Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hystadegau diweddaraf ar y ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ac maent yn adrodd stori bwerus o gyflawni a phenderfyniad. 

Pan wnaethom osod ein targed o 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn 2026, roeddem yn gwybod ei fod yn uchelgeisiol. Ond roedden ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig oedd. Dyna pam y gwnaethom gefnogi ein hymrwymiad gyda dros £2 biliwn o fuddsoddiad - y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Ac mae data heddiw yn dangos bod buddsoddi yn sicrhau canlyniadau. 

Yn 2024–25, cwblhawyd 3,643 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru - cynnydd o 12% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r cyfanswm uchaf ers dechrau'r cofnodion yn 2007. 

Erbyn mis Mai 2026, rhagwelir y byddwn wedi darparu 18,652 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol – a disgwylir i'r prosiect cyflenwi yr ydym wedi'i sefydlu ddarparu 1,652 o unedau pellach erbyn diwedd 2026, gan ddod â'r cyfanswm i 20,304.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chaffaeliadau ac adnewyddu eiddo gwag hirdymor sydd â rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu tai diogel i’r unigolion a’r teuluoedd sydd eu hangen fwyaf, a rhoi cartrefi iddynt.

Dyma'r cyfnod cryfaf o ddarparu tai cymdeithasol mewn bron i ddau ddegawd, a gyflawnwyd er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf - o'r pandemig a chwyddiant i bwysau ar y gadwyn gyflenwi a achoswyd gan Brexit. 

Mae tai yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon - oherwydd mae Cymru decach, iachach a mwy ffyniannus yn dechrau gartref. 

Hoffwn ddiolch i'n hawdurdodau lleol, cymdeithasau tai, adeiladwyr bach a chanolig a phartneriaid cymunedol y bu i’w hymroddiad a'u cydweithrediad wneud hyn yn bosibl. 

Er mwyn gwella prydlondeb data, mae gwybodaeth reoli a ddarperir gan partneriaid wedi'i chynnwys yn y datganiadau ystadegol a gyhoeddwyd heddiw. Mae'r data hwn yn cefnogi monitro cyflenwi tai sy'n gysylltiedig â rhaglenni a ariennir gan y llywodraeth.

Mae’r datganiad ystadegol ad-hoc sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn ymdrin â'r cyflawni disgwyliedig, yn erbyn yr ymrwymiad, hyd at ddiwedd Tymor y Senedd a thu hwnt.