Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cynhaliwyd Cyngor Pysgodfeydd yr UE yn ystod Rhagfyr 14-15, gan ddod i ben ar 16 Rhagfyr, i benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn Ewrop yn 2016.  Bum yn cyfrannu yn y cyfarfodydd briffio arferol cyn y Cyngor gyda chydweithwyr Gweinidogol, pan gafodd y materion pwysig i Gymru eu pennu.  Y tro hwn, roedd George Eustice AS, Gweinidog Gwladol Defra; Richard Lochhead, Ysgrifennydd Materion Gwledig, Bwyd a’r Amgylchedd (Llywodraeth yr Alban) a Michelle O’Neill, y Gweinidog Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon) yn bresennol.

Bum yn glir drwy’r trafodaethau y dylai’r mesurau y cytunwyd arnynt ddiogelu stociau, ac ar yr un pryd eu bod yn deg i’r cymunedau arfordirol hynny sy’n dibynnu ar y môr am eu bywoliaeth.  Roedd yr angen i osgoi gor-bysgota a sicrhau bod dalfeydd yn cael eu gosod ar lefelau cynaliadwy, a pharhau o fewn cyngor gwyddonol a thargedau Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES) ar gyfer y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf, yn ystyriaethau pwysig.  Felly, roedd yn her i sicrhau cydbwysedd yn y trafodaethau, a chyn y Cyngor, bum yn cyfarfod â chynrychiolwyr y sectorau dal pysgod a’r sectorau hamdden i drafod effaith debygol cynigion cychwynnol.  

O ganlyniad i’r trafodaethau, newidwyd y cynnig gwreiddiol i gael gwaharddiad hollgynhwysol i bysgota am ddraenogod y môr am y chwe mis cyntaf o’r flwyddyn ar gyfer pysgotwyr masnachol a hamdden.  Caiff y rhai rhai sy’n pysgota fel chwaraeon sydd am barhau i ‘ddal a rhyddhau’ eu draenogod y môr barhau i wneud hynny.  Bydd cychod bychain ar y glannau sy’n defnyddio bachyn a lein neu rwydi sefydlog sy’n dewis a dethol yn gallu pysgota am ddraenogod y môr drwy’r flwyddyn, ar wahân i fis Chwefror a Mawrth – y cyfnod y byddant yn silio.   Bydd pob cwch sy’n cael pysgota bellach yn cael terfyn daliad misol o 1.3 tunnell.  Mae’r asesiad yn awgrymu bod y mesurau hyn ar y trywydd iawn i gyrraedd y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf ar gyfer y stoc erbyn 2018.  Fodd bynnag, mae’r wyddoniaeth ar gyflwr y stoc draenogod y môr yn dwyn perswâd, a bydd mathau eraill o offer (rhwydi seine, rhwydi drifft a threillio) yn cael eu gwahardd wrth bysgota am ddraenogod y môr am 6 mis cyntaf y flwyddyn.  

Yn dilyn sylwadau a wnaethpwyd gennyf, penderfynodd y Comisiwn yn erbyn gwneud cais i dorri yn fympwyol stociau penodol sydd heb lawer o ddata, ac yn hytrach cytunwyd i ddilyn y wyddoniaeth oedd yn awgrymu trosglwyddo lefel cyfleoedd pysgota y flwyddyn bresennol i’r un nesaf.  Yng Nghymru, mae hyn yn arbennig o bwysig i stociau Morgathod ac o ganlyniad ni dorrwyd y cwota.  

Ar y cyfan, cafwyd cydbwysedd cadarn a theg rhwng diogelu buddiannau economaidd pysgotwyr bychain a’r angen i symud stociau tuag at sefyllfa ble y bydd yn bosib eu pysgota yn gynaliadwy i’r dyfodol.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.