Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddiwylliant dim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth.

Mae bod yn Wrth-hiliol yn golygu mynd ati i nodi a dileu systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau trawiadol o wahanol i grwpiau ethnig lleiafrifol. Hyd yn oed os nad ydyn ni’n ystyried ein hunain yn ‘hiliol’, os nad ydyn ni’n gwneud dim, yna rydyn ni’n cyfrannu at ganiatáu i hiliaeth barhau.

Mae’n rhaid inni sicrhau nad yw cenedlaethau’r dyfodol yn profi’r hiliaeth a’r gwahaniaethu sy’n nodwedd niweidiol o brofiad bywyd pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru. Er mwyn cefnogi’r weledigaeth hon, rydym yn falch o lansio darpariaeth dysgu proffesiynol wrth-hiliol ar gyfer y sector gofal plant, gwaith chwarae a blynyddoedd cynnar fel un o’r ffyrdd y gallwn gefnogi’r nod hwn a chyflawni ein hymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae’r adnodd dysgu proffesiynol newydd hwn ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, sydd o ansawdd uchel, ar gael am ddim i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n darparu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin ar eu taith gwrth-hiliaeth. Ariennir yr adnodd gan Lywodraeth Cymru ac fe gafodd ei ddatblygu gan y fenter Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol gyda chymorth Childcare Wales Learning and Working Mutually, y corff ymbarél sy’n cefnogi’r sector. 

I gefnogi camau gweithredu’r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, rydym wrthi’n penodi unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd â gwybodaeth neu brofiad o effaith hiliaeth o fewn y sector gofal plant, gwaith chwarae a blynyddoedd cynnar i fod yn fentoriaid cymunedol.

Gall y sector gael mynediad at y ddarpariaeth dysgu proffesiynol hon yma: DARPL - Diversity and Anti-Racism Professional Learning

Does dim lle i unrhyw fath o hiliaeth yng Nghymru – yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.