Neidio i'r prif gynnwy

Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Mawrth 23 Mehefin 2026, digwyddodd damwain ar yr A484 ger y gylchfan yng Nghydweli yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys bws un llawr a weithredwyd gan First Bus.

Anafwyd nifer o deithwyr ar wasanaeth X11, ond yn ffodus mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ein hysbysu nad yw’r un o’r anafiadau’n bygwth bywyd. Mae fy meddyliau gyda’r rhai a effeithiwyd ac rwy’n gobeithio y byddant i gyd yn gwella’n gyflym.

Rwyf eisiau diolch i’r gwasanaethau brys a fynychodd y digwyddiad ac a gefnogodd y teithwyr. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau’r cyhoedd a ruthrodd i helpu’n syth ar ôl y ddamwain.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i’r ddamwain.