Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Llywodraeth Cymru ei chynrychioli yng nghyfarfod y Cyngor Pysgodfeydd eleni, a gynhaliwyd ar 15 ac 16 Rhagfyr ym Mrwsel. Roedd y trafodaethau yng nghyfarfod y Cyngor yn rhai dwys ac yn arbennig o anodd eleni, a hynny yng ngoleuni cynigion a allai fod wedi arwain at doriadau sylweddol i gwotâu sy’n hanfodol bwysig i bysgotwyr Cymru. Cafodd rhai penderfyniadau anodd eu gwneud, ond bu’n cyfraniad ni o gymorth i sicrhau pecyn o gyfleoedd pysgota ar gyfer 2015 sydd nid yn unig yn dilyn y cyngor gwyddonol ond hefyd yn diwallu’r angen i sicrhau ein bod yn pysgota mewn modd cynaliadwy yn ein dyfroedd arfordirol.

Mae cytuno ar y cwotâu pysgota yn gam pwysig tuag at wireddu dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer pysgodfeydd cynaliadwy a hyfyw. Amlinellir y dyheadau hynny yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Môr a Physgodfeydd. Yn fy marn i, mae’r cytundeb pysgota ar gyfer 2015 yn ein rhoi ar y trywydd iawn i wireddu’r uchelgais hwnnw. Er hynny, cymysg yw’r canlyniadau sy’n deillio o gyfarfod y Cyngor, a bydd heriau’n ein hwynebu ni, a holl rannau eraill y DU, yn 2015.  

Mae’n dda gennyf fedru dweud inni lwyddo i wrthsefyll nifer o ostyngiadau nad oedd modd eu cyfiawnhau i gwotâu, a’r gostyngiadau hynny’n rhai a fyddai wedi effeithio ar fywoliaeth pysgotwyr Cymru ac ar ei chymunedau arfordirol. Cafodd y toriadau hynny eu cynnig gan y Comisiwn yn y lle cyntaf ar sail y data gwyddonol prin a oedd ar gael am y stoc. Er enghraifft, mae’r cwotâu ar gyfer morgathod a lledod coch yn ardal Môr Hafren yn hanfodol bwysig i bysgotwyr De Cymru, ac o ganlyniad i’n gwrthwynebiad i gynigion y Comisiwn, ni fydd unrhyw newid i’r cwota blynyddol a fydd ar gael i’n fflyd bysgota. Hefyd, oherwydd inni ymyrryd mewn perthynas â’r toriadau i gwotâu hadog a phenfras yn nyfroedd

De-orllewin Cymru, roedd y toriadau terfynol gryn dipyn yn is na’r rheini a gynigiwyd yn wreiddiol. Er hynny, mae problem benodol yn ein hwynebu o ran y cwota ar gyfer lledod ym Môr Hafren, lle cafodd y toriad cychwynnol o 35% ei leihau i 15%. Roedd y cyngor gwyddonol a oedd yn cefnogi’r toriadau hynny yn arbennig o gryf. At ei gilydd, rwyf yn hyderus bod y penderfyniadau hyn yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd drwy gefnogi pysgodfeydd arfordirol ar raddfa fach sy’n cael eu rheoli yn unol â’r cyngor gwyddonol am y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.