Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, roedd gan Gymru ddiwydiant garddwriaethol cyfoethog ac amrywiol a oedd yn cyflenwi anghenion lleol ac yn weithgaredd defnydd tir sylweddol yn lleol. Ond arweiniodd y symudiad at system fwyd fyd-eang yn negawdau olaf y ganrif, gydag arbenigedd cynhyrchu, at ddirywiad sylweddol mewn garddwriaeth yng Nghymru, ac yn wir yn y DU. Rydym bellach yn dibynnu'n helaeth ar fewnforion, boed o dramor neu rywle arall yn y DU.

Mae Llywodraeth Cymru'n gweld gwerth mewn annog garddwriaeth. Mae cynhyrchu ffrwythau a llysiau yn rhan bwysig o system fwyd. Mae angen nawr i dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru; boed yn dyfu cnydau yn yr awyr agored, perllannau a ffrwythau aeron, neu gnydau tyfu wedi'u gwarchod mewn tai gwydr a thwnelau polythen. Mae lle buddiol i arddwriaeth yng Nghymru, yn enwedig mentrau ar raddfa lai a mentrau amaeth-ecolegol. Gallai mwy o arddwriaeth greu elfen leol fwy i'r system fwyd, gan gryfhau gwytnwch y system a diogelwch bwyd, o bosibl. Gallai mwy o arddwriaeth greu cyflogaeth, datblygu cadwyni cyflenwi lleol sy'n ychwanegu gwerth, a gwella ein henw da cynyddol fel cenedl fwyd. Mae'r rhain yn fuddion a fyddai'n rhan o strategaeth fwyd mwy cymunedol.

Mae gennym gymorth busnes sylweddol ar waith i annog mentrau garddwriaeth newydd a phresennol. Rydym yn cefnogi tyfwyr drwy ddau gynllun ariannu pwrpasol - y Cynllun Datblygu Garddwriaeth a'r Cynllun Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth. Mae'r cynlluniau hyn yn rhoi cyfle i arddwyr Cymru ddod yn fwy cystadleuol, wrth ehangu eu busnesau mewn modd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Rydym hefyd wedi cefnogi datblygiad arloesol y gadwyn gyflenwi, er enghraifft drwy brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a ariennir gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol. Mae wedi cael llwyddiant cychwynnol ac mae'n ymddangos bod potensial i'w ehangu a'i brif ffrydio trwy weithio gyda phartneriaid. Mae ein cefnogaeth i hyfforddi garddwyr yn parhau drwy raglenni a ddarperir gan Lantra drwy elfen garddwriaethol y contract Cyswllt Ffermio. 

Ond mae ein gwaith wedi nodi heriau systemig sy'n rhwystrau posibl i gynnydd, a newid sylweddol. Yn 2023 comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar Rhwystrau sy'n atal datblygiadau garddwriaethol bychain yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i fynd i'r afael â rhwystrau gwirioneddol a thybiedig i ddatblygu garddwriaeth ar raddfa fach. Mewn ymateb, fe wnaethom sefydlu Gweithgor Cynllunio Garddwriaeth Cymru o randdeiliaid i gyd-gynhyrchu atebion i'r argymhellion hyn, a chynorthwyo i'w cyflwyno. Mae'r grŵp hwnnw wedi cyfarfod sawl gwaith dros y misoedd diwethaf i ystyried a chynllunio. Rydym wedi cytuno gyda'r grŵp, y byddai archwilio posibiliadau i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru i bwysleisio'r ffocws a'r pwysigrwydd penodol yr ydym yn ei roi ar arddwriaeth fel defnydd tir, gan gydnabod ei anghenion gweithredol unigryw, yn gam cyntaf.   Mae'r diweddariad hwn yn cael ei weld fel y cam cyntaf rhesymegol oherwydd bod Polisi Cynllunio Cymru yn gosod y fframwaith polisi cyffredinol ar gyfer defnydd tir. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol nodi ein bwriad polisi yn glir i sicrhau bod rhanddeiliaid a phartneriaid yn deall ein hamcanion yn llawn. Er ein bod yn cydnabod yr angen cyffredinol i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru, byddai unrhyw newidiadau penodol i’r polisi yn ddarostyngedig i waith ymgysylltu ychwanegol â rhanddeiliaid drwy’r gweithdrefnau ymgynghori arferol.

Y tu hwnt i hyn, rydym wedi ymrwymo i archwilio mesurau ychwanegol, fel yr awgrymwyd gan argymhellion yr adroddiad, i gefnogi awdurdodau cynllunio, ymgeiswyr garddwriaeth, a'u hasiantau i ddatblygu mentrau garddwriaeth llwyddiannus. Ein nod yn y pen draw yw meithrin sector garddwriaeth fwy a bywiog trwy ddull cytbwys sy'n integreiddio cynllunio gyda mentrau cefnogol eraill, gan ysgogi twf cynaliadwy ac arloesedd yn y diwydiant.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.