Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r QAA wedi cyhoeddi tri adroddiad mewn perthynas â Phrifysgol Cymru.  Mae’r adroddiad cyntaf yn seiliedig ar ganfyddiadau adolygiad o’r sefydliadau gafodd ei wneud ym mis Hydref 2010.  Nodaf hyder y QAA yn rheolaeth, safonau academaidd a sgiliau addysgu Prifysgol Cymru. 

Wedi dweud hynny, mae’n bryder i mi fod y ddau adroddiad arall lawer yn llai boddhaol.  Mae’r naill yn trafod sut y mae’r Brifysgol yn bodloni ei hun am enw da’r sefydliadau hynny sy’n bartner iddi, gan ganolbwyntio ar sefydliadau partner penodol yn Singapôr, Bangkok a Kuala Lumpur.  Paratowyd yr adroddiad yn sgil pryderon a godwyd yn ystod yr hydref y llynedd am gyrsiau a ddilysir gan Brifysgol Cymru mewn sefydliadau tramor.  Roedd yr adroddiad arall yn archwiliad o ddarpariaeth dramor Prifysgol Cymru yn Singapôr a chafodd ei wneud yn 2010-11.  Mae’n canolbwyntio ar bartneriaeth y Brifysgol ag un sefydliad yn benodol. Mae’r ddau adroddiad wedi tynnu sylw at wendidau mawr yn nhrefniadau dilysu allanol y Brifysgol ac yn y modd y mae’n rheoli ei threfniadau cydweithredol. 

Yr wyf yn croesawu’r ffaith fod y QAA yn bwriadu gweithio’n agos â Phrifysgol Cymru i gytuno ar gynllun gweithredu, gan fanylu ar y camau a gwblhawyd a’r cynnydd a wnaed.  Caiff hyn ei fonitro mewn cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Brifysgol a swyddogion QAA.

Bydd yr Aelodau’n gwybod, yn dilyn fy Natganiad blaenorol ar 21 Mawrth 2011, fy mod wedi gofyn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) roi sicrwydd i mi fod y Brifysgol yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd mewn perthynas â sicrhau ansawdd.  Rwyf wedi cyhoeddi’r ohebiaeth a ddilynodd rhwng Cadeirydd CCAUC a Phrif Weithredwr QAA a minnau.

Fel y gwnaed yn glir gennyf yn y Datganiad hwnnw, roeddwn yn disgwyl i’r Brifysgol fynd ati i ymateb i’r problemau a glustnodwyd.  Mae’n destun cryn bryder i mi bod tystiolaeth bellach yn yr adroddiadau a gafwyd heddiw fod yn y Brifysgol wendidau difrifol nad yw eto wedi mynd i’r afael â hwy. 

Rwyf wedi gofyn i CCAUC roi adroddiad i mi am y prosesau craffu a roddwyd ar waith gan Gorff Llywodraethu Prifysgol Cymru ynghylch gweithgareddau rhyngwladol y Brifysgol yn y ddwy flynedd diwethaf.  Rwy’n disgwyl i Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru ddangos ei fod yn cymryd y materion hyn o ddifrif.

Fel y dangoswyd yn Adolygiad McCormick yn ddiweddar, mae angen dulliau llywodraethu da yn genedlaethol ac yn sefydliadol i sicrhau fod system addysg uwch Cymru yn medru cystadlu â sefydliadau o bob rhan o’r byd, ei bod yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ac yn ymateb i anghenion dysgwyr, sy’n anghenion sy’n newid yn gyson.  Rwy’n disgwyl i’r rhai hynny sydd â swyddi llywodraethu uwch yn ein sefydliadau addysg uwch gadw llygad barcud ac effeithiol ar weithgareddau eu prifysgol yn unol â’u cyfrifoldebau fel llywodraethwyr.  Mae enw da addysg uwch Cymru gyfan yn y fantol.  Mae’n hollbwysig felly, bod Prifysgol Cymru yn mynd i’r afael â’r gwendidau a amlygir yn yr adroddiadau hyn ar fyrder, a chyda’r brys mwyaf.