Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prentisiaethau’n hanfodol ar gyfer cyflawni llwyddiant economaidd a Chymru gryfach, decach.

Mae codi lefelau sgiliau i gwrdd ag anghenion cyflogwyr a gofynion marchnadoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn helpu i yrru cynhyrchiant, ffyniant a chymunedau mwy gwydn. Mae ein buddsoddiad mewn sgiliau’n fuddsoddiad yn nyfodol ein gwlad, yn ein busnesau ac yn ein pobl, a dyna pam rwyf i heddiw’n cyhoeddi ‘Cysoni’r model prentisiaethau ag anghenion economi Cymru’.

Mae’r ddogfen polisi hon ynghyd â chynllun gweithredu pum mlynedd yn amlinellu sut bydd prentisiaethau’n cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o swyddi o safon uwch yng Nghymru drwy economi gryfach a thecach.

Wrth ddrafftio’r polisi rydym ni wedi tynnu ar dystiolaeth a gasglwyd oddi wrth ein rhanddeiliaid yn ystod ein hymgynghoriad, sy’n sicrhau y byddwn yn parhau i ymdrin â’r meysydd cyflenwi allweddol.

Mae Cymru yn yr 21ain ganrif yn amrywiol ac yn gymhleth, ac mae angen i’n rhaglenni ymateb yn briodol i hynny.  Mae angen i ni gefnogi pobl pan fydd angen y gefnogaeth arnynt, ac arfogi gwasanaethau i ymateb i heriau, megis poblogaeth sy'n heneiddio, newid yn yr hinsawdd, technolegau newydd a globaleiddio.

Yr unig ffordd o fynd i'r afael â’r materion sy'n ein hwynebu yw drwy ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys rhaglenni cydgysylltiedig sy'n atgyfnerthu ac yn adeiladu ar yr hyn y mae pobl a chymunedau yn ei wneud drostynt eu hunain. Rydym wedi cychwyn trefniadau cynllunio yn barod i ysgogi Prentisiaethau i gefnogi ymrwymiadau a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen, a byddwn yn darparu prentisiaethau mewn meysydd fel: tai, seilwaith digidol a ffisegol, gofal plant, ynni, iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd prentisiaethau hefyd o gymorth i ddiwygio sgiliau'r sector cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn helpu i adeiladu Cymru sy’n unedig, yn gysylltiedig ac yn fwy cynaliadwy.

Bydd Prentisiaethau, ynghyd â'n Rhaglen Cyflogadwyedd newydd, yn cynorthwyo unigolion o bob oed i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r farchnad lafur ac, yn bwysig, i symud ymlaen drwy’r farchnad at waith sgiliau uwch.  Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi yn nes at adref. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gyflogwyr, gan roi mynediad i unigolion at gyfleoedd am swyddi a sgiliau o ansawdd uchel. Byddwn yn dechrau ar ein gwaith ar hyn ar draws ardal Tasglu’r Cymoedd.

Mae’r polisi’n pwysleisio ein bwriad i baratoi ar gyfer swyddi’r dyfodol, fydd yn gofyn am lefelau llawer uwch o fedrusrwydd nag yn y gorffennol.  Mae hefyd yn dwysáu’r ffocws ar y sgiliau technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i hwyluso cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uwch mewn cymunedau lleol. Bydd hyn yn anfon neges gref am werth prentisiaethau ac addysg dechnegol wrth gynorthwyo pobl iau i mewn i gyflogaeth a hunangyflogaeth gynaliadwy.

Mae’r polisi hefyd yn rhoi ystyriaeth i gyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau, sy’n dreth ar gyflogaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2017.

Rydym ni wedi dweud ar hyd yr amser bod yr Ardoll hon yn gwrthdaro’n uniongyrchol â meysydd o gyfrifoldeb datganoledig, yn anwybyddu ac yn tanseilio’n llwyr ein hymagwedd arbennig at gefnogi prentisiaethau yng Nghymru, ac mae ei chyflwyno’n golygu na fydd unrhyw arian newydd sylweddol yn dod i Gymru.

Yn ddigon teg, mae cyflogwyr yn awyddus i ddeall sut y caiff yr ardoll hon ei rheoli yng Nghymru a pha fuddion y gallai eu cynnig i fusnesau. I helpu i liniaru effaith yr ardoll yng Nghymru, byddwn yn gweithredu’n wahanol i’n cymheiriaid yn Lloegr, a hynny mewn ffordd sy’n cydweddu’n well ag anghenion cynyddol Cymru, ei phobl a’i heconomi, ac yn eu cefnogi. Rydym ni wedi cydweithio’n agos gyda’n partneriaid cymdeithasol i ddatblygu rhaglen prentisiaethau sy’n bodloni anghenion cyflogwyr sy’n talu’r ardoll a’r rhai nad ydynt yn talu’r ardoll, a sicrhau bod lleoedd i brentisiaid ar gael yn rhwydd mewn meysydd blaenoriaeth drwy ein rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau.

Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu pecyn gwybodaeth sy’n cyd-fynd â’n polisi prentisiaethau i gynorthwyo cyflogwyr sy’n dymuno cael cymorth drwy’r ardoll ac rydym ni’n annog cyflogwyr i ddod ymlaen i recriwtio drwy ein rhaglen prentisiaethau mewn meysydd technegol a phroffesiynol, drwy gyfres o ddigwyddiadau marchnata a chyfathrebu.

Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i'r system brentisiaethau gyfan fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion diwydiant, sy'n newid yn gyson ac yn gyflym. Rydym yn bwriadu defnyddio Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru fel y cyfrwng i'n helpu gyda datblygu prentisiaethau newydd. Bydd gan gyflogwyr gyfle i ddylanwadu ar ddyluniad yr addysg maent yn ei derbyn drwy'r rhaglen Brentisiaethau.

Mae ein polisi’n cynnig heriau a chyfleoedd - darpariaeth ar gyfer pob oed, ehangu sgiliau lefel uwch a mwy o ymgysylltu â chyflogwyr mewn rhannau penodol o’r economi.  Rwyf yn annog cyflogwyr, darparwyr a chyrff ategol i gydweithio i greu rhaglen brentisiaethau gryfach ac i’n helpu i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o brentisiaid o ansawdd uchel sy’n angenrheidiol i sicrhau ffyniant economaidd a Chymru decach.

Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111.5m yn 2017-18.  Daw hyn a chyfanswm ein buddsoddiad mewn prentisiaethau a hyfforddeiaethau i dros £126m ar gyfer 2017-18.  O’r cyllid ychwanegol, caiff £15.5m ei fuddsoddi i sicrhau na fydd cyflogwyr yn y sector cyhoeddus na’r sector breifat o dan anfantais o ganlyniad i’r Ardoll Brentisiaethau.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i gynnal swyddogaethau sy'n ymwneud ag addysg, gwasanaethau tân, rheoli gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus i greu amrywiaeth o raglenni ar gyfer y gweithlu gwasanaethau cyhoeddus, a bydd hyn yn helpu gyda moderneiddio, arbedion a gwelliannau angenrheidiol ar draws y sector cyhoeddus; drwy gymhwyso sgiliau gweithlu gwell. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynlluniau prentisiaethau penodol ar gyfer Awdurdodau Lleol, y GIG a'r gwasanaethau 'golau glas'.

Ceir dolenni at y dogfennau drwy’r dolenni isod:
http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/apprenticeships-skills-policy-plan/?lang=cy