Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y tân yn nho Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 26 Ebrill, cytunais i roi’r diweddaraf i’r aelodau pan fyddai unrhyw wybodaeth newydd ar gael. Hoffwn ddechrau trwy bwysleisio unwaith yn rhagor werthfawrogiad Llywodraeth Cymru o broffesiynoldeb ac ymrwymiad staff y Llyfrgell, a hefyd yr holl unigolion a sefydliadau sy’n parhau i gydweithio i gynnal rôl hanfodol y Llyfrgell i ddiogelu treftadaeth gyfoethog ein cenedl. Ailgydiwyd yn y gwasanaethau arferol i’r cyhoedd a’r gwaith mewnol arferol ar 30 Ebrill ac mae’r sefyllfa yma wedi cael ei chynnal.  Ymwelais â’r Llyfrgell ar 2 Mai a gwelais â’m llygaid fy hun y gwaith aruthrol a gwblhawyd mewn amser byr iawn.

I gychwyn, mae’r to wedi cael ei drwsio dros dro er mwyn sicrhau nad yw’n gollwng dŵr. Mae’r gwaith i asesu maint y difrod yn parhau, gan gynnwys y perygl y gallai llwydni effeithio ar yr adeiladwaith ac ar gasgliadau’r Llyfrgell. Mae tua 70 o staff y Llyfrgell wedi cael eu hadleoli tra bo’r gwaith adfer yn parhau.

Mae Harwell, cwmni sy’n arbenigo mewn adfer dogfennau, yn dal i gydweithio â staff cadwraeth y Llyfrgell i adfer y deunydd y bydd modd ei gadw. Mae cyfanswm o 140 o gratiau bach, 5 drôr o fapiau a 4 blwch o ddeunydd wedi eu hanfon yn allanol ar gyfer cynnal gwaith cadwraeth arnynt. Mae cyfanswm tebyg yn cael ei adfer gan gadwraethwyr y Llyfrgell. Erbyn hyn, mae’r Llyfrgell wedi darparu rhestr i mi o’r eitemau a gollwyd yn y tân ac mae’r Llyfrgell yn cyhoeddi’r rhestr heddiw [4 Mehefin].

(http://www.llgc.org.uk/index.php?id=1514&no_cache=1&L=1&tx_ttnews[tt_news]=5386&cHash=ddcd8de062d9963587919ee9d68155ad

Yn ogystal, nid oes modd adfer peth o’r offer TGCh yn un o’r ystafelloedd lle lleolir y gweinyddwyr, er mae 75% o’r eitemau wedi’u hachub.

Mae’r Llyfrgell wedi derbyn adroddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n nodi mai achos tebygol y tân oedd taniad damweiniol o goed a leolir dan haen allanol y to gan fflam o ffagl nwy propan. Mae’r Llyfrgell yn dal i drafod yr amgylchiadau a arweiniodd at y tân, a’r sefyllfa o ran yswiriant, gyda’i ymgynghorwyr cyfreithiol.

Wrth i asesiad manylach o goblygiadau ariannol y tân fynd yn ei flaen, mae’r gwaith brys yn cael ei ariannu o gyllideb cyfalaf cyfredol y Llyfrgell.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan ei ymrwymiad i gefnogi’r Llyfrgell trwy’r argyfwng hwn ac mae fy swyddogion yn CyMAL yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â staff y Llyfrgell yn ystod y cyfnod anodd hwn.