Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Medi 2026, llofnodais ‘Cytundeb Caerdydd – The Cardiff Agreement’ gyda Phrif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus John Swinney MSP, yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd. Mae'r Cytundeb yn sefydlu fframwaith strategol ar gyfer cydweithredu agosach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar faterion o ddiddordeb cyffredin, tra'n parchu mandadau, blaenoriaethau ac atebolrwydd democrataidd gwahanol y ddwy lywodraeth.

Mae'r Cytundeb yn gam pwysig o ran cryfhau'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Er bod y llywodraethau’n parhau i fod yn atebol i'w deddfwrfeydd eu hunain ac yn gweithredu o fewn eu mandadau democrataidd eu hunain, mae llawer o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu Cymru a'r Alban yn gyffredin. Mae'r Cytundeb yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithrediad dyfnach ar faterion sy'n bwysig i bobl ar draws ein dwy genedl, gan alluogi ein llywodraethau i rannu arbenigedd, manteisio ar yr wybodaeth a'r profiad sydd ar gael ar draws y ddwy lywodraeth, a hyrwyddo buddiannau a rennir trwy ddatblygu a chyflawni polisi mwy effeithiol, tra'n cydnabod y bydd y llywodraethau unigol yn parhau i bennu eu polisïau a'u blaenoriaethau eu hunain.

Mae'r Cytundeb yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i gryfhau democratiaeth ac atebolrwydd democrataidd a pharchu hawl ein dinasyddion i benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol trwy ddulliau democrataidd. 

Mae'r Cytundeb yn nodi meysydd cyffredin ar gyfer cydweithredu, gan gynnwys

  • mynd i’r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd.
  • mynd i’r afael â phwysau costau byw, gwella safonau byw, cefnogi aelwydydd a chymunedau i ffynnu. 
  • hyrwyddo twf a ffyniant economaidd cynaliadwy a chynhwysol.
  • ystyried trefniadau cyllidol sy'n cefnogi llywodraeth effeithiol, yn darparu tryloywder ac atebolrwydd, ac yn galluogi ein llywodraethau i gyflawni ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
  • mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chryfhau gwydnwch, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor cymunedau ac economïau.
  • sicrhau bod ein llywodraethau'n edrych tuag allan, yn gydweithredol ac yn uchelgeisiol yn ein gweithgarwch rhyngwladol sy’n dangos dinasyddiaeth fyd-eang dda, i wneud y mwyaf o gyfleoedd economaidd a mynd i'r afael â heriau demograffig a chymdeithasol a rennir, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd a manteision ein perthnasoedd â'r Undeb Ewropeaidd a phartneriaid rhyngwladol eraill.
  • cydnabod pwysigrwydd iaith, diwylliant, cyfryngau a chwaraeon o ran mynegi hunaniaeth genedlaethol, cefnogi cymunedau a gwella llesiant.

Mae'r Cytundeb yn eistedd ochr yn ochr â'n hymrwymiad ehangach i gysylltiadau rhynglywodraethol cadarnhaol ar draws y Deyrnas Unedig, ac nid yw'n ei ddisodli. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a phartneriaid eraill ar faterion o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys drwy fecanweithiau rhynglywodraethol sefydledig.