Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2011, gwnaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar Ddiwygio Lles, a gaiff ei gadeirio gen i bellach,  gomisiynu rhaglen ymchwil tri cham i asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. 

Heddiw, cyhoeddwyd rhan gyntaf ymchwil Cam 3. Nod yr adroddiad yw darparu sail dystiolaeth ar gyfer effeithiau posibl y diwygiadau lles ar y rheini â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r sail dystiolaeth yn gyfyngedig ar gyfer rhai o'r effeithiau cronnol a'r effaith ar rai nodweddion gwarchodedig. Felly, lle bo modd, mae'r adroddiad hwn wedi ystyried effeithiau pob un o'r prif ddiwygiadau yn unigol ac mae'n canolbwyntio ar bedair nodwedd warchodedig (rhyw, pobl anabl, oedran a hil ac ethnigrwydd). Mae'n dadansoddi'r niferoedd yr effeithir arnynt, colledion incwm, effeithiau ar dlodi, cymhellion i weithio (h.y. cyfran yr enillion a gollir mewn treth a budd-daliadau a dynnir yn ôl) a chyflogaeth, ac ystyriaethau ehangach fel mynediad ar-lein.   
 
Mae'r system budd-daliadau yn gwahaniaethu rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl a phobl iau a phobl hŷn o ystyried bod y nodweddion hyn yn gofyn am anghenion cymorth gwahanol yn gyffredinol. Nid yw hyn yn wir am ryw, hil ac ethnigrwydd; felly, nid yw'r rheolau o ran budd-daliadau yn gwahaniaethu rhwng y nodweddion hyn. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad hwn yn dangos y gall y diwygiadau lles effeithio ar rai grwpiau yn fwy am fod nodweddion eraill fel incwm, lefelau sgiliau, cymwysterau, statws gwaith a strwythur y teulu, yn fwy cyffredin mewn rhai grwpiau nag eraill.

Gydag ambell eithriad, mae'r newidiadau i fudd-daliadau a chredydau treth yn dueddol o gael effaith andwyol ar fwy o fenywod na dynion o ran yr effaith ar incymau. Ar y cyfan, mae cartrefi rhieni unigol nad ydynt yn gweithio, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, ymhlith y rhai a fydd yn gweld y colledion mwyaf o ran incwm. Fodd bynnag, disgwylir i rieni unigol gael budd o gymhelliant arwyddocaol i weithio mwy o oriau. I'r gwrthwyneb, mae llawer o fenywod mewn cyplau (yn enwedig y rheini â phlant), yn fwy tebygol o fod yn ail enillwyr na dynion, ac felly bydd ganddynt lai o gymhelliant i weithio. Y rheswm dros hyn yw bod Credyd Cynhwysol (CC) yn canolbwyntio ar gael yr enillydd cyntaf i mewn i waith. Bydd y gofynion llawer anoddach o ran chwilio am waith o dan CC hefyd yn effeithio ar fwy o fenywod. At hynny, mae'r taliad CC unigol i gartrefi yn fwy tebygol o gael ei wneud i bennaeth yr uned budd-daliadau, sy'n fwy tebygol o fod yn ddyn. Gall hyn roi rhai menywod dan anfantais.

Mae newidiadau mawr wedi cael eu gwneud i fudd-daliadau anabledd a salwch eisoes ac mae mwy i ddod eleni. Disgwylir i effeithiau diwygiadau o'r fath fod yn fwy amlwg yng Nghymru nag yn y DU gyfan o ystyried y gyfran gymharol uchel o bobl yng Nghymru sy'n cael y budd-daliadau hyn. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi rhai mesurau ar waith i warchod grwpiau anabl drwy eithriadau a Thaliadau Tai Dewisol (TTD) uwch; fodd bynnag, bydd effeithiau sylweddol ar bobl anabl a hefyd eu gofalwyr. Er bod y samplau y mae casgliadau'n seiliedig arnynt yn fach, mae ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (SAC) yn awgrymu bod gan gartrefi, ar gyfartaledd, rywun sy'n cael budd-dal anabledd a fydd yn gweld ei gymhelliant i weithio yn gwella. Yn ogystal, bydd y rheini sydd eisoes yn gweithio ac yn cael budd-dal anabledd yn gweld cryn welliant yn y cymhelliant i gynyddu eu henillion. Fodd bynnag, bydd cymhellion i gynyddu eu henillion yn dirywio i'r rheini mewn gwaith sydd â phartner sy'n cael budd-dal anabledd.

