach gan y cyhoedd ar y rhain.
Argymhelliad 9 – Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) a Chyllid Ymaddasu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn NFM, gyda dros £5 miliwn wedi'i ymrwymo ar gyfer prosiectau yn 2026-27. Rydym yn gweithio i archwilio sut y gall buddsoddiadau preifat a phartneriaethau ategu cyllid cyhoeddus, gan gynnwys darparwyr seilwaith a thirfeddianwyr.
Rydym yn cydnabod na fydd cyllid cyhoeddus ar ei ben ei hun yn ddigon i fodloni'r her, ac rydym yn archwilio cyfleoedd i gryfhau modelau cyllido partneriaeth, gan gynnwys mewn cyd-destunau arfordirol a seilwaith. Rydym yn datblygu dull gweithredu newydd o ran cyllid cynaliadwy, gyda'r bwriad o gynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael fel y gallwn fynd i'r afael yn effeithiol â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Argymhellion 10 ac 11 – Cyllid Aml-flwyddyn a Chynaliadwy
Rwy'n cydnabod y manteision y byddai setliadau cyllido aml-flwyddyn yn eu cynnig ar gyfer gwaith cynllunio, sgiliau a chyflawni. Mae cyllidebau Llywodraeth Cymru yn cael eu gosod yn flynyddol, sy'n golygu bod ymrwymiad o'r fath yn her. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu canllawiau ein Cronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol i ystyried posibiliadau ar gyfer mwy o hyblygrwydd o fewn y rhaglen, ac rydym hefyd yn defnyddio mecanweithiau fel dyfarniadau uniongyrchol drwy gynlluniau gan gynnwys Ffermio Bro a'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig.
Ochr yn ochr ag Argymhelliad 9, mae swyddogion yn archwilio ystod ehangach o opsiynau cyllido i ddeall cyfleoedd cyllid gwyrdd, gan gynnwys buddsoddiadau preifat moesegol sy'n cyd-fynd ag Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy, gweithio mewn partneriaeth â darparwyr seilwaith, ac ymgysylltu â'r sector yswiriant. Mae hyn yn cynnwys datblygu fframwaith cyllid natur, a bydd gwaith yn parhau i dymor y Senedd nesaf.
Argymhelliad 13 – Gwrthsefyll Llifogydd ar lefel Eiddo
Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn parhau i fod yn y sefyllfa orau i gyflwyno mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo (PFR), yn enwedig pan fyddant yn cael eu cyflwyno ar sail gymunedol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu PFR yn y modd hwn wrth archwilio ar draws portffolios tai a rheoli perygl llifogydd sut y gellid cryfhau'r gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu'r perygl uchaf, yn unol â blaenoriaethau'r llywodraeth yn y dyfodol.
Argymhellion 14 a 15 – Addysg a Sgiliau
Mae llifogydd ac addasu i'r hinsawdd eisoes wedi'u hymgorffori yng Nghwricwlwm Cymru, gyda gwaith diwygio cymwysterau addysg uwchradd yn mynd rhagddo. Rwy'n arbennig o galonogol ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud ar gryfhau'r gweithlu sy'n cefnogi rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol, a gwaddol mwyngloddio. Er mwyn ysgogi cyflenwad o staff i'r proffesiwn, yn 2025/26 buom yn gweithio gyda CLlLC i gefnogi chwe chyfle lleoliad gwaith i raddedigion ac israddedigion mewn Awdurdodau Lleol. Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â thri o'r myfyrwyr lleoliad ar ymweliad safle yn ddiweddar. Roedden nhw'n drawiadol iawn ac yn cynrychioli gweithlu'r dyfodol. Yn 2026/27, mae'r rhaglen hon yn cael ei hehangu, ac rydym yn gobeithio gweld mwy o bobl ifanc yn ymuno â'r proffesiwn.
