Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ar 21 Tachwedd gan Lywodraeth y DU bod cytundeb mewn egwyddor wedi’i wneud ynghylch Cytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng y DU a Canada. Bydd Cytundeb Parhad Masnach y DU-Canada, os caiff ei gymeradwyo ac y daw i rym erbyn diwedd y cyfnod pontio, yn sicrhau y bydd y trefniadau masnachu presennol yn parhau heb fawr o newid i’n busnesau sydd eisoes yn masnachu â Chanada o dan delerau Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr UE-Canada. Bydd yn sicrhau na fydd angen i’r DU a Chanada droi at fasnachu o dan delerau’r WHO.  Byddai hynny yn sicr wedi amharu ar ein perthynas fasnachu â gwlad sy’n gyson ymhlith un o 20 o gyrchfannau allforio mwyaf Cymru.