Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Prif Chwip a'r Trefnydd
Ar ran pobl a llywodraeth Cymru, rwyf am fynegi ein cydymdeimlad dwys â phobl India, y gymuned Indiaidd yng Nghymru a'r rhai y mae'r ddamwain awyren drasig yn Ahmedabad wedi effeithio arnynt.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn cysylltiad â'u cyd-swyddogion yn Llywodraeth y DU. Rydym ar ddeall bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ynghyd â'r Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol wrthi'n cydlynu ymdrechion gydag awdurdodau India i ddod o hyd i deuluoedd y dioddefwyr er mwyn darparu cymorth a chefnogaeth gonsylaidd mewn cymunedau yma yn y DU.
Caiff y drychineb enbydus ei theimlo gan gymunedau ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru, lle, yn drist iawn, rydym wedi colli Akeel Nanabawa o Gasnewydd a’I deulu ifanc.
Fel llawer o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn un a ymrwymodd i'r siarter ar gyfer teuluoedd sy'n wynebu profedigaeth yn sgil trychineb gyhoeddus. Rydym yn gadarn yn yr ymrwymiad hwn, a byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi'r rhai y mae'r drychineb hon wedi effeithio arnynt.
Mae'r cyfeillgarwch rhwng Cymru ac India wedi'i hen sefydlu, ac mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd, mewn ffordd mor drist, wedi colli eu bywydau, yn ogystal â phawb yn India a Chymru y mae'r digwyddiad enbyd hwn wedi effeithio arnynt.
Mae Cymru yn sefyll yn un ag India, a'r gymuned Indiaidd yng Nghymru, ar yr adeg anodd hon.