Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mai 2012, cyhoeddais fy mod wedi sefydlu Gweithgor i ystyried a allai swyddogaethau craidd y Comisiwn Brenhinol gael eu huno gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw.

Gofynnais am yr adolygiad oherwydd fy mod yn pryderu am gadernid y sector amgylchedd hanesyddol o ystyried y pwysau ariannol ddigynsail fydd yn wynebu'r sector dros y blynyddoedd nesaf. Yr wyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym ni sector sydd wedi ei strwythuro i wneud cyfraniad cydlynol a chynaliadwy i gyflwyno Rhaglen y Llywodraeth ac fy Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r ddeddfwriaeth dreftadaeth cyntaf erioed i gael ei hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd y Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Comisiwn Brenhinol a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur. Maent wedi cael y cyfle i ystyried y materion ymarferol sy'n amgylchynu cyflawniad effeithiol o swyddogaethau statudol yn y sector yng Nghymru yn ogystal â phwyntiau a godwyd gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a phartïon eraill sydd â diddordeb, yn ystod y gwaith o ddatblygu adroddiad i mi ei ystyried.

Mae'r Gweithgor wedi dod i'r casgliad bod achos dros newid ac mae tri opsiwn wedi bod yn destun craffu rhagarweiniol. Mae rhain yn amrywio o ran maint o ailgyfansoddi'r Comisiwn fel corff modern hyd braich; uno swyddogaethau’r Comisiwn Brenhinol gyda rhai Cadw o fewn Llywodraeth Cymru, ac uno swyddogaethau'r  Comisiwn gyda rhai Cadw mewn corff hyd braich tu allan i Lywodraeth.

Wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus rwyf wedi dod i’r cagliad nad yw’r sefyllfa bresennol yn ymarferol

Er mwyn i mi ddod i farn derfynol ar fodel sefydliadol y dyfodol ar gyfer swyddogaethau'r Comisiwn, yr wyf wedi gofyn am achos busnes llawn i gael ei ddatblygu ar gyfer uno swyddogaethau'r Comisiwn gyda Cadw o fewn Llywodraeth Cymru. Defnyddir yr opsiwn o ailgyfansoddi’r Comisiwn fel corff modern hyd braich  fel cymharydd costau yn yr ymarfer hwn. Yr wyf wedi gofyn am gyngor cynnar ar yr achos busnes ym mis Mawrth.

Bum mewn cyfarfod yn ddiweddar gyda Cadeirydd y Comisiwn i esbonio fy ymateb i adroddiad y Gweithgor ac i bwysleisio y pwysigrwydd yr wyf yn rhoi i swyddogaethau'r Comisiwn. Mae'r Comisiwn wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'r sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ac rwyf am sicrhau y gallwn adeiladu ar hyn yn ystod cam nesaf y broses. Yr wyf yn croesawu ymrwymiad y Comisiwn i barhau i weithio gyda ni i sicrhau bod y sector amgylchedd hanesyddol yn cael ei ffurfweddu’n briodol ar gyfer cyflawni fy mlaenoriaethau.

Yr wyf yn ymwybodol iawn y bydd y posibilrwydd o newid sefydliadol mawr yn gythryblus i staff y ddau sefydliad dan sylw. Byddaf yn sicrhau bod staff yn parhau i gael cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan yn y broses hon, tra hefyd yn ymgysylltu â'r undebau llafur perthnasol fel mae’r Gweithgor wedi ei wneud hyd yma. Bydd y broses hon yn cefnogi fy nod i ddiogelu gwasanaethau a swyddi. Ailadroddaf fy ymrwymiad y dylai swyddi sy'n gysylltiedig â darparu swyddogaethau'r Comisiwn ar hyn o bryd aros yn Aberystwyth.

Byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar sut i symud ymlaen unwaith y byddaf wedi derbyn ac ystyried yr achos busnes a gomisiynwyd gennyf yn awr.