Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae marwolaethau plant ledled y Deyrnas Unedig yn ddiweddar, gan gynnwys plentyn yma yng Nghymru, wedi achosi llawer iawn o bryder. Rydym yn cydymdeimlo ac yn meddwl am y teuluoedd, y ffrindiau a phawb y mae’r marwolaethau trasig hyn wedi effeithio arnynt.

Bacteria yw Strep A y mae llawer o bobl yn ei gario heb unrhyw symptomau. Gall ledaenu i eraill drwy gyswllt agos a thrwy beswch a thisian. Pan fydd pobl yn datblygu symptomau, maent fel arfer yn eithaf ysgafn, fel y clefyd plant cyffredin a elwir y dwymyn goch.

Yn anaml iawn ac yn enwedig os oes gan unigolyn gyflyrau iechyd eraill neu os yw wedi’i heintio â haint arall yr un pryd, megis brech yr ieir neu feirws anadlol, gall bacteria Strep A fynd i lif y gwaed. Gelwir hyn wedyn yn glefyd Strep A ymledol ac yn anffodus gall arwain at ganlyniad trasig, yn enwedig os na chaiff ei drin yn gyflym.

Rydym yn gweld mwy o achosion o haint Strep A eleni na’r blynyddoedd diwethaf ac rydym hefyd yn ei weld yn ystod y gaeaf. Fel arfer, byddem yn disgwyl gweld niferoedd mawr o achosion yn ystod y gwanwyn. Mae ymchwiliadau’n mynd rhagddynt ond rydym yn credu mai’r rheswm dros hyn yw’r diffyg cymysgu cymdeithasol dros y ddwy flynedd diwethaf. Ein cred yw bod y nifer mawr o achosion o’r haint bacterol cyffredin hwn sy’n cylchredeg yr un pryd â sawl haint anadlol y gaeaf wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o glefyd Strep A ymledol, sy’n fwy prin ac yn fwy difrifol.

Mae arwyddion cynnar o glefyd Strep A ymledol yn cynnwys tymheredd uchel, poenau cyhyrol difrifol, tynerwch cyhyrol lleol, neu gochni o gwmpas clwyf. Mae rhieni’n cael eu cynghori i gysylltu â’u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol ar unwaith os ydynt yn credu bod eu plentyn yn dangos unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd Strep A ymledol.

Gellir defnyddio gwrthfiotigau cyffredin i drin pob salwch cymharol ysgafn a achosir gan facteria Strep A. Mae’r cynnydd mewn galw am wrthfiotigau i drin achosion posibl o Strep A wedi arwain at brinder stoc mewn rhai fferyllfeydd yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda thîm cyflenwi meddyginiaethau Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i sicrhau bod gan fferyllfeydd yng Nghymru y cyflenwadau angenrheidiol. Rydym yn hyderus bod cyflenwyr yn gweithio i fynd i’r afael ag unrhyw drafferthion cyflenwi. Os bydd pobl yn methu â chael eu presgripsiwn, efallai y bydd angen iddynt fynd i fferyllfa arall neu mewn rhai achosion gofyn i’w meddyg teulu bresgripsiynu triniaeth arall. Mae’n debyg mai’r dwymyn goch yw’r salwch mwyaf cyffredin o’r rhain a’r symptom nodweddiadol yw brech goch fân, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Mae rhieni sy’n credu bod gan eu plentyn symptomau’r dwymyn goch yn cael eu cynghori i wneud y canlynol:

  • Cysylltu â’u meddyg teulu, mynd i 111.wales.nhs.uk, neu ffonio GIG 111 Cymru
  • Sicrhau bod eu plentyn yn cael y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau sy’n cael eu presgripsiynu gan y meddyg
  • Cadw eu plentyn gartref, i ffwrdd o’r feithrinfa, yr ysgol neu weithle a dilyn unrhyw ganllawiau gan eu meddyg o ran pa mor hir y dylid ei gadw draw o’r lleoliadau hyn
  • Cadw llygad ar yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am heintiau streptococol A yn 111.wales.nhs.uk

Mae rhagor o wybodaeth am y symptomau y dylai rhieni wylio amdanynt ac â phwy y dylent gysylltu i gael cyngor pellach ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Haint iGAS yn parhau'n brin, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain yr ymateb yng Nghymru ac mae Tîm Rheoli Achosion Cymru gyfan wedi’i sefydlu i gydlynu’r holl gamau priodol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda’r asiantaethau iechyd cyhoeddus ledled y DU.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.