Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y mis diwethaf cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig a gadarnhaodd fod trafodaethau ar y gweill rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Vertex Pharmaceuticals i drafod sut y gellid cael y cytundeb a gafwyd gyda GIG Lloegr i wneud meddyginiaethau ffeibrosis systig trwyddedig Vertex ar gael ar amodau cyfwerth i gleifion yng Nghymru.

Roeddwn yn glir fy mod yn disgwyl i Vertex gynnig GIG Cymru yr un cytundeb a gafwyd gyda GIG Lloegr.  Yn sgil cyfnod byr ond dwys o weithio ar y cyd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Caffael GIG Cymru a Vertex, rwy’n falch i gadarnhau bod y disgwyliad hwnnw bellach wedi’i fodloni.  Heddiw rwyf wedi cytuno amodau cytundeb mewn egwyddor fydd yn golygu bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i Orkambi® and Symkevi® yn ogystal â mynediad o hyd i Kalydeco® pan fo’r meddyginiaethau hyn yn briodol yn glinigol.  Bydd y gwaith yn bwrw ymlaen nawr i gwblhau manylion y contract rhwng Vertex a Gwasanaeth Caffael GIG Cymru.

Rwy’n ymwybodol iawn y bydd cleifion a’u teuluoedd yn disgwyl i’r meddyginiaethau hyn fod ar gael yn brydlon.  Rwyf wedi gofyn i’r cytundeb gael ei gwblhau cyn diwedd mis Tachwedd felly, i ganiatáu i’r cleifion â’r flaenoriaeth uchaf gael mynediad i driniaeth ym mis Rhagfyr a phob claf cymwys yn cael cynnig o driniaeth o 2020.