Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb cyllideb sy’n sicrhau bron £300m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn 2026-27.

Bydd y cytundeb yn sicrhau pasio’r Gyllideb Derfynol 2026-27 ym mis Ionawr 2026, gan osgoi’r posibilrwydd na chaiff unrhyw gyllideb ei phasio o gwbwl a’r canlyniadau a fyddai’n deillio o hynny.

Mae tri elfen i’r cytundeb: 

•    Cyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn 2026-27 – £112.8m yn ychwanegol, sy’n darparu cynnydd cyffredinol o 4.5% i setliad llywodraeth leol. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4%.

•    Cyllid ychwanegol i’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol – £180m yn ychwanegol, sydd, ynghyd â’r cyllid yn y Gyllideb Ddrafft, yn cyfateb i gynnydd o 3.6% yn 2026-27.

•    Bydd £120m o gyllid cyfalaf ar gael i’r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd i’w ddyrannu.

Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Derfynol – ynghyd â dyraniadau eraill gan Lywodraeth Cymru nad ydynt yn rhan o’r cytundeb – a gyhoeddir ar 20 Ionawr 2026.