Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon and Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 25 Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Dai Smith ei adroddiad annibynnol ar yr Adolygiad o’r Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru,  a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ar 14 Mawrth 2014, cyhoeddwyd ein hymateb interim a oedd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r 12 argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad, ac y byddem yn datblygu cynllun gweithredu manwl, sef Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Creadigol.  Mae’r datganiad hwn yn sôn am hynt y gwaith hwn hyd yma, ynghyd â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r Cynllun Cenedlaethol a’r cyllid a fydd ar gael i’w weithredu.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cytuno i roi £10m o’i gyllid Loteri dros y 5 mlynedd nesaf, er mwyn helpu i roi’r Cynllun Cenedlaethol ar waith, ac mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid cyfatebol i’r cyllid a roddir gan y Cyngor. Gan ddechrau yn 2015-16, byddwn yn buddsoddi £10m dros gyfnod o 5 mlynedd, drwy neilltuo £2m ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn ceisio ychwanegu at y cyllid hwn o ffynonellau eraill, er enghraifft o gronfeydd Ewropeaidd.

Parhau i gael eu datblygu y mae manylion y cynllun a rhaglen y camau gweithredu a gymerir i roi sylw i bob un o’r 12 argymhelliad, ac wrth wneud hynny, rydym yn ymgynghori’n barhaus â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector addysg. Er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau mewn perthynas â’n tair blaenoriaeth addysgol, rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, sef:

  • Comisiynwyd adnodd ar-lein i helpu athrawon ac ymarferwyr y celfyddydau i wella deilliannau mewn llythrennedd a rhifedd.
  • Rhoddwyd cyllid i Amgueddfa Cymru er mwyn iddi gynhyrchu adnodd ar gyfer sefydliadau ym myd y celfyddydau a threftadaeth i’w helpu i ‘leihau’r bwlch’. Mae hwnnw bellach ar gael i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus. 
  • Comisiynwyd astudiaethau achos ar y 3 blaenoriaeth ar gyfer Dysgu Cymru.
  • Gofynnwyd i Estyn gynnal adolygiad o’r arferion gorau a defnyddir mewn perthynas â’r celfyddydau mewn ysgolion yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4. Bydd rhan gyntaf yr adolygiad hwn, a gyhoeddir yn 2015, yn edrych ar yr arferion da a ddefnyddir wrth addysgu a dysgu’r celfyddydau creadigol mewn ysgolion cynradd. Lle bo hynny’n briodol, bydd yn cynnwys effaith y celfyddydau ar lythrennedd a rhifedd, a sut mae ysgolion yn defnyddio’r celfyddydau i helpu i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad. 

Mae argymhelliad yr Athro Smith y dylid cynnwys creadigrwydd fel thema graidd o  fewn y cwricwlwm yn cael ei ystyried fel rhan o’r Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Trefniadau Asesu, sy’n cael ei arwain gan yr Athro Graham Donaldson. Bydd yr Athro Donaldson yn cyflwyno ei gasgliadau a’i argymhellion i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau rywbryd tua diwedd y flwyddyn hon neu ddechrau’r flwyddyn newydd.

Cyn hynny, byddwn yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, y consortia addysg, a phartneriaid eraill i fireinio ein cynlluniau ar gyfer ein cynnig newydd i ysgolion, sy’n ymwneud â’r celfyddydau a’r meysydd creadigol. Bydd y cynnig hwn yn ei gwneud yn bosibl i broffesiynolion mewn meysydd creadigol a sefydliadau diwylliannol ymgysylltu ag ysgolion a gweithio ochr yn ochr ag athrawon mewn ffyrdd sy’n rhoi sylw i flaenoriaethau addysgol, gan ganolbwyntio ar sicrhau deilliannau i’r dysgwyr. Fel rhan o’r gwaith paratoi hwn, rydym yn ystyried sut y gallai ymyriadau celfyddydol fod yn rhan o’r cynnig ar gyfer Her Ysgolion Cymru.

Byddwn yn gwneud datganiad ar unrhyw gynnydd pellach yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd y Cynllun terfynol yn cynnwys amrywiaeth lawn o gamau gweithredu, ochr yn ochr ag amserlenni, mesurau deilliannau, a mecanweithiau ar gyfer gwerthuso’r ddau ymyriad penodol, yn ogystal ag effaith y rhaglen yn ei chyfanrwydd. Bydd yn egluro sut y bydd y gyllideb yn cael ei rhannu, a’r hyn a wneir i sicrhau bod y gwaith a ariennir yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.