Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y gwaith o ddatblygu cynllun gweithlu gofal sylfaenol i Gymru, sy'n ategu’r cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru. Mae hefyd yn amlinellu'r egwyddorion sy'n sail i ddatblygu'r cynllun gweithlu a'i nodau.

Dylai pawb yng Nghymru gael cefnogaeth i wella eu hiechyd a'u lles, a phan fyddant yn sâl, dylent gael diagnosis, triniaeth a gofal gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir, a hynny'n brydlon ac mor agos â phosibl i'w cartrefi. Rydym am i fwy o wasanaethau iechyd fod ar gael mewn cymunedau lleol, gan leihau’r angen i bobl deithio neu fynd i’r ysbyty pan fo angen triniaeth arnynt.

Mae'r Meddyg Teulu yn parhau i fod wrth galon gofal sylfaenol yng Nghymru; ond yn fwyfwy, bydd pobl yn cael cyngor a gofal gan ystod ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol medrus sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol. Mae angen i'r gweithwyr proffesiynol hyn - nyrsys practis, uwch-ymarferwyr, fferyllwyr a ffisiotherapyddion er enghraifft - sy'n gweithio gyda meddygon teulu, fod yn gallu wynebu'r heriau sy'n dod yn sgil galw cynyddol am ofal iechyd; cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael diagnosis o un neu fwy o gyflyrau hirdymor a’r cynnydd yn nifer y bobl fregus a hŷn sydd ag anghenion gofal mwy cymhleth.

Mae nifer y bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru, neu sy'n cael eu hariannu gan y gwasanaeth, nawr yn fwy nag ar unrhyw adeg ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y rhan fwyaf o'r gweithwyr proffesiynol a fydd yn gweithio yn y GIG mewn 10 mlynedd eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd heddiw.  

Er y bydd bob amser angen recriwtio staff yn uniongyrchol i'r GIG, mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni hefyd sicrhau bod y gweithwyr presennol yn cael y cyfle i ymestyn eu sgiliau a'u profiad.

Mae Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd yn buddsoddi llawer mewn addysg a hyfforddiant bob blwyddyn; rhaid i ni dargedu hwn i helpu'r gweithlu presennol i ymgymryd â rolau newydd neu rai ehangach a manteisio ar gyfleoedd i weithredu ar lefel uwch, a fydd yn allweddol wrth greu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol.

Wrth i ni ailgynllunio'r gweithlu yng Nghymru, rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus. Ni ddylai unrhyw feddyg teulu fod yn gwneud unrhyw waith yn rheolaidd a allai gael ei wneud yr un mor briodol gan nyrs practis, fferyllydd clinigol neu uwch-ymarferydd parafeddygol. Yn yr un modd, ni ddylai unrhyw uwch-nyrs bractis fod yn gwneud gwaith yn rheolaidd a allai gael ei wneud gan weithiwr cymorth gofal iechyd.

Mae'r egwyddor uno ‘dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi ei wneud’ yn ganolog i wella gofal a mynediad at y gofal hwnnw. Dyma sut y gallwn hefyd wella'r llwyth gwaith a bodlonrwydd swydd dros y tymor hwy i bawb sy'n gweithio ym maes practis cyffredinol.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol weithio mewn partneriaeth gyda staff, y cyhoedd, y gweithlu ar gontract a'r trydydd sector i:

  • Lunio cynlluniau clir, ar lefel byrddau iechyd lleol ac yn fwyfwy ar lefel clwstwr, ar gyfer symud gwasanaethau o leoliadau acíwt ac ysbytai i'r gymuned, ac wrth wneud hynny datblygu cyd-ddealltwriaeth well o'r gwaith a gaiff ei wneud ym maes gofal sylfaenol yn y dyfodol ac edrych ar siâp, maint a sgiliau angenrheidiol gweithlu'r dyfodol.  
  • Rhoi sgiliau i'r gweithlu i asesu ac ymateb i anghenion iechyd y boblogaeth. Mae byrddau iechyd lleol eisoes yn gyfrifol, drwy Ddeddf GIG Cymru 2006, am gynllunio a darparu gwasanaethau ar sail y boblogaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn atgyfnerthu'r ddyletswyddau honno drwy’r angen i gynnal asesiadau o'r boblogaeth mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ynghyd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
  • Newid diwylliant, disgwyliadau a arferion gwaith y gweithlu cyflogedig a’r gweithlu ar gontract i greu yr amodau gorau posibl i ddiogelu gweithlu’r dyfodol. Bydd angen i hyn gynnwys mwy o hyblygrwydd wrth weithio rhwng y gymuned a’r ysbytai er budd y rheini sy’n derbyn gofal a helpu gyda datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu.
  • Newid natur y 'berthynas' gofal sylfaenol gan gynnwys defnyddio meddygon teulu a systemau contract eraill, a lle y bo'n briodol, drwy fodelau uniongyrchol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu timau amlddisgyblaethol a gallu y 64 o glystyrau gofal sylfaenol i arwain.
  • Newid ffocws ein rhaglen addysg a hyfforddiant feddygol i roi diwedd ar y duedd gref ar hyn o bryd tuag at y sector acíwt ac i cynyddu'r ystod o raglenni addysg a hyfforddiant anfeddygol ar gyfer amrywiaeth ehangach o swyddi.

Bydd y cynllun gweithlu gofal sylfaenol yn rhoi seiliau yn eu lle ar gyfer dull mwy cadarn o gynllunio'r gweithlu a chomisiynu addysg, cefnogi datblygiad parhaus y clystyrau gofal sylfaenol a rhannu arferion da a buddsoddi yn y broses gyflym o ddatblygu ac integreiddio'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach.

Bydd yn ymateb i'r pwysau yn y maes gofal sylfaenol ar hyn o bryd, o ganlyniad i ofynion sy'n newid, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy. Yn hyn o beth, rwyf wedi ymateb yn ddiweddar i argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'i ymchwiliad byr i weithlu meddygon teulu yng Nghymru.

Bydd y cynllun hefyd yn ystyried argymhellion yr adolygiad o addysg broffesiynol gofal iechyd yng Nghymru, dan arweinyddiaeth Mel Evans, a gomisiynwyd y llynedd i weld a yw Cymru yn cael gwerth am arian o'r trefniadau presennol, ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi'n fuan.

Bydd arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol yn cael ei benodi i fwrw ymlaen â'r cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol i Gymru a’r cynllun gweithlu. Dyma rôl arweiniol bwysig, a bydd yn helpu i gyflawni ein nod o drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru a sicrhau mai gofal sylfaenol sy'n gyrru'r GIG.

Bydd yn cymryd amser i gyflawni nifer o'r newidiadau yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol a chynllun y gweithlu. Fodd bynnag, dyma gyfle i wneud newid hollbwysig, ac ni allwn fforddio ei golli.

Hoffwn ddiolch i'r miloedd o bobl sy'n rhan o'n gweithlu gofal sylfaenol, o'r bobl sy'n gweithio yn y dderbynfa i'r arbenigwyr. Y nhw yw’r graig y mae'r cyhoedd yn dibynnu arni, i ddarparu'r nifer o wasanaethau iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol.