Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Tachwedd cadarnheais fy mod wedi cytuno amodau cytundeb mewn egwyddor i alluogi cleifion yng Nghymru i gael mynediad i’r meddyginiaethau ffeibrosis systig Orkambi® a Symkevi® yn ogystal â mynediad o hyd i Kalydeco® pan fo’r meddyginiaethau hyn yn briodol yn glinigol. 

Datgenais y disgwyliwn, er budd cleifion Cymru, y dylai’r cytundeb manwl rhwng GIG Cymru a Vertex Pharmaceuticals gael ei gwblhau cyn diwedd mis Tachwedd.  Rwy’n hynod falch i gadarnhau heddiw ei fod wedi’i gyflawni.

Bellach gall clinigwyr ddechrau rhagnodi’r cyffuriau hyn a disgwyliaf i wasanaethau ffeibrosis systig y GIG benderfynu sut orau i flaenoriaethu cleifion.  Rydym yn gweithio gyda GIG Cymru i roi trefniadau ar waith i alluogi mynediad i driniaeth i’r cleifion â’r flaenoriaeth uchaf gychwyn ym mis Rhagfyr.  Caiff pob claf cymwys gynnig o driniaeth o 2020.