Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen ddiwygio uchelgeisiol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn ganolog i’r rhaglen mae’r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (“y Bil”), sy’n cael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.  

Ers cyflwyno’r Bil, rydym wedi ychwanegu adran newydd sy’n ymwneud â Darpariaeth Addysgol. Mae’r adran hon yn datgan y gallai Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch p’un a yw swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn hyrwyddo diben Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a sut maent yn gwneud hynny. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a ddylid rhoi gwybodaeth i rieni ynghylch a yw’r cwricwlwm ac unrhyw ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) yn hyrwyddo diben y Ddeddf a sut maent yn gwneud hynny.

Rydym wedi cyflwyno gwelliannau pellach yng Ngham 3:

  • Diwygio adran 14 i nodi ein bwriad i gyhoeddi canllawiau statudol er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn dynodi aelod o’u staff i hyrwyddo materion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Byddai’r unigolion hyn yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, trais rhywiol a cham-drin domestig, neu i newid agweddau pobl tuag at y problemau hyn. Byddai’n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â chanllawiau statudol o’r fath oni bai eu bod yn gallu dangos eu bod am ddefnyddio system arall sy’n foddhaol ym marn Gweinidogion Cymru.
  • Rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru a CCAUC gyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a’i gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau hynny ddilyn canllawiau o’r fath. Bydd hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru a CCAUC yn gallu cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ar sut y gallant helpu i gyflawni diben y Ddeddf.

Gallaf gadarnhau heddiw y byddwn hefyd yn cefnogi’r Bil hwn mewn ffyrdd eraill, er enghraifft drwy bolisïau addysg ategol sy’n addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd parch mewn perthynas iach, mewn perthynas â’r cwricwlwm, canllawiau diogelu, hyfforddiant proffesiynol ac arolygu.

Cwricwlwm

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, a oedd yn adolygu’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu.

Mae Dyfodol Llwyddiannus yn awgrymu gweledigaeth ar gyfer ein cwricwlwm o’r hyn a fyddai’n ddisgwyliedig ar gyfer pobl ifanc lwyddiannus sy’n dod i ddiwedd eu cyfnod addysg statudol. Mae’r adroddiad yn nodi pedwar diben i’r cwricwlwm yng Nghymru – sef y byddai ein pobl ifanc i gyd:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus;
  • yn unigolion iach, hyderus.

Mae’r Athro Donaldson yn nodi ystod o nodweddion penodol o fewn pob diben. Mae’n awgrymu, er enghraifft, y dylai unigolion iach, hyderus “ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch”. Mae ei adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid strwythuro’r cwricwlwm newydd o amgylch chwech Maes Dysgu a Phrofiad – dylai Iechyd a Lles fod yn un ohonynt. Dyma lle mae’n sôn am gydberthnasau iach. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn ffynnu a llwyddo yn eu haddysg. Bydd y Maes Dysgu a Phrofiad hwn yn eu helpu i gael yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a phriodol, delio â’r materion a’r penderfyniadau anodd y byddant yn eu hwynebu a dysgu byw’n annibynnol.

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi nodi ei fwriad i gynnal Sgwrs Fawr ar argymhellion yr adroddiad. Bydd mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn dibynnu ar ganlyniad y sgwrs, bydd gan y prif randdeiliaid rôl bwysig yn helpu i ddatblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys Iechyd a Lles – a fydd yn bwysig iawn wrth gyflawni diben y Bil. Rwyf i a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno i ymchwilio gyda’r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o ran sut gallant gyfrannu at ddatblygu’r gwaith hwn.

Mae hyn yn rhoi’r cyfle inni symud ymlaen o’r ddarpariaeth bresennol. Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn addysgu disgyblion am gydberthnasau iach fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol neu, lle bo’n berthnasol, o dan Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn un o ofynion statudol y cwricwlwm i bob disgybl rhwng 5 ac 16 oed sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Wrth gynllunio eu rhaglenni Addysg Bersonol a Chymdeithasol, dylai ysgolion ddefnyddio’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru, a ddilynwyd ers Medi 2008.

