Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau y bydd taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddyblu i £200 er mwyn helpu cartrefi i dalu costau ynni uchel, sy’n cyfrannu at yr argyfwng costau byw.

Gwnaethom i ddechrau gyhoeddi bod taliad o £100 ar gael o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ym mis Rhagfyr, wrth lansio ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51m. Mae’r taliad hwn bellwch yn cael ei gynyddu i helpu cartrefi cymwys â biliau ynni cynyddol.

Ar hyd a lled Cymru mae pobl yn gweld eu biliau’n codi ac mae cyflogau’n gorfod cael eu hymestyn yn fwy nag erioed. Mae rhai pobl yn wynebu’r penderfyniad hynod anodd o ddewis rhwng gwresogi’r tŷ neu fwyta.

Mae ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51m yn targedu cymorth i deuluoedd ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod y cynlluniau hyn yn gweithio a’u bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl o gartrefi incwm isel.

Dyna pam rydym yn cynyddu’r cymorth hwn drwy ddyblu taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Rydym yn codi’r taliad o £100 i £200 a bydd yr arian hwn ar gael i ymgeiswyr newydd ac i’r rheini sydd eisoes wedi gwneud cais.

Bydd yr awdurdodau lleol yn prosesu ceisiadau newydd gan gartrefi cymwys. I fod yn gymwys am y taliad, rhaid i un aelod o’r cartref fod yn cael budd-daliadau lles penodol. Mae rhagor o fanylion ar wefannau awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r taliad uwch.

Mae’r cynghorau wedi cysylltu â’r bobl y maent yn credu sy’n gymwys. Os nad ydynt wedi gwneud cais eto, gellir cyflwyno’r rhain hyd at 28 Chwefror.

Nid oes angen i’r bobl sydd eisoes wedi cael taliad o £100 o dan y cynllun wneud dim, byddant yn cael taliad arall o £100 yn yr wythnosau nesaf.

Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i helpu ein pobl gyda’r biliau sydd ganddynt, a bydd hyn yn helpu i wneud hynny.

Hoffwn ddiolch i’n hawdurdodau lleol am brosesu’r taliadau hyn yn gyflym. Mae pawb yn gwybod eu bod wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod y pandemig. Er hynny, maent wedi llwyddo i wasanaethu ein cymunedau dro ar ôl tro.

Mae tua 350,000 o gartrefi yn gymwys i wneud cais am daliad o dan y cynllun.

Bydd y cynnydd hwn o £100 yn ychwanegol yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rwy’n benderfynol o wneud popeth a allwn i barhau i gefnogi pobl Cymru drwy’r argyfwng costau byw.