Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Gwastadeddau Gwent yn un o dirweddau mwyaf nodedig Cymru, sy'n cael eu cydnabod am eu bioamrywiaeth eithriadol, eu cymeriad hanesyddol a'u rôl hanfodol o ran addasu i'r hinsawdd. Mae'r Datganiad Ysgrifenedig: Cymryd Camau i Warchod a Rheoli Gwastadeddau Gwent yn well (1 Gorffennaf 2021) yn cydnabod, er bod gan Wastadeddau Gwent lawer o ddynodiadau statudol ac anstatudol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, gwerth tirwedd a thirwedd hanesyddol, eu bod yn parhau i fod yn agored i niwed.
Mae Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yn nodi Gwastadeddau Gwent fel Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol o dan Bolisi 9. Yn unol â'r polisi hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Canllawiau Cynllunio Strategol drafft, a bellach yn ymgynghori arnynt, i gryfhau'r broses o weithredu Polisi 9 a sicrhau dull cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gynllunio ar draws y Gwastadeddau.
Ar ôl eu mabwysiadu, bydd y canllawiau'n ategu Cymru'r Dyfodol, ac ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru byddant yn berthnasol wrth baratoi cynlluniau datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid yw'n creu polisi newydd nac yn cyfiawnhau datblygiad a fyddai fel arall yn annerbyniol. Yn hytrach, mae'n darparu'r manylion sydd eu hangen i ddiogelu, adfer a gwella rhwydweithiau ecolegol gwydn ar draws Gwastadeddau Gwent ac i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cyfrannu'n gadarnhaol at fioamrywiaeth, gwydnwch ecosystemau ac uniondeb tirwedd hirdymor‑.
Mae dull gofodol yn elfen ganolog o'r canllawiau, ac yn datblygu ar waith mapio strategol i ddeall gwydnwch ecosystemau ar draws y Gwastadeddau. Mae hyn yn cynnwys nodi'r Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol,a’r Parth Craidd a'r Parth Adfer (Cyfle), pob un ag egwyddorion a gweithredoedd strategol clir. Mae'r fframwaith gofodol hwn wedi'i gynllunio i gefnogi adferiad natur, cryfhau cysylltedd ecolegol a chyfeirio atebion sy'n seiliedig ar natur i'r mannau y gallant ddarparu'r budd mwyaf. Mae'n cyd-fynd ag ymrwymiadau cenedlaethol, gan gynnwys cyflawni targedau bioamrywiaeth statudol a'r Targed Bioamrywiaeth Byd-eang 30 erbyn 30.
Mae'r Canllawiau Cynllunio Strategol drafft ar gyfer Gwastadeddau Gwent bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Rwy'n annog yr holl randdeiliaid i gyfrannu eu barn. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio ar draws y Gwastadeddau yn cefnogi amgylchedd gwydn, yn adfer rhwydweithiau ecolegol ac yn sicrhau manteision hirdymor‑i natur a chymunedau.