Ar hyn o bryd, gall ysgolion addysgu ar bob agwedd ar berthnasoedd mewn sawl cyd-destun o fewn y thema iechyd a lles emosiynol, a hynny yn ystod holl gyfnodau’r ysgol, er enghraifft:

  • yng Nghyfnod Allweddol 3 (dysgwyr 12-14 oed) – dylai ysgolion fod yn addysgu’r disgyblion am ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag atyn nhw’u hunain a thuag at eraill, a deall yn benodol nodweddion perthnasoedd diogel a pherthnasoedd a allai fod yn niweidiol.
  • yng Nghyfnod Allweddol 4 (dysgwyr 15-16 oed) – mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at berthnasoedd personol a deall:
    • risgiau gweithgarwch rhywiol gan gynnwys y posibilrwydd o gamfanteisio rhywiol;
    • ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a sut y gellir meithrin lles emosiynol.

I’n dysgwyr ifancaf, mae maes dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cyfnod Sylfaen yn delio â hunan-barch a lles corfforol.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adnoddau Addysg Bersonol a Chymdeithasol drwy’r wefan rydym yn ei hariannu, drwy Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Ariennir hon gan Lywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, ac ar hyn o bryd fe’i defnyddir mewn 99.7% o ysgolion ledled Cymru. Mae’n rhoi negeseuon cyson i ddisgyblion ysgol rhwng 7 ac 16 oed ar bob math o bynciau, gan gynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau, ac mae’n cynnig gwersi ar bob agwedd ar ddiogelwch personol, gan gynnwys perthnasoedd mwy diogel, cam-drin domestig a chydsyniad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo arian ychwanegol i Hafan Cymru i ehangu Rhaglen Ysgolion Spectrum. Dechreuwyd cyflwyno’r Rhaglen Genedlaethol ddiwedd yr haf 2014. Recriwtiwyd Swyddogion Cyswllt Ysgolion ychwanegol, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Chynorthwy-ydd Gweinyddol ar gyfer y Prosiect.

Rwyf wedi nodi eisoes fy mwriad i gyhoeddi canllaw arfer da ar berthnasoedd iach ar gyfer disgyblion ysgol o bob oed, a hynny cyn blwyddyn academaidd 2015-16. Bydd hyn yn tynnu sylw at yr arferion gwych sy’n cael eu dilyn ledled Cymru. Bydd hefyd yn cefnogi ac yn annog yr ysgolion hynny rydym yn gwybod bod angen iddynt wneud mwy i wneud hynny drwy ddysgu oddi wrth eraill. Mae Cymorth i Fenywod yn bwrw ymlaen â’r Canllaw hwn a bydd yn ymgynghori’n eang yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn bwriadu ymgorffori’r canllaw arfer da hwn yn y canllawiau statudol a fydd yn cael eu cyhoeddi o dan adran 14 y Bil i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion i fabwysiadu’r arferion da hyn.

Canllawiau diogelu

Bydd trefniadau diogelu hefyd yn helpu i gyflawni dibenion y Bil. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol diwygiedig, Cadw dysgwyr yn ddiogel, i helpu pob gwasanaeth addysg i gyflawni eu cyfrifoldebau i ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles.

Mae pennod 2 y canllawiau statudol hyn yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, perchnogion ysgolion annibynnol a phenaethiaid. Mae’r canllawiau’n nodi bod angen dynodi unigolyn mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach i ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros faterion amddiffyn plant. Mae ei rôl ef neu hi yn hollbwysig o ran sicrhau bod yna drefniadau diogelu yn eu lle, ac mae’n bwynt cyswllt ac yn rhywun i droi ato am gymorth, cyngor ac arbenigedd o fewn y sefydliad addysgol pan fydd mater yn codi a allai effeithio ar les plentyn. Yr unigolyn hwn fydd yn bennaf gyfrifol am arferion, polisi, gweithdrefnau a datblygiad proffesiynol o ran amddiffyn plant. Ef/Hi hefyd fydd yn cyfeirio achosion lle gwneir honiadau o gam-drin i’r asiantaethau ymchwilio perthnasol. Rhaid rhoi digon o amser ac adnoddau iddo gyflawni ei rôl, gan gynnwys hyfforddiant addas fel y gall adnabod a nodi arwyddion cam-drin ac esgeulustod, a sut a phryd i gyfeirio achos i asiantaethau ymchwilio.