Ar y cyfan, nid effeithir ar bensiynwyr gan fod y rhan fwyaf o ddiwygiadau yn gymwys i fudd-daliadau oedran gweithio. O ystyried bod rhai o'r diwygiadau yn ymwneud yn benodol â grwpiau oedran penodol, byddant, yn anochel, yn cael effaith anghymesur ar y grwpiau hyn. Er bod pobl hŷn o oedran gweithio yn fwy tebygol o golli incwm o dan CC na phobl iau (a fydd yn dueddol o weld cynnydd mewn incwm), ar y cyfan bydd y diwygiadau, gyda'i gilydd, yn golygu eu bod yn gweld y cymhelliant i fod mewn gwaith â thâl yn cael ei atgyfnerthu. Ar gyfartaledd, bydd pobl hŷn o oedran gweithio sydd eisoes yn gweithio hefyd yn profi mwy o gymhelliant i gynyddu eu henillion, er bod y gwelliant hwn yn fwy i'r rheini rhwng 25 a 54 oed. Fodd bynnag, bydd y cymhellion i'r rheini sydd o dan 25 oed ac sydd eisoes yn gweithio gynyddu eu henillion yn dirywio.  

Mae rhai o'r diwygiadau lles, fel y cap ar fudd-dal tai, yn debygol o gael effaith anghymesur ar rai hawlwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig oherwydd nodweddion rhai o'r cartrefi hyn (er enghraifft teuluoedd mwy o faint ymhlith rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig). Er bod y samplau yn fach, mae ymchwil SAC yn awgrymu, ar gyfartaledd, y bydd y diwygiadau yn atgyfnerthu'r cymhelliant i bobl wyn weithio ac yn gwanhau'r cymhelliant i bobl nad ydynt yn wyn weithio. Y rheswm dros hyn yw bod pobl nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o fod â phlant dibynnol, ac felly maent yn dueddol o berthyn i grwpiau sy'n gweld eu cymhelliant i weithio yn gwanhau. I'r rheini sy'n gweithio, ar gyfartaledd, disgwylir i grwpiau gwyn a grwpiau nad ydynt yn wyn weld y cymhelliant i gynyddu eu henillion yn gwella. Fodd bynnag, mae'r gwelliant i grwpiau nad ydynt yn wyn yn debygol o fod yn llai, unwaith eto oherwydd nodweddion eraill fel enillion. 

Efallai y bydd rhai o'r grwpiau uchod, fel pobl anabl a phobl hŷn, hefyd yn ei chael hi'n anodd hawlio CC ar-lein. Mae'r newidiadau a gaiff eu gwneud yn feichus ac yn gymhleth ac mewn rhai achosion maent yn gwrthbwyso ei gilydd o ran yr effeithiau tebygol ar incwm a chymhellion i weithio. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod achosion lle mae'r diwygiadau yn debygol o arwain at effaith anghymesur ar rai grwpiau â nodweddion gwarchodedig. O ystyried y canfyddiadau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at dargedu ei pholisïau a chymorth i helpu i liniaru effeithiau andwyol o'r fath lle bo modd.

Nid yw lles yn fater datganoledig, ac o ystyried graddau diwygiadau lles Llywodraeth y DU, nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i wneud iawn am yr holl effeithiau ar bobl yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn ymrwymedig i wneud ein gorau glas i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf y diwygiadau.

Ar 21 Mai, gwnaeth y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pryd ddatganiad yn y Siambr, gan nodi ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau Llywodraeth y DU o ran darparu lles. Amlinellodd strategaeth Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar drechu tlodi ac ar gymryd camau i feithrin cymunedau gwydn, ochr yn ochr â chlystyrau llywodraeth leol, y trydydd sector a Chymunedau yn Gyntaf.

Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y rheini â nodweddion gwarchodedig hefyd yn fwy tebygol o brofi tlodi. Ar 3 Gorffennaf, cyd-lansiais Creu Cymunedau Cryf: Symud Ymlaen â’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Mae'r Cynllun yn canolbwyntio ar dri nod, ac mae'n cynnwys targedau a cherrig milltir i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau hyn:

  • Bydd atal tlodi yn cyfrannu at leihau anghydraddoldeb cyn gynted â phosibl a thorri'r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawni addysgol a'r cyfleoedd gwaeth mewn bywyd sy'n deillio o hyn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at wella lefelau cyrhaeddiad cyffredinol plant Dechrau'n Deg a myfyrwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Helpu pobl i gael gwaith - Y ffordd orau allan o dlodi yw drwy gyflogaeth, felly bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu pobl i wella eu sgiliau a'u cymwysterau, a mynd i'r afael â rhwystrau eraill i gael gwaith. Ymhlith y rhain mae hygyrchedd trafnidiaeth ac adeiladau, a thlodi dyhead. Felly, mae nodau Llywodraeth Cymru yn cynnwys lleihau nifer y cartrefi di-waith, yn enwedig y rhai â phlant, a nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
  • Lliniaru effaith tlodi - Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau mynediad teg a chyfartal i wasanaethau iechyd, tai, ariannol a digidol o ansawdd uchel waeth ble mae pobl yn byw neu beth yw eu hincymau. Bydd hyn hefyd yn helpu i liniaru tlodi mewn gwaith.

Gan gydnabod bod cyflogaeth yn ffordd allan o dlodi, mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys targed uchelgeisiol i ddarparu 5,000 ychwanegol o leoedd hyfforddiant a gwaith i bobl mewn cartrefi di-waith. Bydd yn gweithio gyda Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i bobl yng Nghymru.