Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, roedd y Prif Weinidog, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Llywydd CLlLC, a minnau yn rhinwedd fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, yn falch o lofnodi’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (y Cytundeb). Lansiwyd y cytundeb yn ffurfiol yng Nghynhadledd Flynyddol CLlLC ac mae’n brawf o’n hymrwymiad ar y cyd i weithio gyda’n gilydd i gyflawni dros bobl Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi cydnabod ers amser bellach bwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth ddibynadwy er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau ledled Cymru. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi llywio ein ffordd drwy’r argyfwng costau byw, effaith y rhyfel yn Wcráin a’r pandemig Covid-19. Daeth manteision gweithio gyda’n gilydd, gan roi pwyslais ar y cyd ar ddiogelu ein cymunedau ac ar eu gwasanaethu, i’r amlwg yn sgil yr heriau hyn. 

Nod y Cytundeb yw codeiddio’r ffyrdd hyn o weithio, gan greu fframwaith cadarn a fydd yn sylfaen ar gyfer y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ym mhob rhan o Gymru, ac a fydd hefyd yn ysgogi’r berthynas honno. Mae’r Cytundeb yn gynnyrch trafodaethau helaeth rhwng Gweinidogion Cymru, Arweinwyr yr holl gynghorau, a llefarwyr CLlLC dros gyfnod o sawl mis. Mae’n nodi amrediad o uchelgeisiau allweddol a rennir ar draws amrywiol feysydd i ysgogi newid sylfaenol ac ystyrlon ar draws meysydd â blaenoriaeth. 

I sicrhau bod yr uchelgeisiau hyn yn cael eu gwireddu, mae’r Cytundeb yn nodi sut y gellir cyflawni manteision gweithio gyda’n gilydd drwy ddiffinio, egluro a ffurfioli rolau a chyfrifoldebau, gan barchu penderfyniadau democrataidd a wneir yn lleol.

Megis dechrau y mae’r gwaith wrth inni lofnodi’r Cytundeb, ac nid dyma ddiwedd y daith. Mae’r Cytundeb wedi cael ei ddatblygu fel dogfen ‘sy’n esblygu’ – dogfen i’w hadolygu yn flynyddol er mwyn sicrhau bod yr uchelgeisiau a rennir yn parhau i gael eu gwireddu a bod perthnasoedd dibynadwy yn parhau i gael eu meithrin. 

Bydd rhagor o waith yn mynd rhagddo rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar ffurf a manylion yr uchelgeisiau penodol, gan sicrhau y bydd y ffyrdd newydd o weithio yn cefnogi cyflawni effeithiol wedi’i dargedu. 

Mae’r Cytundeb hwn yn brawf o’n hymrwymiad ar y cyd i bartneriaeth ddibynadwy ac mae’n rhoi sylfaen gadarn inni gyflawni mwy gyda’n gilydd. Edrychaf ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael i’n helpu i wireddu ein nodau a rennir ac i gyflawni gwelliannau ystyrlon i wasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.