Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Heddiw, ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywydd CLlLC, pleser oedd llofnodi Cytundeb Partneriaeth Strategol newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru.
Cafodd y Cytundeb newydd ei lansio'n ffurfiol yng Nghynhadledd Flynyddol CLlLC, ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth adeiladol i gyflawni dros bobl a chymunedau Cymru.
Gan adeiladu ar y Cytundeb blaenorol, mae'r Cytundeb newydd hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn parhau i weithio gyda'i gilydd. Bydd y cydweithio hwn yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng y naill ochr a'r llall, ymgysylltiad cynnar, agwedd agored, a chydnabyddiaeth o'n gwahanol fandadau democrataidd.
Mae llywodraeth leol yn greiddiol i'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Mae'r Cytundeb newydd yn darparu fframwaith clir ar gyfer cryfhau ein cydberthynas, cefnogi sgyrsiau gonest, a sicrhau ein bod ni'n gallu ymateb yn well gyda'n gilydd i'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu Cymru.
Hoffwn ddiolch i arweinwyr awdurdodau lleol ac i CLlLC am eu hymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y Cytundeb newydd hwn gyda'n gilydd, fel y gall pobl ledled Cymru weld a theimlo manteision perthynas gref y gellir ymddiried ynddi rhwng llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol.
