Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 22 Gorffennaf, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ddatganiad i’r wasg ynghylch cyflwyno’r brechlyn brech y mwncïod yn gyflymach yn Llundain. Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o ran effeithiau hyn ar gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru.

Mae GIG Cymru eisoes wedi bod yn brechu rhai o’r bobl sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn brech y mwncïod, sef:

  • Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion
  • Staff gofal iechyd rheng flaen sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddod i gysylltiad â’r feirws
  • Y rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos a gadarnhawyd, yn unol â chyngor Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU

Nid yw’r brechlynnau brech y mwncïod yn cael eu cynhyrchu i’w defnyddio’n rheolaidd mewn unrhyw wlad, felly mae cyflenwadau byd-eang wedi eu cyfyngu. Oherwydd y cyfyngiad ar gyflenwadau, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno, yn y tymor byr, i’r dull cyffredin i’r DU gyfan o reoli brigiadau o achosion, a gynigir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Mae hyn yn golygu y bydd cyflwyno’r brechlyn yn cael ei flaenoriaethu lle ceir brigiadau lleol o achosion.

Mae’r rhaglen yn cael ei hehangu yn gyntaf yn Llundain gan mai dyma lle mae mwyafrif yr achosion wedi’u lleoli. Bydd timau’r GIG yn ardal Llundain yn cael dosau ychwanegol o’r cyflenwad presennol mewn ymdrech i dorri’r cadwyni trosglwyddo mor gyflym â phosibl.

Yng Nghymru, fel gweddill y DU, mae hyn yn golygu, yn y tymor byr, mai dim ond y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf mewn ardaloedd â brigiadau lleol o achosion sy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechu. Bydd eu bwrdd iechyd yn cysylltu’n uniongyrchol â phobl yn y categori hwn yng Nghymru. Mesur dros dro yw hwn nes bod mwy o frechlynnau ar gael. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU eu bod wedi caffael mwy na 100,000 o ddosau brechlyn ychwanegol gyda’r nod o ddosbarthu’r 20,000 cyntaf i’w defnyddio gan y GIG ym mis Awst. Rydym yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i sicrhau bod cyfran Cymru o’r brechlyn ar gael i’w gyflwyno mor fuan â phosibl.

Bydd y rhai nesaf ar y rhestr flaenoriaeth yn cael cynnig brechlyn cyn gynted ag y bydd ar gael ac rydym yn annog pawb sy’n gymwys i’w gael pan fydd byrddau iechyd yn eu gwahodd i apwyntiad brechu. Bydd yn helpu i amddiffyn eich hunain ac eraill yr ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw.

Rydym yn gweld rhan fwyaf yr achosion brech y mwncïod yn y brigiadau o achosion presennol ymysg dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion. Rydym am roi sicrwydd i’r gymuned hon mai eu buddiannau nhw yw ein blaenoriaeth. Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, waeth beth fo’u rhywioldeb, ond mae’n amlwg bod rhai grwpiau’n wynebu mwy o risg. Rydym yn awyddus i osgoi sefyllfa pan fo ofn stigma yn atal unigolion rhag cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd neu ofyn am help. Mae’n bwysig nad ydym yn caniatáu i stigma neu wybodaeth anghywir wneud mwy o niwed na’r feirws ei hun.

Dylem i gyd fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau brech y mwncïod a bod yn ofalus wrth fynychu digwyddiadau a sefyllfaoedd lle gall cyswllt agos ddigwydd. Dylai pobl sy’n poeni am symptomau gysylltu â’r GIG 111 neu wasanaeth iechyd rhywiol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/pynciau/brech-y-mwnciod/

Er bod Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi datgan bod y brigiad o achosion brech y mwncïod yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol, ac er bod mwy o bobl wedi cael diagnosis o frech y mwncïod yn ddiweddar, mae nifer y bobl sydd wedi’u heffeithio ar y cyfan yng Nghymru, ac yn y DU, yn parhau i fod yn isel ac mae’r risg o ddal brech y mwncïod yn hynod o isel. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol hefyd bod tystiolaeth yn dangos bod modd trin y feirws, ac er bod triniaethau gwrthfeirysol penodol ar gael ar gyfer brech y mwncïod, mae’r salwch fel arfer yn ysgafn. Ni fydd angen triniaeth ar y rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi’u heintio a byddant yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid yn parhau i fonitro’r sefyllfa yng Nghymru ar sail barhaus ac i weithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ar yr ymateb.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau’n dymuno inni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddem yn hapus i wneud hynny.