Mae pennod 4 y canllawiau yn amlinellu’r prif faterion sy’n gysylltiedig â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn helpu staff cymorth mewn ysgolion i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i ddiogelu plant a allai fod yn wynebu’r problemau hyn, a hyrwyddo’u lles. Bydd ymateb yn briodol i faterion o’r fath yn golygu y gellir diogelu disgyblion yn effeithiol rhag unrhyw berygl sylweddol i blant a phobl ifanc mewn addysg.  

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau eisoes wedi dweud y byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r prif randdeiliaid i holi eu barn am y cymorth sydd ei angen er mwyn gweithredu’r canllawiau, ac arferion diogelu trylwyr, yn effeithiol ac mewn ffordd gyson. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi unrhyw fylchau yn ein dealltwriaeth ar hyn o bryd a lle mae angen cymorth ychwanegol ar ymarferwyr. Os bydd angen cymryd camau pellach, byddwn yn gofalu eu bod yn gydnaws â’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Ym mis  Mai 2011, cyhoeddwyd protocol ar ddiogelu plant a phobl ifanc a oedd wedi dod i gysylltiad â cham-drin domestig. Fe’i cyhoeddwyd ar ran Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant fel rhan o Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Mae’r protocol hwn yn rhoi cyngor ar gydlynu ymateb mwy nag un asiantaeth – gan gynnwys y gwasanaeth addysg – er mwyn diogelu plant a allai fod yn agored i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r protocol hwn yn allweddol i hwyluso ymateb effeithiol a chyson gan fwy nag un asiantaeth a chyfeirir at hyn yn y canllawiau statudol.

Hyfforddiant proffesiynol

Yn uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith sy’n cael ei wneud drwy’r Bil, caiff hyfforddiant ei gynnig ym mhob ysgol drwy’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn sicrhau:

  • bod llywodraethwyr ysgolion a phob aelod o’r staff yn ymwybodol o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn gallu adnabod cam-drin o’r fath ac yn gwybod sut i helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n dioddef neu’n dod i gysylltiad â’r broblem, neu sut i gael cymorth drostyn nhw’u hunain neu eu cydweithwyr (lefel 1);
  • bod cyfran o staff ysgolion wedi’u hyfforddi i ymateb yn effeithiol pan ddaw arwyddion o gam-drin i’r amlwg, ac i allu trefnu asesiad risg, gwneud cynlluniau diogelwch a chynnig cymorth (lefel 2);
  • bod o leiaf un aelod o staff pob ysgol yn gallu cefnogi staff eraill i reoli achosion anodd, gan gynnig mwy o wybodaeth a chymorth i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau aml-asiantaethol, a chodi ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn lleoliadau addysg (lefel 3).

Arolygu

Fel rhan o’i gylch arolygu arferol, mae Estyn yn arolygu ac yn ystyried sut caiff y cwricwlwm statudol yng Nghymru ei gyflwyno ac mae’n rhoi sylw i feysydd fel lles (gan gynnwys agweddau at iechyd a diogelwch). Fel rhan o’i fframwaith arolygu cyffredin, mae’n dod i gasgliad hefyd ar y cymorth a’r canllawiau gofal a gynigir i ddysgwyr.

Mae adolygiad thematig ynghylch trais yn ebryn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar y gweill ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-2017, yn seiliedig ar themâu. Erbyn hynny, bydd y diwygiadau rydym yn eu cyflwyno, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol, wedi cael cyfle i ymsefydlu.  

Rwy’n gobeithio y bydd yr aelodau yn cytuno bod hon yn gyfres gynhwysfawr o fesurau ar gyfer gwella addysg a chodi ymwybyddiaeth er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben.