Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn diweddaru’r Aelodau Cynulliad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau i hybu cofrestru pleidleiswyr cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mis Mai.

Eleni cynhelir etholiadau'r Cynulliad ar y cyd gydag etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ac rydym wedi bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid dan sylw i hybu lefelau cofrestru, i annog pleidleiswyr i gymryd rhan a sicrhau bod y trefniadau ar gyfer yr etholiadau yn rhedeg mor esmwyth â phosibl.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos iawn gyda swyddogion  Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr etholiad ar y cyd yn cael ei reoli'n effeithlon.

Mae Swyddogion Canlyniadau Cymru wedi cytuno i gysoni cyfrif y pleidleisiau fel bod pleidleisiau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cyfrif yn gyntaf, a dros nos cyn pleidleisiau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd yn cael eu cyfrif ar ddydd Sul.

Ers etholiadau diwethaf y Cynulliad, mae Llywodraeth y DU wedi disodli’r hen system o gofrestru etholiadol yn seiliedig ar yr aelwyd gyda chofrestru etholiadol unigol (IER) yn cymryd ei le. Ochr yn ochr â y Comisiwn Etholiadol, rydym wedi dadlau gohirio'r newid hwn, gellir fod risg o bosibilrwydd dileu llawer o bleidleiswyr cymwys oddi ar y cofrestrau cyn etholiad y Cynulliad.

Mae ein pryderon wedi’u gyfiawnhau a mae’r ffigyrau diweddar yn dangos gostyngiad sylweddol yn y niferoedd ar y cofrestr etholiadol, tua 2% ers Rhagfyr 2014 / Mawrth 2015, a 5% ers Chwefror / Mawrth 2014.

Cynhaliwyd gweithgarwch sylweddol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynyddu cofrestru. I gefnogi hyn, rwyf wedi darparu cyllid tuag at y costau o anfon llythyr hysbysu aelwydydd. Mae hyn yn atgoffa pleidleiswyr o’r system newydd ac yn eu gwahodd i gofrestru i bleidleisio cyn iddi fynd yn rhy hwyr.  Yn ogystal, rwyf wedi comisiynu y tîm mewnwelediad ymddygiadol i weithio gyda nifer o Gynghorau yng Nghymru i gynyddu cofrestru.

Mae Myfyrwyr yn draddodiadol yn llai tebygol o bleidleisio na'r boblogaeth yn gyffredinol. Yn rhannol oherwydd ansicrwydd ynghylch ble i bleidleisio yn eu hardal newydd. Felly, rwyf wedi ariannu Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru i weithio gyda'r Clwb Democratiaeth i ddatblygu adnodd arloesol ar y we ar gyfer myfyrwyr, i'w helpu i ddod o hyd i'w gorsaf bleidleisio. Rwyf yn lansio’r offeryn hwn heddiw.