Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlodd Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru system gynllunio cwbl newydd, a oedd yn pennu fframwaith polisi cynllunio strategol ar gyfer ein moroedd am y tro cyntaf. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i’r Senedd, a sut y gallwn, drwy barhau i’w weithredu, warchod yr amrywiaeth fiolegol anhygoel sydd yn ein moroedd tra hefyd cefnogi diwydiannau a chymunedau arfordirol sy’n ffynnu. 

Er gwaethaf y cyfnod cythryblus diweddar, wrth adolygu tair blynedd gyntaf y cynllun, mae’n amlwg bod awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio ei bolisïau wrth wneud penderfyniadau, a bod hynny’n effeithio’n gadarnhaol ar ddulliau gweithredu ehangach o ran rheoli morol. Yn benodol, rwy’n croesawu’r dystiolaeth bod awdurdodau’n defnyddio rheoli addasol fel rhan o waith trwyddedu morol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy – dull gweithredu sydd yn dechnegol heriol, ond yn hollol hanfodol os ydym am ymateb i newid hinsawdd gyda’r brys angenrheidiol. 

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r polisïau o fewn y cynllun, rwy’n credu bod angen offer cynllunio penodol a all hwyluso dull gweithredu sy’n gynyddol ofodol a rhagnodol.

Mae’r gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo. Y llynedd, cyhoeddwyd canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau sy’n ymwneud ag ynni ffrwd lanw, ynni’r tonnau a dyframaethu. Mae’r canllawiau yn cynorthwyo cymunedau a datblygwyr i ddeall y potensial ar gyfer datblygu pellach ochr yn ochr â’r gofynion i ddiogelu nodweddion pwysig yr amgylchedd morol. Mae’r agwedd hon ac agweddau eraill ar gynllunio morol yn cael eu cyflwyno drwy fapiau rhyngweithiol sydd ar gael ar Borthol Cynllunio Morol Cymru. 

Gan ychwanegu at y gwaith hwn, rydym ar hyn o bryd yn mapio Ardaloedd Adnoddau Strategol potensial ar gyfer technolegau llanw, tonnau, gwynt arnofiol, agregau a dyframaethu. Mae’r sectorau hyn yn fodd hanfodol o’n galluogi i warchod ein cymunedau a’n bywyd gwyllt rhag effaith yr argyfwng hinsawdd. Maent hefyd yn cynrychioli potensial economaidd anferth a chyfleoedd i Gymru gadarnhau ei safle fel canolfan fyd-eang ar gyfer technoleg ynni morol. Gall potensial ynni anferth moroedd Cymru fod yn ffordd o ddenu swyddi o safon uchel ar draws holl arfordir y wlad, o’r Gogledd i’r De.

Mae datblygu’r Ardaloedd Adnoddau Strategol yn broses gydweithredol sydd wedi dibynnu’n helaeth ar ymrwymiad ac arbenigedd ystod eang o randdeiliaid, ac fe hoffwn fynegi fy niolch i iddynt am eu cymorth gwerthfawr. 

Bydd yr Ardaloedd Adnoddau Strategol yn ein galluogi i ddiogelu ardaloedd sydd â photensial ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol, tra hefyd feithrin ein dealltwriaeth o ran sut gallwn lywio gweithgarwch economaidd pwysig oddi wrth yr ardaloedd mwyaf amgylcheddol sensitif. Mae’n bwysig ein bod yn mabwysiadu dull rhagofalus o ran cynllunio morol yn unol â’n hegwyddorion amgylcheddol, gan geisio gwarchod ac adfer bywyd môr ac ecosystemau arfordirol. Rhaid inni hefyd sicrhau cynnydd o ran defnyddio technolegau, y mae rhai ohonynt yn wirioneddol arloesol. Wrth inni ddatblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol, ein nod fydd adlewyrchu’r cydbwysedd hwn yn ein dull gweithredu cyffredinol – gan ddatblygu ymhellach drwy ddefnyddio dull rhagofalus o ran atal niwed amgylcheddol. 

Eleni rwy’n bwriadu cyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl er mwyn ymgynghori arnynt, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan. 

Ochr yn ochr â hyn, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Datganiadau Technegol ar Gynllunio Morol, yn canolbwyntio ar ddiogelu buddiannau’r prif sectorau morol, gan gynnwys morgludiant, pysgota a chychod hamdden.

Dros y flwyddyn nesaf a chan ddatblygu argymhellion yr Archwiliad Dwfn diweddar ar Fioamrywiaeth, rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion pellach i roi cyfarwyddyd gofodol ar waith drwy Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried gofynion lliniaru a digolledu amgylcheddol yn strategol ar lefel cynllun, a datblygu gwell dealltwriaeth o ran capasiti datblygu posibl a chyfyngiadau amgylcheddol.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fapio ardaloedd sy’n cynnig cyfleoedd o ran adfer amgylcheddol ac i ddatblygu canllawiau cynllunio morol ffurfiol ar wneud penderfyniadau sy’n cefnogi’r gwaith o adfer ecosystemau morol.

Gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys diwydiannau morol, byddwn yn defnyddio Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru a’i fframwaith cynllunio strategol i ddarparu mwy o gyfarwyddyd gofodol ar gyfer gwarchod ein moroedd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy.