Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb y bydd ymgynghoriad ar y cyd yn cael ei gynnal ar ddatganoli pwerau ar gyfer treth ar dir gwag i'r Senedd.
Mae amseriad yr ymgynghori yn nwylo Trysorlys EF, ond mae hyn yn gam pwysig ymlaen yn ein huchelgais tymor hir i gyflwyno treth o'r fath yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am symud ymlaen yn gyflym i gam nesaf y broses.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw y bydd Treth Tir Gwag yn gweithredu fel cymhelliant cadarnhaol ar gyfer datblygu tir yn amserol. Bydd yn sicrhau y bydd tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn cael ei ddatblygu, gan ddatgloi nifer sylweddol o gartrefi ychwanegol ledled Cymru.
Bydd Treth Tir Gwag, fel y’i cynigir, yn dreth ymddygiadol wedi'i dargedu, gan wasanaethu fel offeryn polisi ychwanegol i gyfrannu at y gwelliannau sydd eisoes wedi'u cyflawni drwy ein diwygiadau ar gyfer cynllunio.
Mae Trysorlys EF wedi cytuno i’r ymgynghoriad hwn o ganlyniad i flynyddoedd lawer o waith ymgysylltu a meithrin dealltwriaeth o uchelgais Llywodraeth Cymru o fewn Llywodraeth y DU. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Trysorlys, Daniel Tomlinson AS, am y cynnydd yr ydym wedi'i wneud.
