Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 11 Mehefin 2013, cyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer y rhai sy’n Ddifrifol Wael: Cynllun Cyflawni hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru. Mae'n pennu camau gweithredu i wella'r profiad a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael, ac i leihau anghydraddoldeb ac amrywioldeb o ran mynediad at wasanaethau. Mae hynny er mwyn sicrhau bod cleifion sydd angen gofal critigol yn ei gael mewn amgylchedd priodol, gan dderbyn gofal gan niferoedd digonol o staff â chymwysterau a phrofiad addas.

Y cynllun hwn oedd dechrau rhaglen weithredu i ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd gofal critigol, a nodwyd fel blaenoriaeth i fyrddau iechyd.

Nid yw gwelyau gofal critigol yn cael eu defnyddio'n briodol bob amser. Er enghraifft, nid oes angen y lefel ddwys honno o ofal ar bob claf mewn gwely gofal critigol ac mae'n bosibl bod rhai cleifion mewn gwelyau gofal critigol yn aros i gael eu trosglwyddo i ward ysbyty arferol i barhau i gael gofal a chymorth. Gall oedi wrth drosglwyddo cleifion arwain at ganslo llawdriniaethau neu drosglwyddo cleifion sy’n ddifrifol wael i ysbyty arall oherwydd nad oes digon o welyau gofal critigol ar gael. Mae gwelyau gofal critigol yng Nghymru wedi'u gwasgaru dros nifer fawr o ysbytai, ond mae consensws cynyddol ymysg clinigwyr mai opsiwn gwell fyddai eu crynhoi ar nifer lai o safleoedd.

Roeddwn i'n derbyn ei bod yn annhebygol y byddai arbedion effeithlonrwydd ynddynt eu hunain yn ddigon i fodloni’r galw cynyddol am ofal critigol ac y gallai fod angen buddsoddiad i gynyddu capasiti. Rhoddwyd addewid y byddai gwaith yn cael ei wneud i fesur y nifer ychwanegol o welyau y mae eu hangen yng Nghymru ac y byddwn yn rhoi'r diweddaraf ar hynt y gwaith.

Mae dau adroddiad – yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael ac sesiad o angen heb ei fodloni ar gyfer gofal critigol yng Nghymru, a luniwyd gan y grŵp gweithredu Cymru gyfan – yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r adroddiad blynyddol ar wasanaethau gofal critigol yn pennu safonau sylfaenol clir ar gyfer darparu gwasanaethau i'r rhai sy'n ddifrifol wael, a bydd yn ategu adroddiadau’r byrddau iechyd ar wasanaethau a chyflawni.

Mae'n rhoi trosolwg o berfformiad y GIG ac yn nodi’r hyn y mae angen i fyrddau iechyd ei wneud i wella gofal i gleifion. Mae'n tynnu sylw at nifer o fentrau pwysig sydd eisoes ar waith ac yn pennu safonau sylfaenol ar gyfer monitro cynnydd yn y dyfodol.

Ledled Cymru, mae’r GIG yn darparu gwasanaethau gofal critigol o ansawdd da ac mae ganddo weithlu ymroddgar. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi datblygu ac wrthi'n rhoi cynlluniau cyflawni cadarn ar waith a gefnogir ac a ddatblygir gan glinigwyr.

Nid yw'r gofal i bobl sy'n ddifrifol wael yn dechrau ac yn gorffen yn yr uned gofal critigol. Mae’r byrddau iechyd wedi datblygu ffyrdd o fynd ati i nodi a rhoi triniaeth i gleifion sy'n ddifrifol wael ar draws wardiau ysbytai. Mae ysbytai nad ydynt yn darparu gofal critigol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod eu cleifion yn cael y gofal gorau posibl pan fyddant yn ddifrifol wael. Mae hyn yn cynnwys sefydlogi, cludo ac adalw ac ailgartrefu pan fydd y gofal critigol ar ben.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o ddangosyddion canlyniad a sicrwydd i fesur sut mae gwasanaethau gofal critigol yn gwella yng Nghymru. Mae cynnydd yn dangos bod gwasanaethau gofal critigol yn datblygu:

