Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Medi 2023, fe wnaethom gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru.

Roedd y nod yn glir: lleihau cyflymder cerbydau a lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd. Bydd cyflymderau is, yn eu tro, yn creu cymunedau mwy diogel a gwell i fyw, gweithio a byw ein bywydau.

Mae’r data cyflymder cenedlaethol rhagarweiniol, a gyhoeddwyd heddiw (20 Chwefror 2024) yn galonogol. Mae’n dangos bod cyflymderau cymedrig pwysol ar sampl o brif ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru wedi gostwng 4mya ar gyfartaledd dros y tri mis ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn.

Dyma'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl. Mae’n unol â data blaenorol ac adroddiadau anecdotaidd am ymddygiad gyrwyr ers i’r terfyn cyflymder newid. Ac fel y dywedodd adroddiad y Grŵp Tasglu yn 2020:

“Mae tystiolaeth lethol bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac anafiadau llai difrifol; a thystiolaeth gyson bod gostyngiad yn nifer yr anafusion pan gyflwynir terfynau o 20mya. Dylid nodi bod y manteision hyn yn cael eu cyflawni hyd yn oed pan nad yw’r cyflymderau cyfartalog yn gostwng i 20mya - bydd unrhyw leihad mewn cyflymder yn arwain at ganlyniad cadarnhaol. Disgwylir i ostyngiadau cyflymder gynyddu dros amser wrth i bobl ddod i arfer â’r terfynau is gan normaleiddio gyrru arafach yn sgil hynny”

Roedd y monitro, a gyflawnwyd gan Trafnidiaeth Cymru, yn cynnwys naw math gwahanol o gymunedau ledled Cymru.

Roedd y cyflymderau cymedrig pwysol (hynny yw, y cyflymderau cyfartalog pan fydd gwahaniaethau o ran maint y traffig yn cael eu hystyried) brif ffyrdd yn 28.9mya cyn y terfyn cyflymder diofyn newydd, o gymharu â 24.8mya ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth. Felly, mae mwy o bobl yng Nghymru nawr yn gyrru ar gyflymder mwy diogel.

Mae adborth o Ymgyrch Ugain, yr ymgyrch ymgysylltu â modurwyr dan arweiniad yr heddlu, a gyhoeddwyd y mis hwn hefyd, yn dangos bod y rhan fwyaf o gerbydau’n gyrru o dan y trothwy gorfodi presennol.

Fel rhan o'r ymgyrch, ymgysylltwyd â 270 o yrwyr yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Dim ond dau yrrwr allan o 10,000 a gafodd eu monitro a gafodd eu herlyn – sy’n dangos ein bod yn cymryd ymagwedd a arweinir gan ymgysylltu at weithredu’r newid mawr hwn.

Rydym hefyd yn cyhoeddi’r adroddiad monitro terfynol o’r ardaloedd cyntaf a roddodd 20mya ar waith, cyn ei gyflwyno’n genedlaethol. Mae’r data hwn yn dangos bod 65% o’r cerbydau a gafodd eu monitro yn teithio 24mya neu lai, o gymharu â 50% cyn cyflwyno 20mya. Gostyngodd y rhai a oedd yn teithio ar y cyflymderau uchaf hefyd 3mya ar gyfartaledd.

Mae hyn yn dystiolaeth galonogol y byddwn, dros amser, yn gweld y newid ymddygiad ehangach y mae’r polisi 20mya diofyn yn ceisio’i gyflawni – cyflymderau arafach mewn ardaloedd lle mae pobl a cherbydau’n cymysgu, i gadw pawb yn ddiogel.

O ganlyniad, gallwn ddisgwyl llai o wrthdrawiadau, llai o farwolaethau a llai o anafiadau difrifol. Lleihau niwed a lleihau'r effaith ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau brys eraill.

Mae tystiolaeth ryngwladol o gysylltiadau cryf rhwng gostwng cyflymder a lleihau nifer y gwrthdrawiadau a phobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu o’u herwydd. Er enghraifft, mae ymchwil a wnaed gan y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (Transport Research Laboratory) yn 2000 yn dangos, ar gyfer ffyrdd trefol â chyflymder cyfartalog isel, fod gostyngiad cyfartalog o 6% mewn gwrthdrawiadau gyda phob gostyngiad o 1mya mewn cyflymder cyfartalog.

Mae cerddwyr tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd wrth gael eu taro gan gerbyd yn teithio ar gyflymder o 30mya na cherbyd yn teithio ar gyflymder o 20mya.

Yn y pellter y mae'n ei gymryd i gar sy'n teithio 20mya stopio, byddai car sy'n teithio 30mya yn dal i symud ar 24mya. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran osgoi gwrthdrawiadau.

Mae pobl wedi dweud wrthym fod cyflymder cerbydau hefyd yn un o'r prif resymau pam nad ydynt yn cerdded nac yn beicio mwy neu'n gadael i'w plant wneud hynny. Gall gostwng cyflymder yn ein cymunedau adeiledig felly gyfrannu at amgylcheddau gwell a mwy diogel ar gyfer teithio llesol, sydd yn ei dro â manteision sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Rydym yn cydnabod bod symud i 20mya diofyn mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn newid sylweddol. Rydym yn asesu’r effaith yn barhaus.

Rydym wedi dweud yn gyson, er gwaethaf ymdrechion gorau ein hawdurdodau priffyrdd gweithgar, bod maint yr her o ran cyflawni’r newid hwn yn golygu na fyddem yn cael y terfyn cyflymder ar bob un ffordd gyfyngedig yng Nghymru yn iawn y tro cyntaf.

Dylai pobl sy'n teimlo bod 20mya wedi'i osod yn anghywir i ffordd benodol roi gwybod i'w cyngor lleol neu awdurdod priffyrdd.

Ymddengys y bu rhai anghysondebau yn y ffyrdd y mae awdurdodau priffyrdd wedi  cymhwyso ein canllawiau i wneud eithriadau - hynny yw, newid y terfyn cyflymder ar rai ffyrdd o'r 20mya diofyn yn ôl i 30mya.

Penodwyd tîm o arbenigwyr i adolygu sut mae’r canllawiau ar wneud eithriadau wedi’u cymhwyso ac i awgrymu ffyrdd y gallem helpu awdurdodau priffyrdd i wneud newidiadau.

Heddiw, mae'r tîm wedi cyhoeddi eu canfyddiadau cynnar a'u hargymhellion cychwynnol.

Mae argymhellion allweddol yn cynnwys: ehangu ac egluro'r canllawiau eithriadau i helpu Awdurdodau Priffyrdd i ystyried y cyd-destun lleol yn llawnach ac i ddarparu cyd-destun ehangach o ganllawiau ar bob terfyn cyflymder mewn aneddiadau, nid y rhai sy'n destun y terfyn diofyn.

Mae'r Tîm Adolygu hefyd yn awgrymu y dylid datblygu hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau priffyrdd i'w cynorthwyo i ddehongli a chymhwyso'r canllawiau; ac y dylid ceisio cyngor cyfreithiol ar atebolrwydd posibl awdurdodau priffyrdd wrth wneud eithriadau i'r terfyn diofyn 20mya.

Bydd y Tîm Adolygu nesaf yn casglu ystod eang o safbwyntiau ar y Canllawiau Eithriadau gan Awdurdodau Priffyrdd, grwpiau rhanddeiliaid a chyrff cynrychioliadol.