Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy'n cyhoeddi “Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer y Rhai sy'n Ddifrifol Wael: Cynllun Cyflawni hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru”.  Mae'n adeiladu ar y cynnydd rydyn ni eisoes wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau gofal critigol yng Nghymru. Mae'n fframwaith sy'n herio'r GIG i arloesi ac mae'n nodi'n glir ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran yr hyn sydd i'w gyflawni.  

Cafodd y Cynllun Cyflawni ei lunio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y GIG, ac mae'n anelu at fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau gofal critigol yng Nghymru. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n bum thema, ac iddynt ddisgwyliadau clir, sef:

  • Rhoi Gofal Priodol ac Effeithiol mewn Wardiau
  • Derbyniadau Amserol i Ofal Critigol 
  • Darparu a Defnyddio Gofal Critigol yn Effeithiol 
  • Rhyddhau Cleifion yn Amserol o Ofal Critigol 
  • Gwella Gwybodaeth ac Ymchwil

Mae'n anelu at sicrhau bod pobl sydd angen gofal critigol yn ei gael mewn amgylchedd priodol, a bod y gofal hwnnw'n cael ei roi gan nifer ddigonol o staff profiadol a chymwys.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hefyd wedi cytuno ar Ddatganiad Consensws ar Ofal Critigol yng Nghymru ynghylch y berthynas rhwng rhoi organau a gwasanaethau gofal critigol.  

Mae'r math o therapi dwys a ddarperir yn golygu fod gwelyau gofal critigol yn un o adnoddau drutaf y gwasanaeth gofal eilaidd.  Er enghraifft, mae gwely lefel tri tua 4½ gwaith yn ddrutach na gwely mewn ward gyffredin. Felly, pan ddaw cyfnod o ofal critigol i ben, mae'n bwysig bod cleifion yn cael eu symud cyn gynted â phosibl i amgylchedd sy'n fwy priodol er mwyn eu hadsefydlu a diwallu eu hanghenion.

Mae angen i unedau gofal critigol fedru ymateb i'r amrywiadau o ran derbyniadau brys yn ogystal ag ymdopi â galw a gynlluniwyd. Mae pob uned yng Nghymru'n cofnodi cyfraddau defnydd gwelyau o fwy nag 80%, ac mewn llawer o unedau mae'r gyfradd defnydd gwelyau yn fwy na 100% yn aml, lle caiff cleifion weithiau ofal mewn meysydd heblaw gofal critigol.  Mae'r sefyllfa hon yn anfoddhaol ac rwyf am fynd i'r afael â hi.

Ar yr un pryd efallai nad oes angen y lefel honno o ofal ar lawer o'r cleifion mewn unedau gofal critigol. Dengys data cenedlaethol ar ofal critigol i 111,377 o oriau gwely gofal critigol gael eu colli wrth i gleifion aros i gael eu rhyddhau i welyau ar wardiau yn 2012/13; mae hyn yn cyfateb i bron 13 o flynyddoedd neu 13 gwely ledled Cymru mewn blwyddyn.

Yn y GIG, mae cyfartaledd o 3.2 o welyau gofal dwys fesul 100,000 o bobl. Fel y gwyddom, mae hyn yn is na nifer y gwelyau a ddarperir ar gyfer y boblogaeth yng ngweddill y DU.  Mae'r ffaith bod cyn lleied o welyau yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl drwy leihau derbyniadau diangen neu dderbyniadau y gellir eu hosgoi a sicrhau y caiff cleifion eu rhyddhau'n amserol.

Rwyf felly'n llwyr gefnogi'r dull o weithredu a argymhellir yn y Cynllun Cyflawni.  Rhaid canolbwyntio ar wneud gofal critigol yn fwy effeithiol.  Rhaid i'r Byrddau Iechyd Lleol fynd i'r afael â hyn fel mater o flaenoriaeth. Rwyf hefyd yn derbyn na fydd arbedion effeithlonrwydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw ac felly mae angen buddsoddi mwy i gynyddu capasiti gofal critigol. Bydd gwaith i fynd i'r afael â'r materion a amlygir yn cael ei wneud law yn llaw â gwaith pellach i fesur nifer y gwelyau gofal critigol ychwanegol sydd eu hangen yng Nghymru.

Mae cysylltiad clir rhwng y materion a glustnodwyd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal critigol a'r materion yr wyf eisoes wedi tynnu sylw atynt sy'n effeithio ar ofal heb ei drefnu.  Fel y soniais yn fy natganiad llafar i'r Cynulliad ar ofal heb ei drefnu, rwy'n credu bod angen i ni yn y wlad hon gael trafodaeth am y ffordd y gall ein gwasanaethau gofal ddiwallu orau anghenion poblogaeth sy'n heneiddio. Nid yw gofal critigol yn adnodd diderfyn, felly rhaid ei ddefnyddio ar gyfer y rhai sydd ei angen, ar yr adeg y mae arnynt ei angen.  Nid yw gofal critigol yn briodol i bob claf, felly mae'n rhaid i ni helpu cleifion a chlinigwyr i gael trafodaethau agored a gonest am gynyddu triniaeth, priodoldeb gofal critigol a marwolaeth.

Yn olaf, hoffwn gyfeirio at y berthynas rhwng rhoi organau a gwasanaethau gofal critigol, oherwydd y gwaith ar Fil Trawsblannu Dynol (Cymru) hoeliodd y sylw ar y gwasanaethau gofal critigol yn y lle cyntaf.  Mae gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn dangos y daw llwyddiant drwy hoelio sylw ein camau gweithredu ar agweddau ehangach gofal critigol yn hytrach nag ar anghenion penodol rhoi organau.  Gofal critigol yw'r amgylchedd mwyaf priodol er mwyn paratoi i drosglwyddo organau oddi wrth roddwyr organau a rhoi cymorth i deuluoedd rhoddwyr. Gan fod nifer uchel o gleifion mewn unedau gofal critigol mae hynny'n aml yn ei gwneud yn anodd cael gofal critigol a gallai gyfyngu ar ein gallu i dderbyn rhoddwyr posibl.  Dyna oedd barn y grŵp ac rwy'n ei derbyn. Cyngor clir y grŵp oedd bod angen bod yn fwy effeithiol o ran defnyddio gwelyau gofal critigol a mynd i'r afael â chapasiti, ni waeth pa newid a wneir yn y ddeddfwriaeth ar roi organau.  Bydd gwneud hyn yn golygu nad yw gofal critigol yn gymaint o rwystr i roi organau yng Nghymru.

Rwy'n benderfynol o weithredu i fynd i'r afael â'r defnydd aneffeithiol o adnoddau a amlygir yn y cynllun hwn. Rwy'n credu'n gryf y bydd y camau hyn, ynghyd â'r rhai a amlygais eisoes i fynd i'r afael â'r pwysau o ran gofal heb ei drefnu, yn golygu y gallwn ddarparu gwell gwasanaethau gofal critigol i'r rhai hynny sy'n eu defnyddio ac i'r rheini sy'n gweithio o fewn y maes. Bellach, mater i'r Byrddau Iechyd Lleol yw cynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn unol â'r disgwyliadau hyn.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn o bob rhan o Gymru, am ddatblygu'r cynllun.  Megis dechrau rhaglen waith yw'r cynllun hwn, ac nid ei ben draw.  Rwy'n disgwyl y byddaf yn cael argymhellion yn mesur y capasiti gofal critigol ychwanegol sydd ei angen yng Nghymru y flwyddyn nesaf.  Bryd hynny, byddaf yn rhoi adroddiad llawn i chi am yr hyn a gyflawnwyd.