  • Mae cyfraddau goroesi'n gwella – mae nifer y cleifion sy'n cael eu trosglwyddo'n ôl i'r ward ar ôl cael eu derbyn i uned gofal critigol yn cynyddu. Yn 2012, cafodd ychydig dros 80% o gleifion eu rhyddhau i ward arall, sef cynnydd o'i gymharu â 79% yn 2011;
  • Mae’r GIG yn bodloni'r galw am ofal critigol, sydd wedi bod yn cynyddu'n araf dros gyfnod. Yn 2011 roedd 8,991 o dderbyniadau ac yn 2012 roedd 9,887 o dderbyniadau – cynnydd o 896 o dderbyniadau, bron 10%.
  • Prin iawn yw'r aildderbyniadau i ofal critigol o fewn 48 awr – llai na 2% o'r holl gleifion sy'n cael eu rhyddhau, sy'n arwydd bod y gofal mewn wardiau a'r broses ryddhau yn effeithiol.
  • Ers cyflwyno'r rhwydweithiau gofal critigol, mae gwelliannau wedi digwydd o ran trosglwyddo diogel ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael drwy hyfforddiant ac archwilio parhaus – mae 80% o'r holl drosglwyddiadau'n cael eu barnu'n dda neu'n rhagorol.
  • Mae holiadur adborth gofalwyr y Gymdeithas Gofal Dwys wedi cael ei gyflwyno i gael barn gofalwyr. Mae ysbytai sydd wedi cymryd rhan wedi nodi cyfraddau boddhad rhagorol o ran cyfathrebu, cyfleusterau a staff meddygol a nyrsio.

Mae’n rhaid i ni barhau i gynnal a gwella perfformiad yn y meysydd hyn a sicrhau bod cynnydd yn digwydd yn y meysydd hynny lle nad yw perfformiad wedi bod cystal â'r disgwyl.

Mae’r GIG yn parhau i weithio i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn gynaliadwy ac yn bodloni anghenion pobl Cymru wrth i’r anghenion hyn newid. Fel rhan o’u cynlluniau gwasanaeth ac ad-drefnu, mae’n rhaid i’r byrddau iechyd ystyried y lleoliad a'r swyddogaeth orau ar gyfer eu hunedau gofal critigol.

Mae'r adroddiad blynyddol yn cydnabod y gallai fod yn briodol i ganoli gwasanaethau gofal critigol mewn llai o ysbytai nag sy’n digwydd ar hyn o bryd. Gallai hyn olygu tynnu gwasanaethau gofal dwys ynghyd – gofal lefel tri – ond sicrhau bod ysbytai eraill yn cynnal y cyfleusterau i ddadebru a sefydlogi cleifion difrifol wael cyn bod modd eu trosglwyddo i uned gofal dwys.

Mae adroddiad yr asesiad o angen heb ei fodloni ar gyfer gofal critigol yng Nghymru yn dod i’r casgliad y gallai fod angen 73 o welyau ychwanegol yng Nghymru yn y dyfodol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae 10 o welyau gofal critigol ychwanegol wedi’u sicrhau ar draws Cymru ac mae gan fyrddau iechyd gynlluniau ar gyfer wyth arall.

Fodd bynnag, mae’r ddau adroddiad yn tynnu sylw at y broblem yng Nghymru ar hyn o bryd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal o unedau gofal critigol, a all arwain at golli hyd at 14 o welyau y flwyddyn. Nes i’r broblem hon gael ei datrys a nes i’r gyfradd o oedi wrth drosglwyddo ostwng, mae creu degau ar ddegau o welyau gofal critigol newydd yn annhebygol o leddfu’r broblem, fel y mae adroddiad yr asesiad yn ei gydnabod.

Mae’r ddau adroddiad yn dweud yn glir bod yn rhaid i’r GIG ganolbwyntio ar leihau oedi wrth drosglwyddo gofal o unedau gofal critigol yng Nghymru, a sicrhau bod derbyniadau'n briodol ac er budd gorau cleifion er mwyn gwneud y defnydd gorau o welyau presennol, cyn bwrw ymlaen â chynyddu nifer y gwelyau ar raddfa helaeth.

Mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym eisoes ac mae'n rhaid gweithredu'n gynt i fynd i'r afael â'r defnydd aneffeithlon o’n gwelyau gofal critigol. Dylai fod gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gynllun i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal a bydd gofyn iddynt sicrhau bod hyn yn lleihau'n raddol. Bydd hyn yn gofyn am gydweithredu a chydgysylltu ar draws ysbytai.

Mae gwaith yn digwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r rhwydweithiau gofal critigol i lunio mesur datblygu newydd ar sail oriau a gollwyd yn sgil oedi wrth drosglwyddo gofal mewn gofal critigol. Bydd disgwyl i’r byrddau iechyd sicrhau gostyngiad o 10% bob chwarter yn nifer yr oriau a gollir trwy oedi wrth drosglwyddo gofal o unedau gofal critigol. Bydd disgwyl i’r gostyngiad hwn barhau hyd nes y byddant yn cyrraedd sefyllfa lle nad oes mwy na 5% o’r gwelyau sydd ar gael yn cael eu colli oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal.

Bydd y cam hwn yn sicrhau bod y GIG yn gwneud y defnydd gorau o’i welyau gofal critigol a bod y rheini ar gael i gleifion pan fo’u hangen.

Bydd y mesur hwn yn cael ei roi ar brawf fel rhan o fframwaith canlyniadau newydd y GIG.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailagor, byddwn yn hapus i wneud hynny.