Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi ffigurau ar berfformiad ysgolion uwchradd unigol yng Nghymru. Roedd y cyhoeddiad hwn wedi’i seilio ar ddata roeddent wedi gofyn amdano ac wedi ei dderbyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

 

Darparodd fy swyddogion yr wybodaeth i’r BBC yn unol â’n dyletswyddau cyfreithiol o dan y Ddeddf. Mae manylion y cais a’n hymateb ninnau ar gofnod datgeliadau Llywodraeth Cymru. 

 

Gwnaethom yn siŵr fod y rheini sy’n gweithio mewn ysgolion, a’r rheini sy’n gweithio gyda hwy, yn gwybod ymlaen llaw bod yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau, cyn iddi ymddangos yn y cyfryngau.

 

Mae’r BBC wedi dewis defnyddio’r data a ryddhawyd iddynt i greu cynghrair wedi’i gorsymleiddio, sy’n rhestru ysgolion yn ôl un dangosydd perfformiad yn unig.

 

Rwy’n dal i fod yn gwbl argyhoeddedig nad oes lle i gynghreiriau wrth wella ysgolion yng Nghymru. Gallant beri cynnen yn ogystal â bod yn gamarweiniol ac nid ydynt, ohonynt eu hunain, yn ysgogi gwelliant. Os mai cynghreiriau yw’r allwedd i ysgolion rhagorol, yna Lloegr fyddai ar frig sgoriau PISA. Ond nid dyna’r sefyllfa – o bell ffordd.

 

Yn fy natganiad ar 2 Chwefror, pwysleisiais bwysigrwydd defnyddio data cadarn i ysgogi gwelliant mewn ysgolion ac yn y system drwyddi draw. Mae mynd ati’n frwd i hunanwerthuso a gosod targedau gan ddefnyddio data ar berfformiad yn allweddol i hyrwyddo gwelliant parhaus. Am y rheswm hwn, rydym wedi darparu set data craidd Cymru gyfan i’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir. Felly, mae ganddynt wybodaeth allweddol am berfformiad yr ysgol mewn fformat cyson, tryloyw a hygyrch.

 

Y Ffindir, lle na cheir unrhyw gynghreiriau ysgolion, yw un o’r gwledydd sy’n perfformio orau mewn nifer o ddangosyddion addysg. Fel y Ffindir, mae angen i ninnau ganolbwyntio ar ddefnyddio data’n effeithiol er mwyn edrych ar berfformiad ysgolion ac ysgolion cymharu - sef ysgolion tebyg o ran demograffeg cymdeithasol - a dysgu o’r data hwnnw.

 

Er mwyn i’r system fod yn fwy atebol, rwy’n gweithio gyda fy swyddogion i gyflwyno system genedlaethol ar gyfer bandio ysgolion. Nid dychwelyd at gynghreiriau ysgol ar sail mesuriadau amrwd o berfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus mo hyn. Bydd y system bandio ysgolion yn caniatáu i ddysgwyr, eu rhieni a’u gofalwyr, gweithwyr addysg proffesiynol, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol ddeall perfformiad ysgolion yn eu cyd-destun.

 

Rwyf wedi sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion, dan arweiniad Dr Brett Pugh, i sbarduno uchelgais yn y sector ac i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae’r uned yn gweithio mewn partneriaeth â’r pedwar consortia o awdurdodau lleol, ynghyd â swyddogion o bob rhan o’m hadran, i gynyddu gallu ysgolion ledled Cymru i wella. Bydd yn manteisio ar arbenigedd pob rhan o’r system ysgolion i sicrhau bod y pwyslais ar gyflawni.

 

Ni ddylem anghofio fod lefelau cyrhaeddiad pobl ifanc Cymru yn codi, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylai ymdrech gan y cyfryngau i ddyfeisio cynghreiriau ysgolion olygu ein bod yn colli golwg ar ein nod ni oll o sicrhau gwelliannau cynaliadwy, hirdymor a fydd yn arwain at addysg o’r radd flaenaf i’n pobl ifanc. Dyna sydd ei angen arnynt, a dyna y maent yn ei haeddu.