Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 8 Mai 2025 ei bod wedi cwblhau trafodaethau ar y telerau cyffredinol ar gyfer Cytundeb Ffyniant Economaidd rhwng y DU a’r Unol Daleithiau. Mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i gael gwared ar dariffau ar ddur a lleihau tariffau ar nwyddau modurol, a bydd yn rhoi hwb i’w groesawu i'n masnach yn y nwyddau hyn.

Rwy'n deall bod y cytundeb mewn ymateb i'r gyfres o dariffau ‘cilyddol’ a thariffau eraill a gyhoeddwyd gan yr Unol Daleithiau yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gan dariffau o'r fath y potensial i effeithio’n wirioneddol ar ein busnesau, a thynnodd fy ngrŵp Cudd-wybodaeth ac Ymateb i Dariffau sylw at y pryderon hyn.

Mae'r Unol Daleithiau yn farchnad bwysig i Gymru, ac mae gennym berthynas fasnachu gref gyda thua 1,066 o fusnesau o Gymru yn allforio nwyddau i’r Unol Daleithiau a 1,220 o fusnesau yn mewnforio nwyddau o’r Unol Daleithiau yn 2024[1]. Roedd masnach nwyddau rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru yn werth £6.4bn yn 2024. Mae hyn yn golygu mai’r Unol Daleithiau yw ein 2il farchnad allforio fwyaf (sy'n cyfrif am tua 13.5% o allforion nwyddau) a'r farchnad fewnforio fwyaf (sy'n cyfrif am tua 20.3% o fewnforion nwyddau). Mae'r data masnach gwasanaethau diweddaraf ar gyfer 2022 yn amcangyfrif bod gwerth masnach gwasanaethau gyda’r Unol Daleithiau tua £3.2bn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision masnach ryngwladol, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn y newyddion ynghylch sicrhau Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India, ac mae’n gosod y sylfeini ar gyfer trafodaethau gyda'r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, gall y ddau gytundeb hyn fod â'r potensial i ddatgloi cyfleoedd masnachu byd-eang i fusnesau yng Nghymru.

Wrth i ni edrych ymlaen at yr Uwchgynhadledd Buddsoddi ym mis Rhagfyr, mae'n bwysig dangos bod Cymru ar agor i fusnes. Mae cytundebau masnach gyda'r Unol Daleithiau ac India yn bwysig i'n helpu i gyfleu’r neges honno. 

Rydym yn deall bod y cytundeb terfynol yn dal i gael ei drafod a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.  Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y safonau uchel o ran lles anifeiliaid a bwyd sydd gennym yma yng Nghymru yn cael eu diogelu'n sylfaenol a bod unrhyw nwyddau a chynhyrchion sy'n destun mynediad cilyddol yn bodloni ein safonau uchel ein hunain. Bydd fy swyddogion yn adolygu manylion y cytundeb ar frys unwaith y bydd ar gael. 

 

[1] Mae hyn yn cynrychioli tua 33.4% o 3,188 o fusnesau yng Nghymru a allforiodd yn 2024 a 10.4% o’r 11,693 o fusnesau yng Nghymru a fewnforiodd.