Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw adeiladu tai yn y sector preifat, nid yn unig wrth ddarparu cartrefi sydd mawr eu hangen, ond hefyd er mwyn sicrhau'r manteision economaidd ehangach sy'n dod yn sgil adeiladu tai fel creu swyddi, a phob math o effeithiau ar y gadwyn gyflenwi.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r diwydiant tai yng Nghymru wedi gweld adferiad cyson -  gyda mwy o ddatblygiadau newydd yn dechrau a chartrefi newydd yn cael eu codi. Mae hyn yn newyddion da ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae polisi Llywodraeth Cymru yn ei chael drwy gynlluniau fel Cymorth i Brynu - Cymru. Ar ddiwedd Ebrill 2017, roedd y cynllun hwn wedi helpu i godi a gwerthu 5064 o unedau o eiddo.

Fodd bynnag, mae'r sector a Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod angen gwneud mwy os ydym am sicrhau bod y cyflenwad tai yn diwallu ein hangen cynyddol am dai, ac yn gallu ateb heriau fel tlodi tanwydd, newid yn yr hinsawdd, newid demograffig a'r effaith y mae'r problemau hyn yn ei chael ar iechyd a gofal cymdeithasol er enghraifft.

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynyddu'r cyflenwad tai a sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cynnig y manteision mwyaf drwy ddod â swyddi a phrentisiaethau i ardaloedd lleol. Mae codi 6,000 o gartrefi yn ystod ail gam Cymorth i Brynu - Cymru hefyd yn cyfrannu at gyrraedd targed y Llywodraeth o sicrhau 20,000 o dai cynaliadwy dros gyfnod y weinyddiaeth hon.

Bydd y Cytundeb yn helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn, ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r sector, gan weithio'n agos gyda Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.

Mae'r Cytundeb yn amlinellu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr am weddill cyfnod y weinyddiaeth hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:

  • fynd ati i ymgysylltu â'r diwydiant i helpu i lywio polisi tai yn y dyfodol a nodi beth yw'r rhwystrau pwysicaf i'r cyflenwad tai yng Nghymru.
  • ystyried ac egluro beth fydd yn digwydd ar ddiwedd ail gam y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru. 
  • gweithredu a monitro'r agenda cynllunio cadarnhaol a'r newidiadau o ran Rheoli Datblygu.
  • gweithio gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pob awdurdod cynllunio yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ac yn cynnal adolygiadau amserol lle y bo angen.
  • gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol a sefydliadau trydydd sector i fynd ati'n rhagweithiol i annog cwmnïau adeiladu bach a chanolig i gymryd rhan yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
  • nodi'r posibilrwydd o ryddhau mwy o dir y sector cyhoeddus ar gyfer buddsoddi mewn tai, ac wrth wneud hynny, ystyried anghenion pawb sy'n adeiladu tai, o fusnesau bach a chanolig sy'n chwilio am safleoedd llai i gwmnïau mawr a fyddai'n gallu datblygu darnau o dir dipyn mwy.
  • datblygu polisïau newydd i annog cwmnïau adeiladu bach a chanolig i dyfu, a gweithio gyda'r diwydiant i edrych ar opsiynau i annog adeiladwyr cyffredinol mewn BBaCh i gamu i'r farchnad adeiladu tai fel y prif gontractwyr. 
  • edrych ar ddulliau o ddatblygu hyfywedd ym mhob cam o'r broses gynllunio yn dilyn canfyddiadau'r Astudiaeth Hyfywedd Hydredol.
  • adolygu'r baich rheoleiddiol lle y bo'n bosibl i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol.
  • gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio Lleol i sicrhau bod y gwaith o ddarparu tai yn cael ei fonitro a bod camau priodol yn cael eu cymryd lle nad oes modd dangos cyflenwad pum mlynedd o dir.
  • edrych ar sut y gellid cefnogi adeiladwyr tai i wneud mwy i fynd i'r afael â heriau megis tlodi tanwydd, newid yn yr hinsawdd a newid demograffig. 

Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a'u haelodau wedi ymrwymo i:

  • ddefnyddio'r cynllun Cymorth i Brynu Cymru i sicrhau bod aelwydydd yn cael y cyfle gorau posibl i brynu tŷ am y tro cyntaf.
  • gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac eraill i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru lle y bo'n bosibl.
  • sicrhau'r manteision cymunedol mwyaf drwy fuddsoddi'n lleol, a chyfleoedd eraill wedi'u targedu, gan gynnwys cynyddu niferoedd y prentisiaethau a chynlluniau hyfforddi a datblygu Busnesau Bach a Chanolig lleol.
  • helpu i ddatblygu'r agenda sgiliau adeiladu.
  • darparu tystiolaeth fanwl er mwyn llywio a siapio polisi tai newydd.
  • gweithio gyda Chymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o gynlluniau tai preifat.
  • edrych ar sut y gallant helpu i ddatblygu a darparu modelau newydd o dai.