Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I ategu fy natganiad llafar ar 1 Tachwedd ynghylch aelodau a chylch gwaith yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Mr Eric Gregory wedi cytuno i ymuno â'r panel adolygu fel eu cynrychiolydd busnes.

Eric yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad. Mae ganddo hefyd gyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Anweithredol/Cynghorydd Annibynnol yn Swyddfa'r Cabinet, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref. Gweithiodd i Bartneriaeth John Lewis am 25 mlynedd tan 2009, lle'r oedd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd am saith mlynedd, gan ddal y tair prif swydd cyfarwyddwr TG  nes iddo ddod yn Gyfarwyddwr Personél. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Wasanaeth Erlyn y Goron yn Llundain ac roedd hefyd yn aelod o'u Bwrdd TGCh. Mae wedi cadeirio Bwrdd TG y Fforwm Nwyddau Defnyddwyr, ac roedd yn aelod o’r Bwrdd Busnesau e-sgiliau am chwe mlynedd.