Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru gyda gwariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd dros £5 biliwn y flwyddyn yn 2019.

Mae’r pandemig wedi cael effaith na welwyd ei thebyg o’r blaen ar y diwydiant twristiaeth ac ar draws cymdeithas. Rydym wedi gweld bod awydd cryf yn y DU i ymweld â Chymru ac i archwilio’r hyn sy’n gwneud Cymru yn unigryw, ein tirweddau prydferth a’n treftadaeth cyfoethog. Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn parhau i fwynhau’r hyn rydym yn ei gynnig – heddiw ac yn y dyfodol.

Fel yr amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, rydym yn ymrwymedig i ymgynghori ar bwerau deddfwriaethol, a’u cyflwyno, i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ar dwristiaeth. Caiff y gwaith hwn ei wneud mewn cydweithrediad â Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r datganiad hwn yn nodi diben a chwmpas y pwerau arfaethedig i godi ardoll.

Diben yr ardoll hon yw codi refeniw i awdurdodau lleol, i'w galluogi i reoli a buddsoddi yn y gwasanaethau a'r seilwaith sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.

Mae ardollau ymwelwyr yn nodwedd gyffredin a ddefnyddir ar draws cyrchfannau twristiaeth yn rhyngwladol. Maent yn gyfle i ymwelwyr fuddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau lleol sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant. Heb ardoll o’r fath, mae cymunedau lleol yn wynebu baich gormodol i ariannu gwasanaethau a darpariaethau lleol y mae twristiaid yn dibynnu arnynt. O gadw'r traethau a'r palmentydd yn lân, i gynnal parciau, toiledau a llwybrau troed lleol, dylai'r seilwaith hanfodol sy'n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy'n dibynnu arno.

Bydd cyflwyno a defnyddio ardoll o’r fath yn sicrhau bod cyrchfannau yng Nghymru yn cael eu mwynhau am genedlaethau i ddod ac yn annog dull mwy cynaliadwy o ymdrin â thwristiaeth. 

Byddai'r ardoll yn gymesur yn ôl ei dyluniad, a bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r pwerau i godi'r ardoll yn ôl eu disgresiwn. Mae hyn yn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn lleol yn ôl anghenion ein cymunedau. Bydd yr ardoll yn berthnasol i'r rhai sy'n talu i aros dros nos o fewn ardal awdurdod lleol. Fel rhan o'r ymgynghoriad ar yr ardoll, bydd cyfleoedd yn cael eu cynnig ar gyfer cyfraniadau ehangach o ran effaith cost mathau eraill o weithgareddau i ymwelwyr ar seilwaith lleol.

Rwyf yn ymwybodol bod rhai pryderon ynghylch yr effeithiau economaidd posibl. Yn fyd-eang, defnyddir ardollau twristiaeth fel mater o drefn, a phrin yw’r dystiolaeth i awgrymu eu bod yn cael effaith negyddol ar yr economi. Fodd bynnag, rydym yn cynnal ein hymchwil a'n dadansoddiad ein hunain i sicrhau bod y dyluniad yn addas ar gyfer ein cymunedau, ein hawdurdodau a’n busnesau lleol yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gyd-greu polisi drwy drafod gyda’n partneriaid a'r rhai y byddai ardoll ymwelwyr yn effeithio arnynt.

Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer ardoll  dwristiaeth yn cael ei lansio yn hydref 2022 a bydd yn rhoi llwyfan i amrywiaeth o safbwyntiau gael eu hystyried, gyda deddfwriaeth i ddilyn maes o law.