Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf cefais gyfarfod â'm gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Yn ystod y cyfarfod hwnnw trafodwyd dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU o'r mannau lle mae cyfraith yr UE yn gorgyffwrdd â chymhwysedd wedi ei ddatganoli yn eu barn nhw. Mae'n adeiladu ar y rhestr y rhannodd Llywodraeth y DU â ni y llynedd, y cyfeiriwyd ati mewn datganiad ysgrifenedig ar 24 Hydref 2017. Gofynnom yn flaenorol i Lywodraeth y DU ryddhau rhestr gyfunol gan bob un o'r tair Gweinyddiaeth, ac rydym yn croesawu tryloywder y cyhoeddiad hwn.

Mae'n bwysig dweud yn glir mai dogfen Llywodraeth y DU yw hon. Nid ydym wedi cytuno iddi, ac nid yw'n cynrychioli barn Llywodraeth Cymru. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y ddogfen ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i oresgyn unrhyw wahaniaethau lle bynnag y bo modd.

O'r 167 maes, mae 64 y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn gymwys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r dadansoddiad ei hun yn gwahanu'r meysydd sy'n gorgyffwrdd i nifer o grwpiau:


  • 21 - lle na fydd angen gweithredu ar y cyd ar ôl ymadael â'r UE 
  • 19 - lle mae'n bosibl y bydd angen fframweithiau heb fod yn ddeddfwriaethol 
  • 24 - lle mae'n bosibl y bydd angen fframwaith deddfwriaethol 
  • 12 - meysydd y mae Llywodraeth y DU yn credu sydd wedi'u cadw yn ôl yn llwyr.
Er bod cyfanswm y nifer yn parhau i fod yn debyg i'r rhestr a rannwyd gyda ni llynedd, mae'r cynnwys wedi newid, ac fe fydd angen ei ystyried yn ofalus. Mae cyfanswm nifer y meysydd ym mhob grŵp yn ddiystyr yn gyffredinol oherwydd bod meysydd fel 'Cymorth Amaethyddol' a 'Cymorth a rheoli Pysgodfeydd' yn llawer ehangach ac yn effeithio llawer mwy ar gymhwysedd datganoledig yng Nghymru na meysydd pwysig ond cul fel 'systemau tollau ffyrdd electronig' a 'diogelwch ac ansawdd gwaed'.

Beth bynnag y mae dadansoddiad dros dro Llywodraeth y DU yn ei ddweud, ac mae'n bosibl iawn y bydd newidiadau i'r manylion, rhaid i unrhyw fframwaith cyffredin yn y dyfodol sicrhau cyfreithlondeb, ymgysylltiad ac effeithiolrwydd ar gyfer meysydd gweithredu ar draws y DU. Y mater pwysicaf i Lywodraeth Cymru yw sicrhau swyddogaeth gweinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig wrth lunio a chynnal unrhyw faterion ar draws y DU sy'n gorgyffwrdd â'n setliadau datganoli. 

Mae unrhyw sôn am ddatganoli "pwerau newydd sbon sylweddol" yn gamarweiniol a diwerth. Nid yw'r pwerau yn cael eu rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol, maent yma eisoes. Dylid canolbwyntio yn hytrach ar sefydlu systemau newydd i symud ymlaen gyda'n gilydd yn y meysydd hyn. Drwy gydweithio a llunio dulliau gweithredu ar y cyd, gallwn sicrhau sefydlogrwydd a marchnad fewnol weithredol pan fyddwn yn ymadael â'r UE. Edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth y DU i greu'r systemau hyn.

Dolen at gyhoeddiad Llywodraeth y DU: 

https://www.gov.uk/government/publications/frameworks-analysis