Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Mawrth cyhoeddais gyllid newydd o dros £1.6m i ddarparu rhagor o gymorth iechyd meddwl a llesiant meddyliol mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf. 

 Gan gydweithio â Chanolfan Anna Freud, elusen iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, bydd y cyllid yn cyflwyno'r rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles, i ddysgwyr ym Mlwyddyn 5 a Blwyddyn 7, gan roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth iddynt am iechyd meddwl, diogelwch a sut i gael gafael ar gymorth.  

I ategu'r gwaith hwnnw, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod cyllid ychwanegol o £550,000 y flwyddyn ar gael dros y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ymarfer sy'n ystyriol o drawma mewn ysgolion.  Mae hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion, ac ar waith y bu'r llywodraeth yn arloesi ynddo rhwng 2017 a 2020 wrth i ni ariannu'r hyfforddiant ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ddarparwyd i dros 600 o ysgolion yng Nghymru.

Mae dulliau sy'n ystyriol o drawma wedi dod i gael ei gwerthfawrogi'n gynyddol fel ffordd o leihau effeithiau negyddol profiadau trawmatig a chefnogi canlyniadau cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol. Maent yn adeiladu ar dystiolaeth a ddatblygwyd dros nifer o ddegawdau ac maent yn fwyfwy pwysig mewn ysgolion wrth feithrin amgylcheddau dysgu diogel a sefydlog. Mae gan y strategaeth hon hefyd fanteision ehangach o ran ymgysylltu, ymddygiad, presenoldeb a chyrhaeddiad. 

Yn ei hanfod, mae'r dull hwn yn ymwneud â meithrin perthynas gadarnhaol sy'n ganolog i'r gwaith yr ydym wedi arloesi ynddo ers 2018 fel rhan o'n dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.  Bydd y cyllid newydd yn cefnogi ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at y gwaith hwn sydd eisoes wedi gweld bron i 97% o'n holl ysgolion yn cymryd camau penodol i gynllunio i ddiwallu anghenion lles cymuned yr ysgol.  Mae hefyd yn cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles  y Cwricwlwm i Gymru i gefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. 

Bydd y cyllid yn cael ei sianelu trwy Dysgu, y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir.  Gweledigaeth Dysgu yw y gall pob addysgwr yng Nghymru gael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel a chefnogaeth i arweinwyr sy'n tanio eu dychymyg ac yn cyfrannu at eu twf proffesiynol a phersonol, gan eu cefnogi i fod ar eu gorau. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ymarfer cynhwysol, gan weithio gyda'r sector ac o fewn y sector i helpu i hyrwyddo iechyd meddwl a lles, gan greu'r amodau ar gyfer canlyniadau gwell, mesuradwy i ddysgwyr.

Rwyf wedi gofyn i Dysgu weithio yn gyflym dros y misoedd nesaf i gaffael gwasanaethau corff sydd â'r sgiliau, y profiad a'r gallu angenrheidiol i ddarparu cynnig dwyieithog a theg ledled Cymru, fel y gall ysgolion a lleoliadau elwa o'r cymorth hwn cyn gynted ag sy'n bosibl yn ymarferol.

Mae buddsoddi yn lles meddyliol ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc yn fuddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y bydd y cyllid newydd hwn, ynghyd â'r cyllid ar gyfer Canolfan Anna Freud a'r dros £13m a ddarparwn i gefnogi ein dull ysgol gyfan, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ac addysg ein plant a'n pobl ifanc.