Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae heddiw'n nodi carreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn pandemig COVID-19. Dywedwyd bod y broses o gyflwyno brechlyn AstraZeneca, sy'n dechrau yng Nghymru heddiw, yn newid pethau yn llwyr. 

Mewn llai na mis, mae GIG Cymru wedi cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru, ac mae mwy na 35,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o ddydd Sul diwenthaf. Bydd y ffigur hwnnw'n cynyddu'n sylweddol dros yr wythnosau nesaf. Heddiw, bum diwrnod yn unig ers i'r rheoleiddwyr gymeradwyo'r brechlyn newydd i'w ddefnyddio yn y DU, bydd GIG Cymru yn dechrau ei ddefnyddio.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fanteision y brechlyn diweddaraf hwn sydd wedi cael cryn sylw – mae'n rhatach a bydd digon o gyflenwad ohono ond, yn hollbwysig, mae hefyd yn cyflwyno llawer llai o heriau logistaidd na brechlyn Pfizer/BioNTech, gan y gellir ei storio ar dymheredd oergell arferol. Felly, wrth i gapasiti'r GIG barhau i dyfu dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gallu cyflwyno'r brechlyn ble mae ei angen ym mhob rhan o Gymru. Bydd modelau cyflwyno symudol a llawer mwy hyblyg yn cael eu rhoi ar waith. Bydd pob cartref gofal o fewn cyrraedd a bydd y grŵp blaenoriaeth hwn yn ffocws allweddol i'r GIG dros yr wythnosau nesaf, fel y bydd y rhai dros 80 oed. Bydd y brechlyn newydd hefyd yn galluogi ymweliadau cartref â phobl sy'n gaeth i'r gwely, yr henoed a phobl sy'n agored i niwed, gan hwyluso'r gwaith o dargedu grwpiau blaenoriaeth eraill y bu'n anodd eu cyrraedd dros y mis diwethaf.

Ffactor hanfodol arall sy'n dechrau ffurfio rhan o'n cynllun cyflwyno o heddiw ymlaen yw'r broses o roi'r sector gofal sylfaenol ar waith yng Nghymru. Mae manyleb gwasanaethau ar waith sy'n cynnwys y pedwar darparwr gofal sylfaenol. Mae'r fanyleb yn rhoi'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau ar gynyddu’r defnydd o’r sector gofal sylfaenol. Mae gan ddarparwyr gofal sylfaenol y seilwaith a'r arbenigedd i gynnal rhaglenni brechu ar raddfa fawr fel y gwelsom eleni gyda'r rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw estynedig. Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol i'n rhaglen yma yng Nghymru. Mae'r ffaith y bydd llawer o unigolion yn gallu cael eu brechiad mewn meddygfa neu fferyllfa leol yn y dyfodol yn cynyddu ein gallu i gyrraedd y grwpiau blaenoriaeth hynny yn sylweddol.

Datblygiad pellach yw’rcyngor diweddaraf gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio ynghylch y cyfnod rhwng y ddau ddos ar gyfer y ddau frechlyn a gymeradwywyd. Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf am hyn i'r Aelodau yn fy natganiad ar 31 Rhagfyr. Cymeradwywyd cyngor y JCVI gan bob un o'r 4 Prif Swyddog Meddygol ledled y DU. Gyda'r sicrwydd y bydd y dos cyntaf yn amddiffyn pobl yn y byrdymor rwyf wedi cymeradwyo cyfnod o hyd at 12 wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o'r ddau frechlyn sydd ar gael. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddiogelu'r nifer fwyaf o bobl ddiamddiffyn yn yr amser byrraf. Mae GIG Cymru wedi cael cyfarwyddyd i'r perwyl hwn.

Mae'r newid hwn mewn tystiolaeth wyddonol a chyngor meddygol wedi arwain at newid y dull gweithredu ledled y DU. Rydym wedi symud yn gyflym i ymateb i'r wyddoniaeth. 

Yn ymarferol, mae'n golygu na fydd y rhan fwyaf o apwyntiadau ail ddos yn dechrau yng Nghymru'r wythnos hon. Bydd y miloedd lawer o bobl sydd wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn Pfizer/BioNTech yng Nghymru yn dal i gael eu hail ddos, ond ni fyddant yn ei gael mor gyflym ag y disgwyliwyd yn wreiddiol. Rwy'n gwerthfawrogi y gall hyn beri pryder i rai, ond hoffwn roi tawelwch meddwl i bobl y byddant yn cael eu cwrs llawn o'r brechlyn ac y bydd y dos cyntaf yn eu hamddiffyn yn y cyfamser.  Hefyd, yn hollbwysig, gobeithiaf y bydd pobl yn cael cysur o'r ffaith y bydd yr ail ddos a drefnwyd yn wreiddiol iddynt yn amddiffyn person arall sy'n wynebu risg o ddal y clefyd a mynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i hynny.  Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn achub mwy o fywydau a diogelu'r GIG.

Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur dros y mis diwethaf fod y GIG yng Nghymru yn barod i gyflwyno brechlyn. Mae cynlluniau ar gyfer dosbarthu brechlyn AstraZeneca wedi cael eu gwneud a bellach yn cael eu rhoi ar waith. Bydd y cynlluniau hyn yn dechrau cael eu cynnal ochr yn ochr â'r trefniadau presennol ar gyfer brechlyn Pfizer/BioNTech yr ydym yn parhau i gael cyflenwadau ar ei gyfer.

Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd angen amser arnom i ddatblygu capasiti. Fel y dywedais yn fy natganiad ar 31 Rhagfyr, rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau, yn enwedig wrth inni gyflwyno rôl i'r sector gofal sylfaenol, ond mae datblygiadau'n cyflymu. Dros yr ychydig wythnosau nesaf bydd nifer ein canolfannau brechu yn cynyddu i 22, bydd mwy na 60 o feddygfeydd yn ymuno â'r rhaglen a bydd unedau symudol yn cael eu sefydlu yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru. Rydym hefyd yn disgwyl gweld nifer y dosau o'r brechlyn a roddir i fyrddau iechyd yn cynyddu bob wythnos. O ganlyniad i'r gwaith hwn o ddarparu'r rhaglen frechu ar lefel ehangach, bydd pethau'n cyflymu gryn dipyn ac, yn hollbwysig, bydd mwy o'n pobl fwyaf agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag y clefyd ofnadwy hwn.

Nid yw categorïau blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio wedi newid yn sgil cyflwyno brechlyn AstraZeneca. Bydd y bobl fwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu blaenoriaethu a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar atal marwolaethau a diogelu ein GIG i mwyn iddo allu parhau i ddarparu ei wasanaethau hanfodol. 

Rwy'n ymwybodol o'r diddordeb penodol mewn blaenoriaethu gweithwyr allweddol y tu hwnt i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.  Nid yw'r safbwynt ynghylch gweithwyr allweddol wedi newid. Bydd y rhai dros 50 oed neu sydd â chyflyrau iechyd penodol yn cael eu cynnwys yn ystod cam cyntaf y rhaglen frechu, yn unol â threfn flaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio. Pe bai grwpiau mawr o weithwyr yn cael blaenoriaeth yn gynharach, byddai'n dibrisio grwpiau eraill o bobl sy'n fwy agored i niwed. Bydd y rhai dan 50 oed yn cael eu brechiad fel rhan o ail gam y rhaglen maes o law. Mae cyfraniad gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Rwy'n falch bod y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio yn adolygu'r drefn flaenoriaeth ar gyfer brechu yn gyson, yn enwedig wrth gynllunio'r cam nesaf o gohortau.

Bydd pobl yn parhau i gael apwyntiadau gyda manylion am y lleoliad ble byddant yn cael y brechiad, yn dibynnu ar eu safle ar restr y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio. Bydd gwahoddiadau'n cael eu llunio'n awtomatig ac yn cael eu hanfon at unigolion pan fydd yn bryd iddynt gael eu brechiad. Nid oes angen i bobl wneud cais am apwyntiad a gofynnwn i bobl osgoi cysylltu â meddygfeydd, byrddau iechyd ac ysbytai yn y cyfamser.

Dywedais ar ddechrau'r rhaglen gyflwyno ar 8 Rhagfyr y gallem ddechrau bod yn optimistaidd, ond nodais fod angen bod yn bwyllog gan fod taith hir ac anodd o'n blaenau o hyd. Mae'r sefyllfa o ran derbyniadau i'r ysbyty wedi gwaethygu ers hynny. Mae gostyngiadau cynnar mewn trosglwyddo cymunedol mewn rhannau o Gymru yn newyddion calonogol ond gall derbyniadau barhau i gynyddu cyn gwella. Bydd aelodau'n gyfarwydd â'r ffaith bod bwlch rhwng haint a mynd i'r ysbyty.Fodd bynnag, mae heddiw'n nodi cam pwysig i gryfhau ein hymateb i'r clefyd. Bydd ein GIG yn chwarae ei ran a rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan ni i gadw ein gilydd yn ddiogel ac i gadw Cymru'n ddiogel.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.