Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r arolwg deintyddol diweddaraf o blant 5 oed yng Nghymru.  Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru gynhaliodd yr arolwg hwn fel rhan o raglen arolwg deintyddol y GIG (dolen allanol).

Mae’n dda gennyf ddweud bod y gwelliant cyson yn iechyd y geg ymysg plant yn parhau, a hefyd bod Cynllun Gwên, sef y rhaglen gwella iechyd y geg i blant, yn dechrau cael effaith amlwg. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliant pellach yn iechyd y geg i blant 0-5 oed.

Arolwg Deintyddol – crynodeb o’r casgliadau  

  • Bu gostyngiad yng nghanran y plant sydd â phydredd dannedd, rhwng y blynyddoedd 2007-08 (47.6%) a 2015-16 (34.2%). Mae hynny’n golygu y bu cynnydd parhaus yng nghanran y plant nad oes unrhyw bydredd amlwg yn eu dannedd erbyn 5 oed. Yn 2015-16, mewn dosbarth o 30 o blant, ni fyddai gan 20 ohonynt unrhyw bydredd dannedd, o gymharu â 16 heb unrhyw bydredd mewn dosbarth o 30 yn 2007-08. 
  • Mae’r profiad cymedrig o bydredd (sef dannedd sydd naill ai wedi pydru, wedi cael eu llenwi, neu sydd ar goll) ar draws Cymru gyfan hefyd wedi parhau i leihau o 1.98 yn 2007-08 i 1.22 yn 2015-16. Mae hynny’n golygu y bu gostyngiad o 38% mewn sgoriau profiad cymedrig o bydredd mewn 9 mlynedd. 
  • Yn 2007-08, byddai gan 14 o blant mewn dosbarth o 30 bydredd dannedd, a byddai gan bob un o’r 14 hyn 4.2 dant â phydredd ar gyfartaledd. Erbyn 2015-16, roedd hynny wedi gostwng i 10 o blant mewn dosbarth o 30, a byddai gan bob un o’r 10 hynny 3.6 dant â phydredd ar gyfartaledd.
  • Mae lefelau clefyd deintyddol mewn plant yng Nghymru yn parhau i ostwng ar draws pob grŵp cymdeithasol. Mewn termau  absoliwt, gwelwyd y gostyngiad mwyaf (15%)  yn nifer yr achosion o bydredd ymysg ycwintel mwyaf difreintiedig,  ynghyd â’r gostyniad (0.6) yn sgôr y profiad cymedrig o bydredd. Nid oes unrhyw dystiolaeth bo y bwlch mewn anghydraddoldebau yn tyfu.

Ail ffocysu rhaglen Cynllun Gwên

Er bod y sefyllfa o ran pydredd dannedd wedi gwella’n fawr ymysg plant blwyddyn ysgol 1 dros y 9 mlynedd diwethaf, mae lle i wella’r sefyllfa ar gyfer y traean o blant sy’n parhau i gael pydredd dannedd. Rydym yn gwybod bod pydredd dannedd yn dechrau’n gynnar. Fel arfer, bydd hanner y pydredd yn nannedd plant 5 oed wedi dod yn amlwg erbyn iddynt fod yn 3 oed, a bydd unrhyw ymyrraeth sylfaenol yn cael yr effaith fwyaf cyn iddynt droi’n 3 oed. Felly rydym yn ailffocysu Cynllun Gwên ar y grŵp 0-5 oed, gan ail ddatgan nod trosfwaol y rhaglen, sef sicrhau bod dannedd plant yn rhydd o bydredd erbyn iddynt gyrraedd 5 oed. Bydd hyn yn golygu symud gweithgarwch i ffwrdd o blant hŷn er mwyn ehangu ac ailffocysu ein hymdrechion ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf mewn bywyd yn unol â rhaglen “Symud Cymru Ymlaen”.

Mae angen inni ymgysylltu’n fwy egnïol gydag ymarferwyr deintyddol y “stryd fawr” a’u timau. Dylai’r rhaglen Cynllun Gwên fod yn fusnes pawb. Wrth i lefelau clefyd ostwng, mae’r profiad o bydredd yn y dannedd yn ddod yn rhywbeth sy’n cael ei ganolbwyntio fwyfwy mewn pocedi o ddwyster, gan ei gwneud yn anoddach targedu ar lefel cymuned neu ysgol, a gall profiad y plant hynny sydd yn y perygl mwyaf gael ei guddio gan adroddiadau sy’n seiliedig ar lefelau cymedrig/cyfartalog.

Bydd timau mewn practisau deintyddol yn cael cymorth i adnabod plant sydd mewn perygl, a byddant yn cael y cyfle i wella eu sgiliau o ran cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal er mwyn darparu gofal ataliol a sefydlu patrwm o fynychu apwyntiadau ymysg y plant hyn. Gellir cyfeirio timau ac adnoddau Cynllun Gwên i gefnogi’r ymgyrch hon, fel y bo angen. Byddant hefyd yn datblygu cysylltiadau cryfach gydag Ymwelwyr Iechyd; yn gweithio mewn modd sy’n gydnaws â strategaeth Plant Iach Cymru; ac yn cyflwyno’r elfennau hynny o raglen “lift the lip” o Seland Newydd y gellir eu haddasu a’u mabwysiadu yma yng Nghymru.

Bydd y gwaith monitro a gwerthuso yn parhau i sicrhau bod y rhaglen yn effeithiol. Hefyd bydd yr ysgolion hynny sydd am barhau â’u brwsio dannedd dyddiol i blant 6+ yn cael y cymorth i wneud hynny fel rhan o strategaethau’r byrddau iechyd ar gyfer iechyd y geg.

Mae gwella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn rhan bwysig o’n hymdrechion i ddiwygio gofal sylfaenol. Mae’r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd a gafwyd hyd yn hyn. Rydym yn gwybod bod rhagor i’w wneud. Bydd ail ffocysu rhaglen Cynllun Gwên yn ein helpu i sicrhau’r gwelliannau pellach y mae eu hangen.