Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf eisoes wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y rhaglen waith a fydd yn symud yn ei blaen o dan Gynllun y Bathodyn Glas, yn unol ag argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol y Bathodyn Glas a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.  

Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun yng Nghymru, nododd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen anghysondebau yn y ffordd y caiff y cynllun ei weinyddu, ac yn y dulliau asesu a gorfodi. Ar ôl edrych yn fanwl ar y gwahaniaethau, daethpwyd i'r casgliad bod y 22 o awdurdodau yn cyflwyno'r cynllun yn wahanol a bod hyn yn arwain at "loteri cod post". Nid yw hynny’n fuddiol i unrhyw un.

Byddwch yn ymwybodol ar ôl gweld ddiweddariadau blaenorol fod llawer o argymhellion y Tasglu wedi'u cyflawni. Yn sgil hyn, rydym wedi sicrhau y bydd y rheini sydd â nam symudedd dros dro sy'n para o leiaf blwyddyn yn gymwys i gael Bathodyn Glas. Bydd hyn yn ei wneud yn haws iddynt ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, ac yn eu helpu i wella ac i barhau i fyw yn annibynnol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ogystal ag estyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys pobl sydd â namau gwybyddol, mae Cymru bellach ar flaen y gad yn hynny o beth ac mae ein dulliau yn cael eu hystyried gan weinyddiaethau eraill y DU.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion llywodraeth leol i ddod o hyd i ffyrdd o helpu staff awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau ac i gyflwyno cynllun teg a chadarn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau prydlon ar geisiadau am fathodynnau glas, yn ogystal â sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ac yn parhau. Gan weithio gyda'i gilydd, maent wedi cynnal adolygiad cyfnodol o achosion ar draws Cymru sydd wedi dangos, er bod y pecyn cymorth yn gweithio'n dda gan amlaf, bod dal lle i’w wella. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae'r pecyn cymorth dilysu a baratowyd gennym i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wedi'i wella. Mae hynny’n sicrhau nad yw ymgeiswyr, sydd wedi dewis peidio â derbyn budd-daliadau neu gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol a fyddai fel arall yn rhoi rhwydd hynt iddynt gael bathodyn glas, o dan anfantais wrth ymgeisio am fathodyn o dan y Cynllun.

Rwyf wedi bod yn glir nad yw’n briodol defnyddio meddygon teulu i asesu ymgeiswyr am Fathodyn Glas. Mae meddygon teulu yn ymarferwyr arbenigol sy'n cynghori ar ddiagnosis a thriniaethau. Yn gyffredinol, nid ydynt yn arbenigo yn yr effaith y mae cyflwr yn ei chael ar symudedd rhywun, ac mae penderfynu a ddylid dyfarnu Bathodyn Glas yn seiliedig ar hynny. Mae gofyn i feddygon teulu fod yn gyfrifol am hyn hefyd yn ddefnydd gwael o’u sgiliau a’u harbenigedd. Gyda chymorth Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, rydym felly wedi newid y pecyn cymorth i dynnu meddygon teulu oddi ar y broses asesu. Bydd hyn yn ysgafnhau'r baich sydd ar feddygon teulu, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar ofalu am gleifion. Hefyd, ni fydd yn rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn cael bathodyn glas yn uniongyrchol wario arian na threulio amser ar gael adroddiad gan feddyg teulu a oedd yn angenrheidiol o dan y cynllun blaenorol. Mae hwn yn fesur allweddol sy'n gwneud y system yn decach i bob ymgeisydd.

Mae'r pecyn cymorth wedi'i dreialu a'i brofi ar y cyd ag awdurdodau lleol i sicrhau ei fod yn gadarn ac yn ymarferol. Mae hefyd yn cynnwys trothwy is ar gyfer atgyfeirio achosion i'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol fel bod therapyddion galwedigaethol cymwys yn gallu cynnal asesiadau annibynnol ohonynt. Caiff y pecyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd awdurdodau lleol yn gallu ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn golygu y byddwn yn dibynnu'n llai ar feddygon teulu, y bydd pobl yn cael gwasanaeth gwell a mwy cyson, ac amcangyfrifir bod y trefniadau mwy cadarn wedi arbed £600,000 y flwyddyn i'r pwrs cyhoeddus.

Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol hefyd i’w galluogi i wella profiadau  cwsmeriaid, arbed arian ac amser, ac i wneud penderfyniadau gwell drwy Wasanaeth Gwella y Bathodyn Glas. Bydd hyn yn darparu gwasanaeth a fydd yn hoelio mwy o sylw ar gwsmeriaid, gan sicrhau, er enghraifft, bod y prosesau adnewyddu yn gymesur ac na fydd ailasesiad llawn yn ofynnol pan fo achos yr ymgeisydd eisoes wedi'i asesu'n drylwyr.

Hyd yn hyn, mae'r rhaglen waith wedi canolbwyntio ar gyflawni argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sy'n gysylltiedig â gwneud y cynllun yn fwy teg a chadarn, a sicrhau ei fod yn hoelio mwy o sylw ar gwsmeriaid. Hoffwn ddiolch i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am ei gyfraniad, a'i ddiwydrwydd wrth oruchwylio'r ffordd y cyflawnwyd yr argymhellion. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl unigolion a'r grwpiau sydd wedi cefnogi'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy ddarparu tystiolaeth a gweithio gyda'r Grŵp i gyflawni newid.

Gan fod y rhaglen waith yn mynd rhagddi cystal, rwy'n derbyn cyngor y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'i gadeirydd i ddiddymu'r Grŵp cyn symud ymlaen at gam dau. Diolchaf i'r Grŵp am ei gynnig i barhau i ddarparu cymorth wrth inni weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i fynd i'r afael ag achosion o gamddefnyddio a thwyll.

Rydym yn canolbwyntio bellach ar sut y caiff y bathodynnau eu defnyddio er mwyn lleihau'r achosion o gamddefnyddio a thwyll. Rydym eisoes wedi hwyluso gweithdai ledled Cymru ar gyfer timau twyll a thimau gorfodi parcio awdurdodau lleol, gan ddefnyddio arferion gorau a ddaeth i’r amlwg mewn mannau eraill o'r DU. Rydym hefyd yn edrych yn fwy eang ar barcio ar gyfer pobl anabl ac yn ystyried a oes modd diwygio'r rheoliadau i ddarparu gwell hygyrchedd.  

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gynorthwyo gyda'r gwaith hwn. Mae'n hollbwysig oherwydd effaith gadarnhaol Cynllun y Bathodyn Glas ar allu'r rheini sy'n wynebu'r rhwystrau anoddaf yn ein cymdeithas i fyw'n annibynnol. Byddaf yn parhau i gyflwyno mesurau i sicrhau mynediad i bawb. Mae'r Grŵp Trafnidiaeth Hygyrch yn gweithio i adeiladu ar y gwaith da a wnaed yma i lywio dyfodol y sector trafnidiaeth. Rwy'n ymddiried yn yr Aelodau i barhau i gefnogi'r gwaith hwn, gan wneud ein cymdeithas yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.