Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nodaf y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref i’r perwyl ei bod wedi cytuno mewn egwyddor ar gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd.

Mae'r DU a Seland Newydd wedi dangos bod ganddynt hanes o werthoedd cyffredin ac ymrwymiad i fasnach rydd, a gallai cytundeb masnach rydd ddod â manteision posibl i Gymru. Seland Newydd yw'r 50fed fwyaf o blith y marchnadoedd y mae Cymru yn allforio nwyddau iddynt a'r 60fed fwyaf o blith y marchnadoedd y mae Cymru yn mewnforio nwyddau ohonynt, ac mae gwerth y fasnach mewn nwyddau yn £38.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU drwy gydol y broses negodi ac wedi bod yn gyson wrth ddatgan ein barn na ddylai cytundebau masnach y DU danseilio’n huchelgeisiau ein hunain na'n deddfwriaeth ddomestig yma yng Nghymru. Rydym hefyd wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid ledled Cymru, i nodi'r effeithiau y gallai cytundeb masnach eu cael ar eu sectorau, ac er mwyn nodi cyfleoedd i gynhyrchwyr o Gymru.

Nid ydym yn gwybod manylion terfynol y cytundeb eto, ond ochr yn ochr â'r Llywodraethau Datganoledig eraill, rydym wedi parhau i godi pryderon am yr effaith gronnol y gallai cynnig mwy o fynediad o lawer i'r farchnad amaethyddol ar draws ystod o sectorau amaethyddol ei chael ar ein diwydiant amaethyddol domestig. Byddwn yn parhau i ofyn i Lywodraeth y DU adael inni weld y dadansoddiad effaith a ddefnyddir i lywio’r negodiadau ar y cytundebau mynediad i'r farchnad sydd yn y cytundeb masnach hwn ac mewn unrhyw gytundebau masnach rydd yn y dyfodol.

Bydd fy swyddogion yn mynd ati yn awr i graffu ar fanylion y cytundeb i weld pa effeithiau y bydd yn eu cael ar Gymru. Unwaith y bydd y cytundeb terfynol ar gael ac ar ôl inni gael yr amser i gwblhau'r gwaith hwnnw, byddwn yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn manylu ar yr effeithiau posibl ar Gymru ac yn rhoi’n barn am y cytundeb.