Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn falch o fedru cyhoeddi heddiw fy mod yn gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yr adroddiad cynnydd cyntaf am gynaliadwyedd y stoc adeiladau yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau Deddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004.

Mae’r Adroddiad yn ystyried y cynnydd a wnaed o ran sicrhau bod y stoc adeiladau yng Nghymru yn gynaliadwy. Mae’n ymdrin â’r cyfnod ar ôl i bwerau dros Reoliadau Adeiladu gael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru tan ddiwedd y cyfnod adrodd a bennir yn y Ddeddf.
Dyma’r adroddiad cyntaf penodol i Gymru i gael ei ddrafftio gan Lywodraeth Cymru am y mater hwn. Cafodd fersiynau blaenorol yr adroddiad eu drafftio gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ac roeddent yn ymdrin â chynaliadwyedd y stoc adeiladau yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r newidiadau a wnaed i’r Rheoliadau Adeiladu yn ddiweddar ac mae hefyd yn ystyried yr effaith y disgwylir i’r newidiadau hynny ei chael. Ymdrinnir hefyd â deddfwriaeth arfaethedig at y dyfodol, a chynigion i bennu targedau mewn perthynas ag adeiladau cynaliadwy. Mae’r Adroddiad yn edrych hefyd ar newidiadau i effeithlonrwydd y stoc adeiladau o ran ynni a charbon, i ba raddau y mae gan adeiladau eu cyfleusterau eu hunain er mwyn cynhyrchu ynni,  ac i ba raddau yr ailgylchwyd ac yr ailddefnyddiwyd deunyddiau adeiladu yn ystod y cyfnod dan sylw.  

Ar ôl y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu. Ymhlith y newidiadau hynny mae targed o welliant o 8% mewn effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd, a gwelliant o 20% ar gyfer adeiladau annomestig (o’i gymharu â safonau 2010). Cafwyd newidiadau hefyd i’r modd yr ymdrinnir ag adeiladau sydd eisoes yn bod. Ar ôl i ‘Welliannau Canlyniadol’ gael eu cyflwyno, bydd gofyn i berchentywyr gymryd camau lliniaru syml ond costeffeithiol wrth iddynt estyn eu cartrefi neu addasu rhannau ohonynt.  

Mae’r sgôr effeithlonrwydd ynni cyfartalog ar gyfer cartrefi newydd wedi gwella ers 2009, a gwelwyd gostyngiad o 1.2 miliwn o dunelli (15%) ers 2008 mewn allyriadau carbon deuocsid sy’n gysylltiedig â’r sector domestig.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.