Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym ni fel Senedd wedi gosod targedau hynod uchelgeisiol ar gyfer datgarboneiddio, gan wneud Cymru’n arweinydd byd o ran technolegau newydd fydd yn pweru’r dyfodol, ac o ran ein cyfrifoldebau i’r byd.

Yr uchelgais yw bod trafnidiaeth a gwres yn rhedeg ar ynni adnewyddadwy ond gall rhwydweithiau trydan a nwy Cymru roi stop ar hynny.  Mae’n targed sero-net yn golygu bod angen i ni ailystyried y seilwaith sydd ei angen arnom i sicrhau newid cyflym ac effeithiol.

Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith ynni yn seiliedig ar gynigion datblygu unigol: os oes unrhyw un am gael ei gysylltu â’r grid, rhaid holi perchennog y grid a thalu’n llawn am gost y cysylltiad ymlaen llaw.  Mae hyn yn annog agweddau tymor byr ac nid yw o reidrwydd yn esgor ar gynllun strategol ar gyfer y rhwydwaith nac ar y canlyniad gorau i’r dinesydd.  Gallwn weld effeithiau’r ffordd hon o’i gwneud hi, sy’n dibynnu ar gynigion datblygwyr, yn ne-ddwyrain Lloegr lle ceir ffermydd gwynt niferus yn gyrru llawer o linellau grid gwahanol.  Problem arall yw nad yw’n rhoi digon o sylw i integreiddio rhwydweithiau nwy a thrydan a’r rôl y gall ffynonellau arloesol fel hydrogen ei chwarae.

Trwy’r Cynllun Cenedlaethol, rydym eisoes wedi ymrwymo i edrych o safbwynt tymor hir ar y Gymru a Garem a’r seilwaith fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.  Mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn nodi’r rhwydwaith ynni fydd ei angen ar Gymru yn y dyfodol a rhoi cynlluniau ar waith i’w hadeiladu yn y degawd hwn, os ydym am weld y newid y mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn dweud sydd ei angen erbyn 2030. Bydd hynny’n sicrhau hefyd nad yw pobl Cymru’n cael eu gadael ar ôl oherwydd seilwaith diffygiol.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod gweithredwyr yr holl rwydweithiau ynni yng Nghymru ac Ofgem, y rheoleiddwr, wedi cytuno i weithio gyda ni i ddatblygu cynllun tymor hir ar gyfer rhwydweithiau ynni Cymru. Byddwn yn edrych tua 2050 i ddeall pa rwydweithiau sydd eu hangen arnom i gynnal system ynni sero-net ac i wasanaethu’r cymunedau a’r lleoedd y byddant yn eu cefnogi. Bydd y gwaith yn cyfrannu at Cymru’r Dyfodol, Cynllun Cenedlaethol Cymru.

Byddwn yn rhoi arweiniad strategol i’r prosiect, i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n polisïau a’n blaenoriaethau.  Bydd perchenogion y rhwydwaith yn neilltuo adnoddau i’r broses ac yn defnyddio’i ganlyniadau i fwydo’u cynlluniau.  Bydd Ofgem yn rhoi cyngor annibynnol a diduedd i ddatblygu’r opsiynau.

Bydd ein ffocws ar ddod i gasgliad cytûn ar anghenion ynni tebygol Cymru hyd 2050 ac ar y camau y bydd angen i ddatblygu’r rhwydweithiau i’w diwallu.  Y cam cyntaf fydd casglu’r holl dystiolaeth.  Bydd hynny’n adeiladu ar y modelau sydd gennym gan gynnwys Senarios Ynni Dyfodol y Grid Cenedlaethol, senarios ynni cwmnïau’r grid, gwaith Zero2050 De Cymru a’n tystiolaeth ein hunain ar botensial ynni’r môr a’r glannau yn y dyfodol. Byddwn yn talu corff annibynnol i hwyluso’r gwaith er mwyn ei gwneud yn glir mai buddiannau Cymru, ac nid rhai unrhyw sefydliad unigol, sydd wrth galon y gwaith.  Ein nod yw bod y wlad gyntaf i ddyfeisio ffordd gytûn o ddatblygu rhwydweithiau nwy a thrydan.

Mae datblygu a chynnal cynlluniau seilwaith yn broses tymor hir.  Ond mae argyfwng yr hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni wneud hyn ar fyrder.  Rhaid i ni gael hyn yn iawn, gan mai dim ond unwaith mewn canrif y caiff newid fel hwn ei wneud i’n seilwaith.  Byddwn wrth reswm am i bob sector gyfrannu, a dwi’n ymrwymo i sicrhau hynny wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.