Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwaith ieuenctid yn rhan hanfodol o'n system addysg, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc, galluogi eu datblygiad a'i gyfoethogi, a'u helpu i gyflawni eu potensial. Roedd adroddiad terfynol Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Llywodraeth Cymru yn nodi cyfres o argymhellion gyda'r bwriad o greu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Gofynnais i'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid gynghori ar ddatblygu'r gyfres uchelgeisiol hon o argymhellion, ac rwy'n ddiolchgar am eu harbenigedd a'u hymroddiad i'r gwaith hwnnw dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch hefyd i bawb ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn hyd yn hyn.

Heddiw, rwy'n nodi crynodeb o'r cynnydd hyd yma ac yn rhoi trosolwg o gamau gweithredu allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Y diweddaraf am y cynnydd hyd yn hyn

Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud o ran datblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro. Yr un yw fy mlaenoriaethau o hyd - cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid ac edrych ar sut y gallai corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru helpu i ddatblygu darpariaeth, codi proffil y sector a'i effaith gadarnhaol, a meithrin cysylltiadau cryfach â sectorau a phartneriaid eraill.

Mae cam cyntaf adolygiad annibynnol o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi'i gwblhau, gan ein helpu i ddeall digonolrwydd, tryloywder, atebolrwydd ac effeithiolrwydd cyllid a gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid yn well. Disgwylir i'r gwaith hwn, sydd bellach yn cael ei ehangu i dynnu tystiolaeth o bob rhan o Gymru, gael ei gwblhau yn 2024, a bydd yn anelu at fesur manteision gwaith ieuenctid o ran ei effaith ar bobl ifanc a'r gymdeithas ehangach.

Fel rhan o'r camau gweithredu i gefnogi arfer gorau ac arloesedd ar draws y sector, mae Estyn yn datblygu fframwaith cefnogol a phwrpasol ar gyfer arolygu gwaith ieuenctid annibynnol.

Mae strwythurau datblygu gweithlu cryfach ar waith, gyda'r nod o dreialu ystod o ddulliau o gefnogi recriwtio, cadw a hyfforddi staff a darparu cyfleoedd ychwanegol i gefnogi'r gweithlu presennol ac yn y dyfodol.

Rydym wedi cryfhau deddfwriaeth sy'n ymwneud â chofrestru'r gweithlu i fynd i'r afael ag anghysondebau yn y gofynion blaenorol a parhau i broffesiynoli'r gweithlu gwaith ieuenctid. Daeth y trefniadau ar eu newydd wedd i rym ym mis Mai 2023. Bellach mae'n ofynnol i bob gweithiwr ieuenctid cymwysedig a gweithiwr cymorth ieuenctid cyflogedig, waeth beth fo'u lleoliad, gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Camau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod

Mae gwaith ieuenctid yn fethodoleg gydnabyddedig ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc, gyda fframwaith moesegol a deddfwriaethol diffiniedig. Fodd bynnag, daeth y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i'r casgliad bod y sail ddeddfwriaethol bresennol yn wan ac yn agored i'w dehongli. Mewn ymateb i'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddeddfu ynghylch fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru, byddwn yn defnyddio ein swyddogaethau deddfwriaethol dirprwyedig i gyflwyno cyfarwyddydau a chanllawiau statudol diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill sy'n sicrhau neu'n darparu gwasanaethau ieuenctid. Bydd y gwaith o ymgysylltu â'r sector a phartneriaid eraill ynghylch hyn yn cychwyn yn fuan.

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cylch gwaith cychwynnol y corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan edrych ar rôl corff o'r fath, a pha swyddogaethau, cyllid a phwerau y gallai fod eu hangen i helpu i lywio cyfnod cwmpasu’r gwaith hwn.

Byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau gwaith ieuenctid ar hyn o bryd, yn ogystal â'r rhai nad ydynt, i nodi rhwystrau a allai fodoli wrth gael mynediad at wasanaethau gwaith ieuenctid a deall eu barn yn well ar sut y dylid cynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.

Byddwn yn adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth ynghylch cyfranogiad pobl ifanc a'r strwythurau presennol ar gyfer llywodraethu gwaith ieuenctid, ynghyd â lefel y ddarpariaeth a gynigir ar hyn o bryd drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn casglu tystiolaeth ar y cyllid sydd ar gael i sefydliadau ar draws y sector ar gyfer cefnogi hyfforddiant a datblygiad yr rhai sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid.

Byddwn yn datblygu amlinelliad o sut y gallai cynllun hawliau person ifanc a chyfnewid gwybodaeth ieuenctid weithio yng Nghymru. Byddai'r rhain yn ddatblygiadau tymor hir ond bydd angen eu hystyried yn ofalus o fewn yr heriau presennol sy'n ein hwynebu.

Fel y nodwyd yn fy natganiad yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol y Bwrdd Dros Dro, mae gwaith ieuenctid yn wasanaeth pwysig yn strategol, sy'n berthnasol i sawl maes. Rwy'n awyddus i sicrhau bod y dull partneriaeth a fabwysiadwyd hyd yma yn parhau i fod yn elfen allweddol o gyflawni'r camau gweithredu hyn, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Byddwn yn parhau i sicrhau cydweithio agos rhwng pobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a phartneriaid eraill wrth i ni symud ymlaen i gyflawni ar gyfer pobl ifanc Cymru.